Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er mwyn cefnogi ein gweledigaeth i sicrhau teithio diogel i bawb, rwyf wedi cymeradwyo drafftio deddfwriaeth i ganiatáu i awdurdodau priffyrdd yng Nghymru ddefnyddio croesfannau sebra ffordd ochr ar ffyrdd 20mya os ydynt yn dymuno gwneud hynny. 

Mae'r gwaith hwn yn cefnogi gweledigaeth ehangach Llywodraeth Cymru i gefnogi teithio hygyrch a chynhwysol i bawb, lle y gall pawb symud yn ddiogel a theimlo'n ddiogel yn eu cymunedau. 

Bydd y croesfannau hyn yn cefnogi diwygiadau 2022 i Reolau'r Ffordd Fawr sy'n ei gwneud yn ofynnol i yrwyr ildio i gerddwyr sy'n croesi neu'n aros i groesi ffordd y maent yn troi iddi.

Mae croesfan sebra ffordd ochr yn defnyddio marciau sebra du a gwyn a llinellau ildio ond nid oes ganddo nodweddion eraill y croesfannau y mae pobl wedi arfer â nhw fel goleuadau sy'n fflachio neu farciau igam-ogam. Felly, gellir gosod croesfannau sebra ffordd ochr ar linell gerdded ddymunol y cerddwr, yn uniongyrchol ar draws ceg y gyffordd ac maent yn sylweddol rhatach ac yn gyflymach i'w gosod a'u cynnal. 

Cafodd croesfannau sebra ffordd ochr eu treialu mewn tri lleoliad yng Nghaerdydd yn 2022 i gefnogi'r broses o gyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd adeiledig ac i:

  • annog rhagor o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella ein hiechyd a'n lles
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel

Nod y treial oedd deall effeithiau a chanfyddiadau defnyddwyr y croesfannau sebra hyn a phenderfynu ynghylch eu defnyddio'n fwy helaeth.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru VivaCity i gasglu data dienw ar ddefnyddio'r croesfannau ac i gynnal ymchwil gyda defnyddwyr, gan gynnwys gyda grwpiau anabledd. Bu rhagor o waith ymgysylltu â phanel hygyrchedd a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru yr haf hwn. Mae'r sebras ffordd ochr a ddefnyddir yng Nghaerdydd wedi bod yn boblogaidd ac maent yn dal i fod ar waith yn dilyn y treial.

Ni chanfu'r treialon yng Nghaerdydd a threialon tebyg ym Manceinion a San Steffan unrhyw dystiolaeth y byddai defnyddio croesfan sebra ffordd ochr yn peri risg sylweddol uwch nag un sy'n defnyddio'r amrediad llawn o nodweddion, ac roeddent yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y gyrwyr sy'n ildio i gerddwyr o'u cymharu â chyffyrdd hebddynt.

Bydd y newidiadau arfaethedig i'r ddeddfwriaeth yn rhoi'r opsiwn i awdurdodau priffyrdd osod croesfan sebra ffordd ochr ar gyffyrdd, lle mae gan y brif ffordd a'r ffordd ochr derfyn cyflymder o 20mya. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar awdurdodau priffyrdd i ddefnyddio'r croesfannau sebra ffordd ochr hyn, ond bydd y diwygiadau i'r ddeddfwriaeth yn caniatáu iddynt wneud hynny lle maent yn credu y byddant yn gwella diogelwch cerddwyr.

Cafodd ymgynghoriad pedair wythnos â rhanddeiliaid ei lansio yn ddiweddar a bydd yn cau ar 15f Rhagfyr. Bydd gwaith pellach gyda rhanddeiliaid yn cael ei wneud i ddrafftio canllawiau ar gyfer awdurdodau priffyrdd i'w cefnogi i benderfynu pryd a ble i ddefnyddio'r croesfannau sebra ffordd ochr hyn. 

Bydd deddfwriaeth yn cael ei gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror 2026, a chynigir y dylai ddod i rym yn ystod mis Mawrth 2026.