Datganiad cenhadaeth ac egwyddorion
Rhagor o fanylion am bwrpas Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus.
Cynnwys
Datganiad cenhadaeth
Bydd y fforwm yn ffordd i Lywodraeth Cymru, cyflogwyr datganoledig y sector cyhoeddus ac undebau llafur ddatblygu atebion ar y cyd i faterion yn ymwneud â'r gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol. Bydd yn hyrwyddo cyflogaeth deg, gyfartal ac egwyddorol; yn llywio'r gwaith o datblygu polisi; ac yn annog trafodaeth strategol.
Bydd y fforwm yn ymgorffori ein hymrwymiad i Bartneriaeth Gymdeithasol trwy gynrychiolaeth deirochrog, consensws ac ymarfer ar y cyd.
Egwyddorion
- Bydd Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus yn gyfle i Lywodraeth Cymru, cyflogwyr y sector cyhoeddus datganoledig a'u hundebau llafur cydnabyddedig ddatblygu atebion ar y cyd ar draws y sector i faterion yn ymwneud â'r gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol sy'n hyrwyddo cyflogaeth deg, gyfartal a moesegol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus ac ymatebion a rennir i natur newidiol gwaith.
- Bydd y fforwm yn lle i undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar ddatblygiad polisi perthnasol sy'n ymwneud â'r gweithlu ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus drwy:
- Sganio'r gorwel er mwyn deall sefyllfaoedd yn well a nodi tactegau datrys problemau, i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n codi o fewn gweithlu'r sector cyhoeddus.
- Deialog strategol
- Rhannu gwybodaeth ac arferion da.
- Tynnu sylw at broblemau cyffredin a gweithio mewn partneriaeth ar draws y sectorau i ddod o hyd i ddatrysiadau.
- Darparu safbwynt, arweiniad a chyfarwyddyd ar y cyd.
- Coladu ymchwil berthnasol.
- Mae'r fforwm yn dangos ymrwymiad yr holl randdeiliaid i Bartneriaeth Gymdeithasol trwy:
- gynrychiolaeth deirochrog, sy'n gweithredu mewn partneriaeth gyfartal
- consensws wrth bennu'r rhaglen waith, adnoddau, ymchwil yn y dyfodol, a chomisiynu ymchwil o'r fath
- arferion ar y cyd wrth gyflawni'r rhaglen waith
- egwyddorion aelodaeth sef bod yn agored, onestrwydd, ymddiriedaeth ac uniondeb mewn trafodaethau a pharchu safbwyntiau partneriaid eraill.
- Bydd y fforwm yn ganolbwynt ar gyfer adnoddau allweddol i sefydliadau yn y sector cyhoeddus datganoledig, eu hundebau llafur cydnabyddedig, a/neu gynrychiolwyr gweithwyr. Bydd yr adnoddau a gedwir yn cael eu cytuno mewn partneriaeth gymdeithasol.
- Bydd y fforwm yn parhau i fod yn annibynnal ar y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a bydd yn pennu ei gyfeiriad ei hun. Fodd bynnag, gellir ei ddefnyddio fel adnodd ar gyfer cyngor a gwybodaeth gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
- Nid fforwm ar gyfer cydfargeinio, datrys anghydfodau lleol, na materion sy'n ymwneud â sectorau penodol yw hwn. Parheir i ymdrin â'r rhain drwy drefniadau lleol.
- Ni fydd y fforwm yn torri unrhyw gytundebau lleol presennol neu yn y dyfodol rhwng cyflogwyr, undebau llafur neu gynrychiolwyr gweithwyr.
- Nid yw'r fforwm yn gorff sofran, felly dim ond trwy ddylanwad ac ymrwymiad y tri phartner i weithio gyda'i gilydd y gall y fforwm sicrhau bod arferion da ac arweiniad yn cael eu rhannu a'u rhoi ar waith.
