Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n gwneud y Datganiad hwn i hysbysu’r Aelodau fy mod yn lansio ‘Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru – Canllawiau Arferion Gorau’ heddiw.

Y canllawiau hyn yw ffrwyth y gwaith diweddaraf gan y Gweithgor Asedau Cenedlaethol ac fe’u datblygwyd mewn ymateb i adborth gan sawl sector, gan gynnwys awdurdodau lleol, y trydydd sector a chynghorau tref a chymuned, a nododd fod angen datblygu dogfen ganllaw gyffredinol i gefnogi’r agenda Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

Bwriad y canllawiau yw cefnogi newid sylweddol o ran galluogi cymunedau i chwarae rôl fwy gweithredol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, paratoi sefydliadau’n well i drosglwyddo asedau cymunedol, a thrwy hynny yn datblygu defnydd hirdymor ffyniannus a chynaliadwy ar gyfer asedau eiddo a gwasanaethau mewn cymunedau ledled Cymru.

Maent yn ategu canllawiau cyfredol fel y llawlyfr a lansiwyd yn ddiweddar gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a byddant yn helpu i ddatblygu ymgynghoriad ar Asedau o Werth Cymunedol y bydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn ei lansio ym mis Mai 2015. Nod yr ymgynghoriad fydd datblygu model penodol i Gymru er mwyn diogelu, gwella a gwarchod asedau er budd ein cymunedau.

Mae cyhoeddi’r canllawiau hyn hefyd yn rhan o bolisi ehangach gan Lywodraeth Cymru i roi cydfuddiant, cydweithredu a chydberchnogaeth wrth wraidd trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, fel sy’n cael ei adlewyrchu yn y Papur Gwyn ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol’. Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wedi comisiynu gwaith ar y cyd i ymchwilio i rôl bosibl cwmnïau cydfuddiannol, cwmnïau cydweithredol a chydberchnogaeth o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus modern, a fydd yn adrodd ganol mis Ebrill.

Mae’r canllawiau ar gael ar lein.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.