Sut i asesu effaith amgylcheddol bosibl prosiect, a beth i'w gyflwyno.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA) yn offeryn a ddefnyddir i asesu effeithiau amgylcheddol posibl datblygiad. Mae AEA yn berthnasol i brosiectau sy'n debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol oherwydd eu natur neu eu maint, neu sydd o fewn ardal amgylcheddol sensitif.
Dyma wybodaeth am ddefnyddio AEA ar gyfer prosiectau yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu yn eu cylch. Dylid ei darllen ochr yn ochr â'r Rheoliadau AEA perthnasol ar gyfer eich prosiect ac unrhyw ganllawiau AEA penodol sy'n berthnasol i'ch cais.
Mae'r mathau o ddatblygiadau y mae angen AEA arnynt wedi cael eu nodi yn y rheoliadau perthnasol. Yn benodol:
- 'Datblygiad Atodlen 1', sef datblygiad yr ystyrir bod angen AEA arno yn awtomatig – megis gorsafoedd pŵer niwclear, gosodiadau cemegol integredig, adeiladu traffyrdd gwaredu gwastraff peryglus; a
- 'Datblygiad Atodlen 2', sef datblygiad penodedig arall sydd dros drothwyon perthnasol sy'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd oherwydd ffactorau megis ei natur, ei faint neu ei leoliad.
O dan y Rheoliadau AEA mae gan Weinidogion Cymru hefyd y pŵer i ddweud bod angen AEA ar ddatblygiad. Gall ymgeiswyr hefyd benderfynu cynnal AEA yn wirfoddol heb ofyn am gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
Rhaid cyflwyno Datganiad Amgylcheddol (DA) gyda cheisiadau y mae angen AEA arnynt sy'n nodi'r effeithiau tebygol ar yr amgylchedd.
Hyd yn oed os nad oes angen AEA ar ddatblygiad, efallai y bydd angen cyflwyno gwybodaeth amgylcheddol benodol gyda'r cais, er enghraifft: asesiad o berygl llifogydd, asesiad o'r effaith ar y dirwedd a'r effaith weledol, neu wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol. Cynghorir ymgeiswyr i drafod cynigion gyda PEDW cyn gynted â phosibl i gael gwybod am yr union wybodaeth sydd ei hangen.
Ystyried AEA yn gynnar
Anogir darpar ymgeiswyr i ystyried a fydd angen AEA ar eu cais yn gynnar. Gall ymgeiswyr ddewis gofyn am gyfarwyddyd sgrinio neu gwmpasu AEA gan PEDW.
Efallai y bydd tâl am gyfarwyddyd sgrinio neu gwmpasu AEA, cynghorir ymgeiswyr i wirio'r atodlen ffioedd sy'n berthnasol i'w cais.
Diffinio'r prosiect at ddibenion AEA
Cyn cyflwyno cais am Gyfarwyddyd Sgrinio neu Gwmpasu, rhaid i'r ymgeisydd ddisgrifio'r 'prosiect' cyfan at ddibenion AEA y tu hwnt i'r disgrifiad o'r datblygiad. Gall hyn gynnwys elfennau o'r prosiect cyffredinol na fyddant yn rhan o'r cais.
Pan fydd nifer o brosiectau cysylltiedig, dylai ymgeiswyr ystyried y materion canlynol, a allai olygu eu bod yn un prosiect at ddibenion AEA:
- Perchnogaeth: dau safle sy'n eiddo i'r un person neu sy'n cael eu hyrwyddo gan yr un person
- Penderfyniadau cydamserol: pan fydd dau gais yn cael eu hystyried yn ystod y broses benderfynu ac yn ddarostyngedig i adroddiadau sy'n croesgyfeirio at ei gilydd
- Rhyng-ddibyniaeth weithredol: pan na allai un rhan o ddatblygiad weithredu heb ran arall
Sgrinio AEA
Gellir cyflwyno cais sgrinio i benderfynu a oes angen AEA ar brosiect arfaethedig.
Gofynion cyflwyno ar gyfer ceisiadau Sgrinio AEA
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno:
- cynllun sy'n nodi'r tir yn ddigonol wedi'i dynnu i raddfa benodedig, sy'n dangos cyfeiriad y gogledd
- disgrifiad o'r datblygiad, gan gynnwys
- disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, lle bo hynny'n berthnasol, y gwaith dymchwel
- disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae'n debygol yr effeithir arnynt
- disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y datblygiad, gan gynnwys unrhyw waith technegol/arolygu rhagarweiniol
- disgrifiad o unrhyw effeithiau arwyddocaol tebygol, i'r graddau y mae gwybodaeth ar gael am yr effeithiau hynny, o'r datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd sy'n deillio o:
- y gweddillion a'r allyriadau disgwyliedig a'r gwastraff a gynhyrchir, pan fydd hynny'n berthnasol
- defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth
- gwybodaeth arall o'r fath am unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd.
Dylai'r disgrifiad o'r datblygiad nodi pob agwedd ar yr amgylchedd mae'n debygol yr effeithir arno yn sylweddol gan y datblygiad gan ddefnyddio'r penawdau yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau AEA, sef:
- nodweddion y datblygiad
- lleoliad y datblygiad
- nodweddion yr effeithiau posibl.
Os nad yw digon o wybodaeth wedi cael ei chyflwyno gyda chais am gyfarwyddyd sgrinio neu gwmpasu, gall PEDW ofyn am wybodaeth ychwanegol.
Ein nod yw cyhoeddi'r Cyfarwyddyd Sgrinio o fewn 21 diwrnod ar ôl derbyn y cais neu gyflwyno unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani.
Cwmpasu AEA
Pan fydd angen AEA gall ymgeiswyr ofyn am gyfarwyddyd cwmpasu ffurfiol ar yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol (DA).
Ni ddylai ymgeiswyr ofyn am gyfarwyddyd cwmpasu nes bod:
- digon o sicrwydd ynghylch y disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, a
- dealltwriaeth ddigonol o'r ffordd mae'r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith amgylcheddol sylweddol.
Y gofynion cyflwyno ar gyfer cais am Gyfarwydd Cwmpasu AEA
Rhaid i gais am gyfarwyddyd cwmpasu ar ffurf adroddiad cwmpasu gynnwys yr un wybodaeth ag a nodir uchod ar gyfer ceisiadau am Gyfarwyddyd Sgrinio AEA. Yn ogystal ag:
- amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a gafodd eu hystyried a'r rhesymau dros ddewis yr opsiwn a ffefrir;
- canlyniadau astudiaethau pen bwrdd a llinell sylfaen pan fyddant ar gael;
- cofnod o'r ymgynghori wedi'i gynnal â chyrff perthnasol (gan gynnwys unrhyw ymgysylltu â'r cyhoedd) hyd yma;
- cynlluniau â chyfeiriadau wedi'u cyflwyno ar raddfa briodol i gyfleu'n glir yr wybodaeth a'r holl agweddau hysbys sy'n gysylltiedig â'r cynnig;
- canllawiau a'r arferion gorau y dibynnwyd arnynt, ac a gytunwyd ar y rhain gyda'r cyrff perthnasol (er enghraifft y cyrff cadwraeth natur statudol neu awdurdodau lleol) ynghyd â chopïau o ohebiaeth i gefnogi'r gymeradwyaeth hon;
- y dulliau a ddefnyddiwyd neu y bwriedir eu defnyddio i asesu'r effeithiau, a'r fframwaith meini prawf arwyddocâd a ddefnyddiwyd;
- unrhyw liniaru arfaethedig a'r graddau y mae'r rhain yn debygol o leihau'r effeithiau;
- pan fydd effeithiau datblygu canlyniadol neu gronnus wedi cael eu nodi, y ffordd mae ymgeiswyr yn bwriadu asesu'r effeithiau hyn yn y DA (er enghraifft, asesiad lefel uchel o'r cysylltiad grid os nad yw hyn yn rhan o'r datblygiad arfaethedig ar gyfer gorsaf bŵer);
- syniad o unrhyw safleoedd cadwraeth natur Ewropeaidd dynodedig y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y datblygiad arfaethedig a natur yr effeithiau sylweddol tebygol ar y safleoedd hyn;
- pynciau allweddol a drafodir yn rhan o ymarfer cwmpasu ymgeiswyr;
- cyfiawnhad dros faterion y mae'r ymgeisydd yn dymuno eu cwmpasu; a
- amlinelliad o strwythur y DA.
Dylid nodi'r elfennau o'r datblygiad arfaethedig sy'n debygol o gael effaith amgylcheddol sylweddol hefyd. Pan fydd ansicrwydd o hyd, dylai'r ymgeisydd ddarparu cymaint o fanylion â phosibl neu gymryd yn ganiataol y senario gwaethaf.
Penderfynu ynghylch y Cwmpas
Bydd PEDW yn cyhoeddi cyfarwyddyd cwmpasu, ar ôl ystyried yr wybodaeth wedi'i rhoi yn adroddiad cwmpasu'r ymgeisydd a'r sylwadau wedi'u rhoi gan unrhyw ymgyngoreion.
Bydd y cyfarwyddyd cwmpasu yn cynnwys:
- unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'u derbyn mewn perthynas â'r cais am gyfarwyddyd cwmpasu;
- sylwadau ar gwmpas y DA; a
- sylwadau ar y fethodoleg arfaethedig gan gynnwys yr ymgynghori wedi'i argymell.
Mae PEDW yn cynnig cyngor cyn-ymgeisio a gall gyhoeddi diweddariadau i gyfarwyddiadau cwmpasu ar gais os rhoddir gwybodaeth ychwanegol neu os yw'r prosiect yn newid.
Mae PEDW yn ceisio cyhoeddi cyfarwyddyd cwmpasu o fewn wyth wythnos i dderbyn y cais, neu gyfnod hirach rhesymol os bydd angen hynny.
Newidiadau dilynol i'r prosiect neu wybodaeth amgylcheddol
Os daw gwybodaeth newydd i'r amlwg a allai effeithio ar y penderfyniad ynghylch a oes angen AEA ar ddatblygiad, neu os bydd y datblygiad arfaethedig ei hun yn newid yn sylweddol, dylai ymgeiswyr gyflwyno cais newydd am gyfarwyddyd sgrinio a / neu gwmpasu.
Yn yr un modd, os cyflwynir cais a bod rhywbeth wedi newid yn sylweddol ers cyhoeddi'r penderfyniad sgrinio, bydd PEDW yn ail-sgrinio’r datblygiad arfaethedig cyn i'r cais gael ei ddilysu. Os yw'r ail-sgrinio’n nodi bod angen AEA ar y datblygiad, bydd angen DA ac ni ellir dilysu'r cais nes bod y DA wedi cael ei gyflwyno.
Y ddeddfwriaeth berthnasol
- The Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (Wales) Regulations 2017 (as amended)
- The Marine Works (Environmental Impact Assessment) Regulations 2007 (as amended)
