Cynllun Ffermio Cynaliadwy:
mae cymorth ffermydd yn newid
Ers Ionawr 2026, mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) wedi cymryd lle'r Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) fel y prif ffynhonnell o gymorth i ffermydd yng Nghymru.
Bydd yr SFS yn eich cefnogi i:
- barhau i gynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf yn gynaliadwy
- eich helpu i reoli effeithiau newid yn yr hinsawdd ar eich fferm
- helpu natur i ffynnu
Mae'n cynnwys camau fel:
- profion pridd i'ch helpu i wella iechyd pridd
- meincnodi er budd gwytnwch busnesau fferm
- creu a chynnal cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd
- plannu coed a gwrychoedd i wella'ch fferm
- gwella ymhellach y safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid ar eich fferm
- cefnogaeth ar gyfer dysgu parhaus i adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol
Pwy sy'n gymwys
Bwriad yr SFS yw cefnogi ffermwyr sydd:
- yn cynnal gweithgareddau amaethyddol
- bydd gennych o leiaf dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru, neu gallwch ddangos i chi weithio mwy na 550 awr o lafur safonol
- â rheolaeth lwyr ar y tir am o leiaf ddeng mis y flwyddyn
Dyddiadau allweddol ar gyfer yr SFS
31 Rhagfyr 2026
Cwblhau'r holl Weithredoedd Cyffredinol perthnasol ar gyfer blwyddyn y cynllun 2026.
1 Ionawr 2027
Bydd yr Haen Gyffredinol yn rhedeg yn flynyddol ar raglen dreigl gyda'r Cynllun yn dechrau ar 1 Ionawr bob blwyddyn.
15 Ionawr 2027
Ar gyfer pob busnes fferm a ymunodd â Haen Gyffredinol yr SFS yn 2026, rhaid i chi ddiweddaru eich Dangosfwrdd Cyffredinol erbyn 15 Ionawr i gadarnhau a yw eich Gweithredoedd Cyffredinol 2026 wedi'u cwblhau. Ni fydd taliadau balans SFS 2026 yn cael eu cyhoeddi nes bod y Dangosfwrdd wedi'i gwblhau.
Dechrau Mawrth 2027
Bydd Ffurflen Cais Sengl 2027 yn agor ddechrau mis Mawrth (dyddiad i'w gadarnhau). Y SAF yw'r broses lle rydych chi'n cadarnhau eich bod yn ymuno â’r Cynllun ac yn gwneud cais am y taliad.
Nid yw ymuno â Haen Gyffredinol yr SFS yn broses gystadleuol. Os byddwch yn bodloni meini prawf cymhwystra y cynllun ac yn ymrwymo i ymgymryd â'r Gweithredoedd Cyffredinol, byddwch yn gallu cymryd rhan yn y Cynllun.
17 Mai 2027
Dyddiad Cau Ffurflen Cais Sengl 2027.
Gwyliwch ein animeiddiad sy'n esbonio'r cynllun
Beth mae'r Cynllun yn ei gynnwys
Mae gan yr SFS dair lefel:
Gweithredoedd Cyffredinol
12 gweithgaredd craidd yr ydym yn gofyn i bob ffermwr eu gwneud. Fodd bynnag, efallai na fyddant i gyd yn berthnasol i'ch fferm, ac efallai eich bod eisoes yn gwneud rhai ohonynt.
Gweithredoedd Opsiynol
Gweithgareddau ychwanegol y gallwch ddewis eu gwneud am gyllid ychwanegol.
Gweithredoedd Cydweithredol
Cefnogaeth i ffermwyr weithio gyda'i gilydd i gyflawni canlyniadau na ellir eu cyflawni ar un fferm.
Gweler y disgrifiad o'r cynllun am gyflwyniad i'r Camau Gweithredu Dewisol a Chydweithredol.
Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi wrth i'r camau gweithredu hyn ddod ar gael.
Rhagor o wybodaeth
Darganfod mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar LLYW. CYMRU
