Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni o'r Swistir ar fin ehangu ei weithrediadau gweithgynhyrchu yng Nghasnewydd fel rhan o gytundeb gyda chwmni technoleg blaenllaw yn y sector awyrofod ac amddiffyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cicor Group wedi ymrwymo i gytundeb cyflenwi strategol gyda chwmni technoleg blaenllaw sy'n weithgar yn y diwydiant awyrofod ac amddiffyn byd-eang ac wedi dewis trosglwyddo rhan sylweddol o'r gwaith cynhyrchu i'w safle yn Nhŷ-du, Casnewydd.

Mae'r contract pum mlynedd cychwynnol yn cryfhau ymhellach arweinyddiaeth Cicor ym marchnad diwydiant awyrofod ac amddiffyn Ewrop ac mae disgwyl i drosiant Cicor gynyddu miliynau o bunnoedd, swm a allai fod yn y miliynau ffigurau dwbl canolig.

Bydd yn cynyddu cyfran y gwaith awyrofod ar safle Casnewydd o 5 y cant o'r allbwn i 25 y cant, gan greu nifer o swyddi i ddechrau, gyda'r potensial am fwy yn y dyfodol.

Cyfarfu Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, â Cicor yn nigwyddiad DSEI UK a gynhaliwyd yn Llundain, ym mis Medi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Ehangu Cicor yng Nghasnewydd yw'r union fath o fewnfuddsoddiad yr ydym yn edrych i'w ddenu yn ein Uwchgynhadledd Buddsoddi ryngwladol yn ICC Cymru yr wythnos nesaf.

Mae Cymru'n genedl ddeinamig sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ac rydym yn ymrwymedig i weithio gyda busnesau i greu'r amodau a'r cyfle cywir ar gyfer twf, buddsoddi a chreu swyddi.

Rydym yn ymfalchïo mewn galluoedd o'r radd flaenaf yn y sectorau amddiffyn ac awyrofod a bydd ehangu Cicor yn darparu swyddi pellach â chyflog da i weithwyr proffesiynol medrus yn y diwydiant uwch-dechnoleg hwn.

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Cicor, Lee Harrhy: 

Mae'r buddsoddiad hwn yn dod â thechnoleg newydd a swyddi newydd, gan gynyddu'r maes cynhyrchu awyrofod ac amddiffyn yma yng Nghasnewydd. Hefyd mae'n cryfhau sefyllfa Cicor fel un o'r prif weithgynhyrchwyr yn y sector awyrofod ac amddiffyn yn Ewrop.