Eluned Morgan AS, y Prif Weinidog a Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Rydym ni am i bob plentyn yng Nghymru dyfu i fyny mewn cartref cynnes, hapus a chariadus, yn rhydd rhag gofidion tlodi. Dyma'r gofynion sylfaenol ar gyfer sicrhau bod ein plant yn ffynnu trwy gydol eu bywydau.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r cam y mae'r Canghellor wedi'i gymryd yn y Datganiad Cyllideb i roi terfyn ar y Cap Dau Blentyn. Nid yw'n iawn bod plant wedi cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi o ganlyniad uniongyrchol i'r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth flaenorol y DU. Rydym wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i ddiddymu'r polisi hwn, ac mae'n wych eu bod bellach wedi gwrando arnom ni, a'r nifer o sefydliadau eraill sy'n cefnogi teuluoedd incwm isel yng Nghymru.
Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir bod y Cap Dau Blentyn wedi achosi cynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru ac ar draws y DU bob blwyddyn ers ei gyflwyno yn 2017. Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhyddhad i 69,000 o blant yng Nghymru sydd wedi methu cael cymorth ariannol drwy system fudd-daliadau'r DU. Mae'r cam hwn yn cael ei groesawu, a bydd yn helpu teuluoedd i wynebu costau byw dyddiol rhai o'u plant. Ar hyn o bryd mae elfen plentyn y Credyd Cynhwysol werth £292.81 y mis ar gyfer y trydydd plentyn ac unrhyw blant dilynol a anwyd ar ôl Ebrill 2017, ac nid yw wedi bod ar gael i deuluoedd mwy o'r blaen, er gwaethaf y costau cynyddol o fagu plant. Mae gwaith dadansoddi Llywodraeth Cymru yn dangos y byddai diddymu'r cap dau blentyn yn 2026 yn arwain at ostyngiad o dri i bedwar pwynt canran mewn cyfraddau tlodi plant cymharol (ar ôl costau tai) yng Nghymru.
Rydym hefyd yn hynod o falch bod diddymu'r cap dau blentyn hefyd yn cynnwys dileu'r cymal beichiogi drwy drais/heb gydsyniad a'i oblygiadau trawmatig i oroeswyr trais rhywiol; mae’n arbennig o bwysig tynnu sylw at hyn yn ystod y 16 diwrnod hyn o weithredu i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drechu tlodi. Trwy ein Rhaglen Lywodraethu, rydym yn diogelu, ailadeiladu a gwella gwasanaethau i bobl, ac yn darparu canlyniadau gwell i aelwydydd incwm isel. Rhwng 2022 a 2026, rydym wedi buddsoddi dros £7 biliwn mewn mesurau i leihau costau, hybu incwm teuluoedd, a chadw mwy o arian ym mhocedi dinasyddion Cymru.
Rydym yn gwybod nad oes modd i ni wneud hyn ar ein pen ein hunain, a byddwn yn parhau i weithio'n agos ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i wella bywydau pawb sy'n byw yng Nghymru. Ein nod yw lleihau tlodi plant a chynyddu cyfleoedd i bob plentyn.
