Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyflwynodd Rachel Reeves, Canghellor y Trysorlys, Gyllideb Hydref y DU, gan gynnwys rhagolygon newydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer economi’r DU a chyllid cyhoeddus. 

Daw’r cyhoeddiad hwn ar adeg gythryblus i’r economi fyd-eang, gan gynnwys cynnydd yn nhariffau’r Unol Daleithiau, cyfraddau llog uwch yn fyd-eang a thensiynau geo-wleidyddol sydd wedi dwysáu. Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau hyn wedi chwarae eu rhan i danseilio twf, ac maent yn golygu bod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yn hynod heriol. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dod i’r casgliad bod y difrod a achoswyd i gapasiti economi’r DU i gynhyrchu yn fwy difrifol na’r amcangyfrifon blaenorol. 

Er bod Llywodraeth y DU wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd yng Nghyllideb yr Hydref, cyflwynodd y Canghellor becyn blaengar o fesurau, gan ganolbwyntio ar gefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf, rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a diogelu ymrwymiadau gwariant cyhoeddus.  

Mae hon yn Gyllideb y bydd pobl ledled Cymru yn cael budd ohoni – drwy’r cynnydd yn yr isafswm cyflog a’r cyflog byw cenedlaethol, y cynnydd yn y pensiwn gwladol, y cymorth â biliau ynni a’r warant gwaith newydd i bobl ifanc.

Rydym wedi bod yn gyson yn ein galwadau ar Lywodraeth y DU i gymryd camau pendant i fynd i’r afael â thlodi plant. Mae’r cyhoeddiad heddiw y bydd y terfyn dau blentyn yn cael ei ddileu yn gam sy’n cael ei groesawu’n fawr a fydd yn codi miloedd o deuluoedd allan o dlodi. Bydd tua 70,000 o blant yng Nghymru yn elwa yn sgil diddymu’r terfyn dau blentyn. Bydd hyn yn helpu i wrthdroi cyfraddau tlodi plant, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £508m yn ychwanegol mewn cyllid adnoddau a chyfalaf dros gyfnod yr Adolygiad Gwariant ar ffurf symiau canlyniadol.

Newidiadau Cyllideb yr Hydref (£m)     
 2025-262026-272027-282028-292029-30Cyfanswm
DEL Adnoddau27186114-4 322
DEL Cyfalaf Cyffredinol 14120250186
Cyfanswm27200234-250508

Daw hyn ar ben y £5bn o gyllid ychwanegol a dderbyniodd Llywodraeth Cymru adeg Adolygiad Gwariant y DU ym mis Mehefin.

Gwnaeth Cyllideb y DU hefyd gadarnhau buddsoddiadau newydd sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys adfer safle tir llwyd ym Mhort Talbot a buddsoddi mewn clwstwr lled-ddargludyddion yn y De. Mae hyn yn ychwanegol at y cyhoeddiad diweddar am y buddsoddiad mewn ynni niwclear yn Wylfa ar Ynys Môn, yr Ardaloedd Twf AI newydd ar gyfer y Gogledd a’r De, a’r £547m sy’n dychwelwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno rhaglen Cronfa Twf Lleol newydd. 

Bydd y buddsoddiadau newydd hyn yn rhoi hwb i swyddi a thwf ac yn helpu i drawsnewid ein heconomïau lleol, i gefnogi pobl a busnesau ledled Cymru. Yr wythnos nesaf, bydd Prif Weinidog Cymru yn cynnal Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru, a fydd yn tynnu sylw at gyfleoedd mewn sectorau fel gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd ac ynni gwyrdd. Bydd hwn yn gyfle i ddangos bod Cymru yn gyrchfan flaenllaw ar gyfer buddsoddiad.

Bydd Aelodau’r Senedd yn ymwybodol bod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid fis diwethaf wedi cytuno y byddai gwaith yn cael ei wneud i nodi cyfleoedd i wella’r ffordd y mae system Barnett yn gweithredu, er mwyn mynd i’r afael â phryderon ynghylch ei thegwch. 

Mae Cyllideb y DU heddiw yn sicrhau mwy o hyblygrwydd cyllidol i Gymru. Bydd cynnydd o 10% yn ein terfynau benthyca cyfalaf a chronfeydd wrth gefn yn 2026-27, a chynnydd pellach yn unol â chwyddiant o 2027-28. Mae’r Canghellor hefyd wedi cytuno i fynediad digyfyngiad at Gronfa Wrth Gefn Cymru yn 2026-27. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau gwelliannau pellach yn ein hyblygrwydd cyllidol, gan gynnwys mynediad parhaol at Gronfa Wrth Gefn Cymru. 

Mae’r Gyllideb hon yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd dwy lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi mewn ffordd a fydd yn cael effaith ar y genhedlaeth nesaf yng Nghymru, gan dargedu’r gweithredu i gefnogi aelwydydd gyda chostau byw a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru a thwf economaidd. 

Byddwn yn ystyried yn ofalus oblygiadau Cyllideb y DU ar gyfer Cyllideb Cymru, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar 20 Ionawr 2026.