Llywodraeth Cymru Datganiad Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil: materion economaidd a chyllidol
Mae’r ddogfen hon yn nodi blaenoriaethau ymchwil Llywodraeth Cymru ar faterion economaidd a chyllidol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad a diben
1.1 Mae’r ddogfen Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil hon yn crynhoi cwestiynau ymchwil Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â materion economaidd a chyllidol yng Nghymru.
1.2 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lunio economi fwy ffyniannus a chynaliadwy sydd o fudd i bob unigolyn a chymuned ledled Cymru. Mewn oes sydd wedi’i nodweddu gan ddatganoli cyllidol, trawsnewidiad technolegol, newidiadau demograffig ac ansicrwydd byd-eang, rydym yn ddibynnol ar ymchwil o ansawdd uchel, sy’n benodol i Gymru, i fod yn sail ar gyfer penderfyniadau polisi a buddsoddi.
1.3 Mae’r ddogfen Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil hon wedi’i saernïo yn unol â naw thema sy’n cynrychioli’r heriau a’r cyfleoedd economaidd a chyllidol craidd sy’n wynebu Cymru heddiw. Mae pob thema yn cynrychioli maes â blaenoriaeth strategol lle y mae ymchwil a thystiolaeth yn hanfodol fel sail ar gyfer polisïau, buddsoddiadau a chynlluniau hirdymor Llywodraeth Cymru. Cynlluniwyd y themâu i gyflawni’r canlynol:
- Bod yn gydnaws â chyfrifoldebau datganoledig, fel trethi, datblygu economaidd, sgiliau, a thai, lle y mae gan Gymru y pŵer i lunio atebion wedi’u teilwra.
- Mynd i’r afael â heriau cymdeithasol trawsbynciol, gan gynnwys newidiadau demograffig, gwydnwch hinsawdd, ac addasu ar ôl Brexit.
- Sicrhau perthnasedd polisïau, drwy ganolbwyntio ar feysydd lle y gall tystiolaeth gefnogi’n uniongyrchol y broses o wneud penderfyniadau, gwerthuso, a chyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
- Hyrwyddo datblygiad sy’n gynhwysol ac yn gynaliadwy, gan gydnabod bod angen twf economaidd sy’n lleihau anghydraddoldebau ac sy’n cryfhau gwydnwch cymunedol.
1.4 Mae’r ddogfen Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil hon yn un o nifer sy’n cael eu llunio gan Lywodraeth Cymru. Nid yw’n hollgynhwysol nac yn derfynol. Rydym am iddi ysgogi deialog â’r gymuned ymchwil yn ehangach a bod yn ganllaw i’r meysydd hynny lle y gall ymchwil bellach fod o gymorth i ddatblygu polisïau sy’n barod at y dyfodol yng Nghymru. Byddwn yn adolygu’r ddogfen hon yn flynyddol ac yn ei diweddaru yn ôl yr angen.
1.5 Nid yw’r ddogfen Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil hon yn wahoddiad i dendro am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ymchwil penodol ar hyn o bryd.
1.6 Rydym yn gwahodd ymchwilwyr, sefydliadau, melinau trafod a phartneriaid i gyfrannu at yr anghenion tystiolaeth hyn ac i ymgysylltu â ni wrth inni lunio atebion polisi arloesol a thrawiadol.
2. Thema 1: Datganoli cyllidol a chyllid cyhoeddus
2.1 Wrth i Gymru ymgymryd â rhagor o gyfrifoldeb dros ei chyllid cyhoeddus, rydym yn ceisio ymchwil sy’n dyfnhau’r ddealltwriaeth o sefyllfa a gallu cyllidol Cymru ac sy’n cefnogi datblygiad polisi trethi datganoledig a fframweithiau cyllidebu. Mae’r blaenoriaethau yn cynnwys:
- Cynllun ac effaith y trethi datganoledig (ee y Dreth Trafodiadau Tir, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, Cyfraddau Treth Incwm Cymru), gan gynnwys yr effeithiau dosbarthiadol, ymatebion ymddygiadol, a dynameg cystadleuaeth dreth.
- Pennu rhagolygon refeniw a dadansoddi’r sylfaen drethu, gan gynnwys modelu incwm aelwydydd, gwerthoedd eiddo, gwaredu gwastraff, a gweithgarwch economaidd ar draws sectorau ac ardaloedd daearyddol yn well.
- Rhyngweithio â fframwaith cyllidol y DU, yn enwedig â gweithrediad mecanwaith yr addasiad i’r grant bloc, adnoddau rheoli risgiau cyllidol (ee Cronfa Wrth Gefn Cymru) a goblygiadau’r trefniadau cyllido rhynglywodraethol (ee Fformiwla Barnett).
- Dadansoddi cynaliadwyedd cyllidol, gan gynnwys effaith hirdymor newidiadau demograffig, pwysau cyllidol sy’n gysylltiedig â hinsawdd a strategaethau buddsoddi cyhoeddus.
- Trethi a Gwrth-hiliaeth – ymchwilio i sut y gall polisïau trethi, a’r modd y cânt eu gweinyddu, fynd i’r afael yn rhagweithiol â hiliaeth systemig a’i ddymchwel, gan sicrhau bod system dreth Cymru wedi’i chynllunio mewn ffordd sy’n cefnogi canlyniadau gwrth-hiliol ledled Cymru, a’i bod yn cael ei gweithredu felly.
3. Thema 2: Twf economaidd, cynhyrchiant a datblygu rhanbarthol
3.1 Mae cryfhau sylfeini economaidd Cymru a gwella perfformiad o ran cynhyrchiant yn ganolog i gyflawni nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn ceisio tystiolaeth i fod yn sail ar gyfer polisïau sy’n hyrwyddo twf hirdymor, sy’n gynhwysol ac sy’n cynnal cydbwysedd rhwng y rhanbarthau. Mae’r blaenoriaethau yn cynnwys:
- Penderfynyddion cynhyrchiant ar lefelau cwmni a rhanbarthol, gan gynnwys rôl mabwysiadu digidol, defnyddio sgiliau, arloesi, buddsoddi mewn seilwaith a chymorth tyfu busnes.
- Anghydraddoldebau strwythurol a gofodol, gan gynnwys bylchau parhaus o ran incwm a chynhyrchiant rhwng y rhanbarthau, ac oddi mewn iddynt, a sut y gall ymyriadau wedi’u targedu fynd i’r afael â’r rhain.
- Trawsnewid i economi carbon isel a chylchol, gan gynnwys ymchwil ar strategaeth ddiwydiannol werdd, buddsoddiad sy’n gydnaws â sero net, arloesi mewn ynni glân ac effeithiau datgarboneiddio ar y farchnad lafur.
- Yr economi sylfaenol, yn enwedig ymchwil ar wella cynhyrchiant, gwydnwch a gwerth cymunedol sectorau hanfodol fel gofal, bwyd, tai a manwerthu lleol.
- Yr economi wledig, yn enwedig ymchwil sy’n astudio cyfleoedd i arallgyfeirio a chryfhau economïau gwledig drwy arloesi, defnyddio tir mewn modd cynaliadwy, diwydiannau gwyrdd, twristiaeth, systemau bwyd lleol a chymorth i fusnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol.
- Twf a llesiant economaidd, gan gynnwys ymchwil ar y berthynas rhwng twf a llesiant economaidd, a pha bolisïau neu ymyriadau all gefnogi gwelliannau o ran y ddau gysyniad hwn.
- Datblygu economaidd a’r Gymraeg, gan gynnwys sut y mae’r Gymraeg yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd, gan gynnwys ei rôl i gefnogi adfywio rhanbarthol, twf busnesau a chanlyniadau’r farchnad lafur.
4. Thema 3: Dynameg y farchnad lafur, sgiliau a gwaith teg
4.1 Mae deall tueddiadau’r farchnad lafur ac effeithiolrwydd ymyriadau polisi yn hanfodol i hyrwyddo gwaith teg a chysoni sgiliau mewn economi sy’n newid yn gyflym. Rydym yn croesawu ymchwil ar y canlynol:
- Tueddiadau o ran cyflogaeth a chyfranogiad, gan gynnwys gwahaniaethau mewn mynediad a chanlyniadau yn ôl rhywedd, oedran, ethnigrwydd, anabledd ac ardaloedd daearyddol.
- Effaith awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial (AI) a digidoleiddio ar rolau swyddi, sectorau, a dadleoli’r gweithlu, yn ogystal â strategaethau ar gyfer ailsgilio ac uwchsgilio.
- Cyflogaeth ieuenctid, tangyflogaeth, a’r rhwystrau i sicrhau gwaith o ansawdd uchel, yn enwedig ymhlith y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
- Strategaethau datblygu’r gweithlu, gan gynnwys effeithiolrwydd prentisiaethau, llwybrau galwedigaethol, dysgu gydol oes a hyfforddiant dan arweiniad cyflogwyr i fodloni’r anghenion sgiliau presennol ac yn y dyfodol.
- Ymchwil gwaith teg, gan gynnwys gweithredu agenda Gwaith Teg Cymru, y cyflog byw, diogelwch swyddi a llais y gweithwyr ym marchnad lafur Cymru.
5. Thema 4: Anghydraddoldeb economaidd, tlodi a thwf cynhwysol
5.1 Mae ergydion economaidd ac anfanteision strwythurol yn golygu bod lefelau parhaus o dlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru wedi’u dwysáu. Rydym yn ceisio ymchwil sy’n astudio’r cysylltiadau rhwng twf economaidd a thlodi, gan gynnwys sut y gall strategaethau twf cynhwysol leihau amddifadedd a helpu i dargedu polisïau perthnasol at y rheini y mae mwyaf o angen arnynt sy’n cynnwys:
- Mesur a monitro tlodi, gan gynnwys datblygu dangosyddion cadarn, olrhain tlodi plant a llunio dadansoddiad rhanbarthol o dlodi ac amddifadedd yng Nghymru.
- Effaith trethi, budd-daliadau lles a gwasanaethau cyhoeddus ar incwm a llesiant aelwydydd, gan gynnwys modelu micro-efelychu i asesu senarios polisi.
- Modelau adeiladu cyfoeth cymunedol, perchnogaeth gydweithredol, cyfranogiad mewn economïau digidol, strategaethau caffael lleol a rôl yr economi gymdeithasol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
6. Thema 5: Symudedd cymdeithasol a chyfle economaidd
6.1 Mae gwella symudedd cymdeithasol yn ganolog i adeiladu economi decach a mwy cynhwysol yng Nghymru. Rydym yn croesawu ymchwil sy’n astudio’r ffactorau sy’n rhwystro ac sy’n galluogi symudedd i fyny, yn enwedig i unigolion a chymunedau sy’n wynebu anfantais strwythurol. Mae’r meysydd o ddiddordeb allweddol yn cynnwys:
- Dadansoddiad hydredol o symudedd cymdeithasol, gan gynnwys y newidiadau rhwng y gwahanol genedlaethau o ran incwm, addysg, galwedigaeth a chyfoeth ar draws gwahanol ranbarthau a grwpiau demograffig.
- Ysgogwyr cyfle economaidd, megis mynediad at addysg, tai, trafnidiaeth, seilwaith digidol a llwybrau cyflogaeth o ansawdd da.
- Rôl y blynyddoedd cynnar a pholisi addysg, gan gynnwys effaith y ddarpariaeth gofal plant, cyrhaeddiad yn yr ysgol ac addysg ôl-16 ar gyfleoedd bywyd hirdymor.
- Symudedd daearyddol ac anfantais sy’n seiliedig ar leoedd, gan ymchwilio i sut y mae lleoliad yn effeithio ar fynediad at gyfleoedd a sut y gall ymyriadau wedi’u targedu leihau anghydraddoldeb gofodol.
- Rhwystrau croestoriadol i symudedd, gan gynnwys yr effeithiau wedi’u dwysáu a gaiff rhywedd, ethnigrwydd, anabledd a chefndir economaidd-gymdeithasol ar ganlyniadau bywyd.
- Ysgogiadau polisi i hyrwyddo symudedd, megis strategaethau marchnad lafur cynhwysol, buddsoddiad wedi’i dargedu mewn sgiliau a diwygiadau i’r systemau tai a lles.
7. Thema 6: Dosbarthiad cyfoeth a throsglwyddiadau rhwng y cenedlaethau
7.1 Mae deall dynameg cronni a throsglwyddo cyfoeth yn dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hirdymor a gwydnwch economaidd yng Nghymru. Rydym yn croesawu ymchwil ar y canlynol:
- Patrymau dosbarthiad cyfoeth, gan gynnwys gwahaniaethau o ran perchnogaeth asedau (ee tai, pensiynau, buddsoddiadau ariannol) ar draws grwpiau incwm, rhanbarthau a chenedlaethau.
- Trosglwyddiadau cyfoeth rhwng y cenedlaethau, fel etifeddiaeth a rhoddion, a’u heffaith ar symudedd cymdeithasol, mynediad at dai a chanlyniadau economaidd gydol oes.
- Trethu cyfoeth a throsglwyddiadau, gan gynnwys effeithiau ymddygiadol a dosbarthiadol treth etifeddiant, trethi eiddo a diwygiadau posibl i gefnogi tegwch a chynaliadwyedd cyllidol.
- Cyfoeth a llesiant, gan ymchwilio i sut y mae perchnogaeth asedau yn dylanwadu ar ddiogelwch ariannol, iechyd meddwl, a boddhad â bywyd, yn enwedig yng nghyd-destun yr ergydion economaidd.
- Ymyriadau polisi i leihau anghydraddoldeb cyfoeth, gan gynnwys mecanweithiau ar gyfer adeiladu asedau ymhlith aelwydydd incwm isel, modelau perchnogaeth gymunedol a gwasanaethau ariannol cynhwysol.
8. Thema 7: Demograffeg, mudo a gynlluniwyd a newid yn y boblogaeth
8.1 Mae tueddiadau demograffig, gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio, mudo mewnol a symudedd rhyngwladol yn cyflwyno heriau yn ogystal â chyfleoedd i economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymchwil ar:
- Rôl mudo a gynlluniwyd i gefnogi cynaliadwyedd y boblogaeth, gwrthdroi tueddiadau diboblogi (yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol) a bodloni’r prinder sgiliau mewn sectorau allweddol fel iechyd, gofal cymdeithasol, adeiladu a thechnoleg.
- Effeithiau economaidd a chyllidol mudo, gan gynnwys cyfraniadau at y refeniw trethi, y galw am dai, y defnydd o wasanaethau cyhoeddus a’r cyfranogiad yn y farchnad lafur.
- Cadw ac integreiddio mudwyr, gan gynnwys y rhwystrau i gynhwysiant, anghenion cymorth iaith, cydlyniant cymunedol a mynediad at hawliau a gwasanaethau.
- Strategaethau i ddenu talent ryngwladol, yn enwedig yng nghyd-destun cyfyngiadau polisi mewnfudo’r DU gyfan ac anghenion neilltuedig Cymru o ran symudedd llafur a datblygu rhanbarthol.
- Rhagolygon poblogaeth a modelu, gan ymgorffori cyfraddau genedigaethau, disgwyliad oes, tueddiadau mudo ynghyd â’u goblygiadau hirdymor ar gyfer tai, trafnidiaeth, addysg a chynllunio iechyd.
9. Thema 8: Gwydnwch economaidd ar ôl Brexit ac ar ôl y pandemig
9.1 Mae Cymru yn parhau i addasu i newidiadau strwythurol sy’n deillio o ymadael â’r UE a phandemig COVID-19. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwil sy’n asesu canlyniadau tymor canolig a hirdymor yr aflonyddwch hwn, gan gynnwys:
- Masnach, buddsoddiad, a mynediad i’r farchnad ar ôl Brexit, gan gynnwys effeithiau sy’n benodol i sector, cyfleoedd ar gyfer partneriaethau rhyngwladol newydd a newidiadau o ran cydweddiad rheoleiddiol.
- Ergydion yn y farchnad lafur, gan gynnwys diwedd symudiad rhydd yr UE a heriau recriwtio mewn sectorau.
- Gwerthuso mesurau adfer wedi’r pandemig, gan gynnwys ffyrlo, grantiau cymorth busnes a’u heffeithiau etifeddol ar gynhyrchiant.
- Gwydnwch cadwyni cyflenwi ac arallgyfeirio economaidd, gan gynnwys gwendidau rhanbarthol a chyfleoedd i ddychwelyd gweithgynhyrchu neu dwf sy’n seiliedig ar arloesi.
10. Thema 9: Data, modelu a gwerthuso
10.1 I gyflawni dadansoddiad economaidd a chyllidol o ansawdd uchel, rhaid wrth seilwaith data gwell a thrylwyredd methodolegol. Rydym yn croesawu ymchwil sy’n cryfhau gallu dadansoddol Cymru:
- Datblygu modelau economaidd sy’n benodol i Gymru, gan gynnwys modelau cydbwysedd cyffredinol, dulliau micro-efelychu a fframweithiau mewnbwn-allbwn rhanbarthol.
- Defnyddio data mewn modd arloesol, megis data trafodiadau amser real, dadansoddiad geo-ofodol, a chysylltiadau â data gweinyddol a mynediad atynt i feithrin dealltwriaeth fwy manwl o bolisïau ac ymyriadau wedi’u targedu.
- Gwerthuso effaith polisïau, gan gynnwys dadansoddiad cost a budd, gwerthusiad gwrthffeithiol o effaith a dulliau sy’n seiliedig ar theori ar gyfer rhaglenni cyhoeddus ac ymyriadau cyllidol.
- Mynd i’r afael â bylchau mewn data, yn enwedig mewn meysydd polisi datganoledig, ystadegau ardaloedd bach, data’r farchnad lafur wedi'u dadgyfuno ac wrth ddadansoddi yn ôl sector.
11. Casgliadau
11.1 Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu cyfleoedd i gydweithio ag ymchwilwyr ar unrhyw un o themâu'r Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil ac ar faterion economaidd sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru yn fwy cyffredinol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: YmchwilEconomaidd@llyw.cymru.
