Sut i ofyn am ganiatâd i gael mynediad at dir ar gyfer arolwgiau.
Cynnwys
Mae adran 125 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn caniatáu i ymgeisydd gael mynediad at dir yr effeithir arno gan ddatblygiad.
Pam y gallai fod angen i ymgeisydd gael mynediad at dir
Efallai y bydd angen i ymgeisydd gael mynediad at dir i:
- gynnal arolygon i ddeall y cynefin naturiol ac adnabod unrhyw rywogaethau a warchodir
- cymryd mesuriadau a lefelau
- drilio tyllau a chymryd samplau i ddeall natur yr isbridd a gwirio am fwynau neu ddeunydd arall
- cynnal prisiadau
Pryd y gellid bod angen mynediad
Efallai y bydd angen mynediad ar ymgeisydd cyn cyflwyno cais i PEDW. Efallai y bydd angen hyn er mwyn cydymffurfio â'r gweithdrefnau statudol a nodir yn yr Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA) neu'r Rheoliadau Cynefinoedd.
Yn ystod y cam cyn ymgeisio neu ymgeisio, mae'n debygol y bydd angen mynediad i:
- gynnal asesiad o effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol y prosiect a, lle bo angen, gynhyrchu Datganiad Amgylcheddol
- cofnodi statws y cynefin naturiol ac asesu a all y prosiect gael effeithiau andwyol ar unrhyw safleoedd Ewropeaidd gwarchodedig
Os bydd cais yn ceisio awdurdodi caffael buddiant gorfodol mewn tir, neu hawliau dros dir, efallai y bydd angen mynediad ar yr ymgeisydd. Mae hyn yn caniatáu i'r ymgeisydd brisio'r tir.
Pan na fydd mynediad yn cael ei ganiatáu
Ni roddir awdurdodiad i gael mynediad at dir ar gyfer unrhyw weithgaredd a allai arwain at drosedd yn cael ei chyflawni o dan:
- y Rheoliadau Cynefinoedd
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd)
- deddfwriaeth ar gyfer gwarchod rhywogaethau penodol, er enghraifft, Deddf Diogelu Moch Daear 1992
Mewn achosion o'r fath, dylai'r ymgeisydd ystyried a oes angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Beth yw hawl i gael mynediad at awdurdodiad tir?
Hysbysiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru yw hawl i gael mynediad at dir. Mae'n cadarnhau y gall yr ymgeisydd, ar unrhyw adeg rhesymol, gael mynediad i'r tir penodedig am y rhesymau a nodir yn yr awdurdodiad. Mae'n drosedd rhwystro person sydd â'r awdurdod hwn yn fwriadol.
Rhaid i ymgeiswyr weithredu'n rhesymol wrth geisio caniatâd i gael mynediad at dir a rhaid iddynt fod ag angen gwirioneddol am fynediad. Os yw ymgeisydd yn credu bod mynediad wedi'i wrthod yn afresymol, gallant ofyn i Lywodraeth Cymru awdurdodi hawl i gael mynediad at dir.
Gall personau neu sefydliadau sydd â diddordeb mewn tir gynnwys:
- un sy'n meddiannu'r tir;
- person sydd â buddiant yn y tir fel rhydd-ddeiliad, un sydd a morgais neu lesddeiliad
- person sy'n derbyn rhent am y tir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol
- person sydd wedi'i awdurdodi i reoli'r tir neu drefnu ei osod
Deall sut mae’r broses yn gweithio
Ceisio caniatâd i gael mynediad at dir
Dylai'r ymgeisydd wneud ymdrechion rhesymol i ofyn am ganiatâd gan y person neu'r sefydliad sydd â buddiant yn y tir.
Unwaith y bydd ymdrechion rhesymol wedi'u gwneud, cyn cyflwyno cais, dylai ymgeiswyr:
- hysbysu pob derbynnydd arfaethedig eu bod yn bwriadu gofyn am awdurdodiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hawl i gael mynediad i'r tir.
- esbonio unrhyw amodau y maent yn bwriadu gofyn i Weinidogion Cymru eu cynnwys gyda'r awdurdodiad
- rhoi cyfle olaf i dderbynwyr ddarparu mynediad uniongyrchol i'r ymgeisydd.
Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â Gweinidogion Cymru ar InfrastructureConsenting@gov.wales cyn gwneud cais. Mae hyn yn caniatáu i ymgeiswyr ofyn am gyngor ar faterion gweithdrefnol a pha wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen ar Weinidogion Cymru.
Pryd i gyflwyno cais
Dim ond mewn amgylchiadau pan fo'r ymgeisydd wedi gweithredu'n rhesymol wrth geisio cael mynediad i'r tir y mae'n rhaid cyflwyno cais i Weinidogion Cymru.
Sut i gyflwyno cais am awdurdodi hawl i gael mynediad i dir
Rhaid i'r ffi briodol gyd-fynd â cheisiadau am awdurdodi hawl i gael mynediad at dir. Ni fydd ceisiadau yn cael eu hystyried heb daliad. Pan delir ffi, ni chaiff ei had-dalu os tynnir y cais yn ôl.
Dylai pob cais gynnwys tystiolaeth o'r camau y mae'r ymgeisydd wedi'u cymryd i gael mynediad i'r tir. Gallai tystiolaeth gynnwys:
- copïau o ohebiaeth ysgrifenedig
- cofnodion cyfarfodydd neu gofnodion o sgyrsiau ffôn
- copïau neu fanylion unrhyw ymatebion a dderbyniwyd
Nid oes ffurflen gais safonol. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl i'r wybodaeth yn yr atodiad isod gael ei darparu gyda phob cais am awdurdodiad.
Sut mae cais yn cael ei brosesu
Bydd y dogfennau'n cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru unwaith y bydd Gweinidogion Cymru yn derbyn:
- cais sy'n cynnwys tystiolaeth briodol
- y ffi ofynnol
Pa Ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal
Bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu pob person neu sefydliad sydd wedi derbyn cais am awdurdodiad. Bydd yr hysbysiad yn gwahodd sylwadau ac yn gosod dyddiad cau. Rhaid i'r dyddiad cau fod o leiaf 14 diwrnod o'r dyddiad y derbynnir yr hysbysiad.
Sut i ymateb i’r ymgynghoriad
Mae'r sylwadau sy'n berthnasol i'r cais i gael mynediad at dir yn cynnwys:
- nodi a yw'r wybodaeth yng nghais yr ymgeisydd yn gywir,
- nodi rhesymau’r awdurdod dros wrthod y cais,
- rhoi barn ar hyd arfaethedig yr awdurdodiad gan yr ymgeisydd
- rhoi barn ar unrhyw amodau arfaethedig, gan gynnwys unrhyw amodau y mae'r derbynnydd yn dymuno eu hychwanegu
A ellir gofyn am ragor o wybodaeth
Caiff Gweinidogion Cymru ofyn am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd, neu gan unrhyw berson neu sefydliad sydd â diddordeb yn y tir. Rhoddir dyddiad cau ar gyfer yr ymateb.
Sut mae penderfyniad yn cael ei wneud
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd a chan unrhyw berson neu sefydliad sydd â diddordeb yn y tir. Yna bydd yn penderfynu a ddylid awdurdodi'r ymgeisydd i gael mynediad i'r tir. Os rhoddir awdurdodiad, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn penderfynu a ddylid gosod amodau.
Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon at yr ymgeisydd a'r derbynnydd arfaethedig. Bydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Faint o amser fydd gwneud penderfyniad yn ei gymryd.
Fel arfer, gwneir penderfyniad o fewn 3 mis ar ôl derbyn y cais am awdurdodiad. Gall rhai achosion gymryd mwy o amser.
Effaith yr awdurdodiad
Os rhoddir awdurdodiad, gall yr ymgeisydd gael mynediad i'r tir penodedig ar unrhyw adeg rhesymol am y rhesymau a nodir yn yr awdurdodiad. Rhaid i’r ymgeisydd:
- gyflwyno tystiolaeth o'u hawdurdod i gael mynediad i'r tir, os oes angen
- nodi pwrpas y mynediad cyn mynd ar y tir
- rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd o'r mynediad arfaethedig i unrhyw feddiannydd y tir
- gadael y tir wedi'i ddiogelu rhag tresmaswyr fel ag yr oedd cynt
- cydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a nodir yn yr awdurdodiad
Os caiff y tir ei ddifrodi
Os achosir difrod i'r tir neu eiddo arall tra bod yr ymgeisydd yn arfer hawl i fynediad o dan yr awdurdodiad, gall unrhyw berson neu sefydliad sydd â buddiant yn y tir hawlio iawndal. Ymdrinnir â hawliadau gan Siambr Tiroedd y Tribiwnlys Uchaf.
Atodiad: adran 125 "Cael mynediad at dir"
Gwybodaeth y gofynnwyd amdani gan ymgeiswyr i gefnogi ceisiadau:
- Manylion cyswllt yr ymgeisydd/asiant
- Disgrifiad o'r prosiect SIP
- Cam y prosiect (heb ei gyflwyno, wedi ei gyflwyno ac ati)
- Esboniad manwl pam mae angen mynediad
- Cynllun lleoliad sy'n dangos faint o dir y mae angen mynediad iddo a manylion perchnogaeth
- P'un a yw unrhyw ran o'r tir a nodir yn ymgymerwr statudol, tir y goron, neu berchnogaeth anhysbys.
- Copïau swyddogol cyfredol o unrhyw ddogfennau perthnasol y Gofrestrfa Tir
- Tystiolaeth o'r camau a gymerwyd gan yr ymgeisydd i gael mynediad i'r tir.
- Tystiolaeth
- Y cyfnod y ceisir awdurdodiad amdano a chyfiawnhad dros hyd y cyfnod.
- Unrhyw amodau y mae'r ceisydd yn gredu y dylai unrhyw awdurdodiad fod yn ddarostyngedig iddynt
