Sut i ofyn hysbysiad o fuddiannau tir i ddarganfod pwy sydd â buddiant yn y tir ar gyfer prosiect.
Cynnwys
Mae adran 28 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn caniatáu i ymgeisydd ddarganfod pwy sydd â buddiant yn y tir y gallai'r datblygiad effeithio arno.
Pam y mae angen yr wybodaeth hon ar ymgeiswyr
Ar y cam cyn ymgeisio, efallai y bydd angen gwybodaeth ar ymgeiswyr gan bobl sydd â buddiannau yn y tir a allai gael ei effeithio gan y prosiect. Mae hyn yn ofynnol i fodloni gweithdrefnau cyn-ymgeisio statudol.
Mae'r bobl hyn yn cynnwys:
- perchennog, lesddeiliad, tenant neu feddiannwr y tir;
- Dyma’r bobl sydd â buddiant cyfreithiol yn y tir:
- person sydd â phŵer i werthu a throsglwyddo'r tir, neu i ryddhau'r tir
- unrhyw un a allai fod â hawl i hawlio iawndal os rhoddir cydsyniad a bod y gorchymyn yn cael ei weithredu'n llawn
Os yw'r cais yn gofyn am awdurdodi caffael gorfodol, rhaid i'r ymgeisydd hysbysu Gweinidogion Cymru am bobl sydd â buddiannau mewn tir neu hawliau dros dir. Rhaid i'r hysbysiad restru enwau'r holl bersonau yr effeithir arnynt.
Beth yw hysbysiad buddiannau mewn tir?
Mae 'hysbysiad buddiannau mewn tir' yn hysbysiad ysgrifenedig a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 28 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd roi enw a chyfeiriad unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir i'r ymgeisydd. Mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.
Rhaid i ymgeiswyr weithredu'n rhesymol (gan ddilyn y camau a nodir isod) wrth geisio cael gwybodaeth am fuddiannau mewn tir gan bersonau neu sefydliadau. Os yw ymgeisydd o'r farn bod gwybodaeth wedi'i wrthod yn afresymol, gallant ofyn i Weinidogion Cymru am awdurdodiad i gyflwyno hysbysiad buddiannau mewn tir. Mae'n rhaid talu ffi am yr hysbysiad: Ffioedd ar gyfer ceisiadau prosiect seilwaith arwyddocaol (PSA) | LLYW.CYMRU
Ar ôl i Weinidogion Cymru dderbyn cais a'r ffi, byddant yn penderfynu a ddylid awdurdodi cyflwyno hysbysiad buddiant mewn tir. Byddant yn anelu at benderfynu o fewn 3 mis ar ôl ei dderbyn, ond gall rhai achosion gymryd mwy o amser.
Deall sut mae’r broses yn gweithio
Nodir y broses hawlio isod.
Ceisio gwybodaeth am fuddiannau mewn tir
Dim ond os ydynt wedi gwneud ymdrechion rhesymol wrth geisio cael gwybodaeth am fuddiannau yn y tir y dylai ymgeiswyr gyflwyno cais am hysbysiad buddiannau mewn tir.
Unwaith y bydd ymdrechion rhesymol wedi'u gwneud, cyn cyflwyno cais, dylai ymgeiswyr:
- hysbysu pob derbynnydd arfaethedig eu bod yn bwriadu ceisio hysbysiad buddiant mewn tir gan Weinidogion Cymru.
- rhoi cyfle olaf i dderbynwyr ddarparu'r wybodaeth yn uniongyrchol i'r ymgeisydd.
Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â Gweinidogion Cymru yn InfrastructureConsenting@gov.wales cyn gwneud cais. Mae hyn yn caniatáu i ymgeiswyr gael cyngor ar faterion gweithdrefnol ac i gadarnhau pa wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen ar Weinidogion Cymru.
Pryd i gyflwyno cais
Dim ond mewn amgylchiadau pan fo'r ymgeisydd wedi gweithredu'n rhesymol wrth geisio cael mynediad i'r tir, y mae'n rhaid cyflwyno cais i Weinidogion Cymru.
Sut i wneud cais
Rhaid i geisiadau am hysbysiadau buddiant mewn tir gynnwys y ffi briodol. Ni fydd ceisiadau yn cael eu hystyried heb daliad. Os yw ffi wedi'i thalu, ni chaiff ei had-dalu os tynnir y cais yn ôl.
Dylai pob cais gynnwys tystiolaeth o'r camau y mae'r ymgeisydd wedi'u cymryd i nodi'r derbynwyr arfaethedig o hysbysiad buddiant mewn tir. Gallai tystiolaeth gynnwys:
- copïau o ohebiaeth ysgrifenedig
- cofnodion cyfarfodydd neu sgyrsiau ffôn
- copïau o hysbysiadau papur newydd neu safleoedd
Nid oes ffurflen gais safonol. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl i'r wybodaeth a nodir yn Atodiad A a B (isod) gael ei chyflwyno gyda phob cais am awdurdodi.
Cyflwyno ceisiadau i InfrastructureConsenting@gov.wales
Sut mae cais yn cael ei brosesu
Bydd y dogfennau'n cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru unwaith y bydd Gweinidogion Cymru yn derbyn:
- cais sy'n cynnwys y dystiolaeth ofynnol
- cadarnhad bod y ffi wedi'i thalu
Pa Ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal
Bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu pob derbynnydd arfaethedig bod hysbysiad buddiant mewn tir wedi'i dderbyn. Byddant yn gosod dyddiad cau ar gyfer sylwadau.
Sut mae ymateb i’r ymgynghoriad
Mae sylwadau sy'n berthnasol i'r cais yn cynnwys:
- dweud a yw'r wybodaeth yng nghais yr ymgeisydd yn gywir,
- esbonio'r rhesymau dros wrthod rhoi gwybodaeth berthnasol i'r ymgeisydd
- rhoi barn ar hyd arfaethedig yr awdurdodiad.
Dylid cael tystiolaeth i gefnogi cyflwyniadau. Gall hyn gynnwys gohebiaeth ysgrifenedig, cofnodion cyfarfodydd neu gofnodion o sgyrsiau ffôn.
Sut gaiff penderfyniad ei wneud
Bydd penderfyniad Gweinidogion Cymru yn cael ei lywio gan:
- y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd
- unrhyw sylwadau gan y derbynnydd arfaethedig.
Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi i'r ymgeisydd a'r derbynnydd arfaethedig. Bydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cyflwyno hysbysiad buddiannau tir
Os yw Gweinidogion Cymru yn awdurdodi'r ymgeisydd i gyflwyno hysbysiad buddiannau mewn tir, rhaid i'r hysbysiad fodloni'r gofynion yn Rheoliad 7 o Reoliadau Caniatâd Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025.
Rhaid i’r hysbysiad:
- gael ei gyflwyno yn ysgrifenedig.
- cynnwys datganiad bod yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i gyflwyno’r hysbysiad;
- nodi’r tir y mae’r hysbysiad yn gysylltiedid ag ef;
- pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid darparu ymateb i’r ymgeisydd, sy'n gorfod bod o leiaf 15 diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad i’r derbynnydd.
- datgan effaith adran 28(6) i (8) o Ddeddf 2024 (troseddau o fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan adran 28(2) neu (3) ac o roi gwybodaeth anwir).
Atodiad A: Adran 28 "Cael gwybodaeth ynghylch buddiannau mewn tir"
Gwybodaeth y gofynnir amdani gan ymgeiswyr:
- Manylion cyswllt yr ymgeisydd/asiant.
- Disgrifiad o'r prosiect SIP
- Esboniad manwl pam fod angen awdurdodiad i gael buddiannau mewn tir.
- Cynllun lleoliad sy'n dangos maint y gwaith datblygu a manylion perchnogaeth (gan gynnwys nodi tir o dan reolaeth yr ymgeisydd a'r tir y ceisir gwybodaeth sy'n gysylltiedig â buddiannau tir arno).
- Dylai'r cynllun lleoliad nodi'n glir ffiniau tir cofrestredig a thir heb ei gofrestru. Dylid rhoi cyfeirnod parsel tir i dir cofrestredig a thir heb ei gofrestru.
- Copïau swyddogol cyfredol o unrhyw ddogfennau perthnasol y Gofrestrfa Dir.
- Ar gyfer tir heb ei gofrestru, copi cyfredol o ganlyniad chwiliad y Gofrestrfa Tir.
- Tystiolaeth o'r camau a gymerwyd gan yr ymgeisydd i nodi'r derbynwyr arfaethedig o hysbysiad buddiant tir. Dylai hyn gynnwys tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi hysbysu'r derbynnydd arfaethedig ei fod yn bwriadu ceisio hysbysiad buddiant tir gan Weinidogion Cymru.
- Cyfiawnhad dros y cyfnod o amser y ceisir awdurdodiad.
- Talu’r ffi ymgeisio
- Manylion wedi eu nodi yn atodiad B.
Atodiad B
- Cyfeirnod Parsel Tir (fel y dangosir ar y cynllun lleoliad)
- Enw a chyfeiriad y derbynnydd arfaethedig
- Buddiant y derbynnydd arfaethedig, fel y nodir yn adran 28 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024
- Tir Cofrestredig: Rhif y teitl cofrestredig a'r disgrifiad o'r tir drwy gyfeirio at y ffin ac unrhyw nodweddion ffisegol
- Tir sydd heb ei gofrestru: Cyfeirnod grid OS a disgrifiad o dir drwy gyfeirio at y ffin ac unrhyw nodweddion ffisegol
- Tystiolaeth o ymdrechion rhesymol yr ymgeisydd i gael gwybodaeth
- Rhesymau dros y cais, gan gyfeirio at adrannau 29, 30 a 64 i 72 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024
