Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1 ar y agenda: sylwadau rhagarweiniol, cofnodion a chamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Mehefin.

Eitem 2 ar yr agenda (a): iechyd a diogelwch yn y gwaith yng Nghymru: defnyddio a rhannu gwybodaeth wrth reoleiddio iechyd a diogelwch yn y gwaith yng Nghymru: adroddiad ar gyfer TUC Cymru

Derbyniodd y Fforwm gyflwyniad yn crynhoi prif bwyntiau'r adroddiad "Rheoleiddio Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yng Nghymru" (Crynodeb Gweithredol). Nodwyd yr adroddiad gan y Fforwm.

Eitem 2 (b) ar yr agenda: pwyntiau allweddol sy'n codi o ymgysylltu â rhanddeiliaid

Rhannodd TUC Cymru adborth a gafwyd o'u hymgysylltiad â chyrff rheoleiddio ac eraill ar themâu a drafodir yn yr adroddiad. Roedd hyn yn dangos consensws cyffredinol ar yr angen am ddulliau mwy cydweithredol a rhagweithiol lle bo hynny'n bosibl.

Eitem 2 ar yr agenda (c): cwestiynau a thrafodaethau am yr adroddiad

Cafodd y Fforwm drafodaeth ddifyr ar yr adroddiad. Roedd hyn yn cynnwys cwestiynau, sylwadau ac eglurhad ar rai pwyntiau. Yn gyffredinol, croesawodd y Fforwm yr adroddiad g a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu cynnar mewn sefydliadau perthnasol. Cytunodd y Fforwm y gall astudiaethau achos ddarparu enghreifftiau defnyddiol o arfer da y gall eraill ddysgu ohonynt. Nododd y Fforwm hefyd y cyd-destun newidiol ar gyfer gorfodi'r farchnad lafur, o ystyried y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu'r Asiantaeth Gwaith Teg arfaethedig. 

Eitem 3 ar yr agenda: unrhyw fusnes arall a chloi'r cyfarfod

Cytunodd y Fforwm i gyfarfod eto cyn diwedd tymor y Senedd yn 2026.