Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Cafodd dull gweithredu arloesol Cymru ym maes iechyd y cyhoedd ei gydnabod yn rhyngwladol mewn cyfarfod mawr o Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yr wythnos hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bu’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, yn siarad yng Nghyfarfod Blynyddol Rhwydwaith Rhanbarthau Iechyd y WHO yn St Pölten yn Awstria [27 Tachwedd].

Dangosodd sut mae Cymru yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy strategaeth iechyd meddwl a llesiant 10 mlynedd uchelgeisiol a newydd, sy'n rhoi ymyrraeth ac atal cynnar wrth wraidd y broses o drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd meddwl.

Dywedodd y gweinidog:

Roedd y cyfle i rannu profiad Cymru ar y llwyfan byd-eang yn dangos sut y gall gwledydd llai arwain ar arloesi ym maes iechyd y cyhoedd. Drwy fod gwledydd Ewrop yn dod ynghyd i ddysgu oddi wrth ei gilydd, gallwn ni wella canlyniadau iechyd a llesiant i'n poblogaethau.

Heddiw, bues i’n amlinellu sut mae ein strategaeth iechyd meddwl newydd yn mynd ati i ddarparu mwy o wasanaethau cydgysylltiedig, sy'n cynnwys y mathau o gymorth sydd ei angen ar bobl, sef cefnogaeth sy'n helpu i roi sylw i achosion sylfaenol eu trallod meddyliol ac iechyd meddwl gwael.

Mae'r strategaeth yn golygu bod gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cynnig mynediad agored ar yr un diwrnod yn cael eu datblygu ar draws Cymru. Mae hyn yn adeiladu ar lwyddiant gwasanaeth GIG Cymru 111 Pwyso 2, sy'n darparu cymorth i bobl ag anghenion iechyd meddwl brys, a hynny 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Fel rhan o'r newidiadau i ofal iechyd meddwl yng Nghymru, bydd pobl yn gallu cael mynediad haws at gymorth pryd a lle y mae ei angen. Bydd gwasanaethau hefyd yn cysylltu unigolion â chymorth yn seiliedig ar achos sylfaenol eu trallod meddyliol, megis cymorth gyda dyledion, cymorth tai, arweiniad ar gyflogaeth, neu gwnsela.

Daeth cyfarfod y WHO ag arweinwyr gwleidyddol ac arbenigwyr iechyd at ei gilydd o 44 o Ranbarthau Iechyd 26 o wledydd Ewropeaidd y WHO. Fe wnaethant rannu atebion o ran heneiddio'n iach, atal, gofal integredig, a thrawsnewid iechyd yn ddigidol.

Roedd sesiynau rhyngweithiol a chyfnewidiadau rhwng cymheiriaid yn galluogi rhanbarthau i ddysgu o'n profiad ni yma yng Nghymru. Cryfhaodd y cyfarfod leisiau'r rhanbarthau mewn polisi iechyd rhyngwladol.

Bydd y dulliau gweithredu a drafodwyd yn helpu rhanbarthau ledled Ewrop i rannu syniadau a gwella canlyniadau iechyd a llesiant i'w poblogaethau.