Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU) (sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon), wedi cyhoeddi dau o ymatebion i ymgyngoriadau ETS y DU heddiw, ac un ymgynghoriad pellach. Ar 25 Tachwedd 2025, cyhoeddodd yr Awdurdod ymateb i Ehangu Cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Ymgynghoriad morol (Saesneg yn Unig), sy'n ymwneud â chynnwys allyriadau o weithgarwch morol domestig. Ochr yn ochr â'r ymateb hwn, cyhoeddodd yr Awdurdod ymgynghoriad hefyd ar gynnwys allyriadau o weithgarwch morol rhyngwladol yng nghwmpas ETS y DU (Saesneg yn Unig). Yn dilyn hyn, ar 26 Tachwedd 2025, cyhoeddwyd ymateb i Gynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Ymgynghoriad ar yr Adolygiad o Ddyraniadau am Ddim (Saesneg yn Unig).  Yn ogystal â hynny, ar 27 Tachwedd 2025 gosodwyd Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026 gerbron y Senedd.

Ym mis Tachwedd 2024, cyhoeddodd yr Awdurdod ymgynghoriad a oedd yn gofyn am farn ar fanylion cynnwys y sector morol domestig yn y cynllun. Mae ymateb heddiw yn cadarnhau y bydd y cynllun yn berthnasol i longau o 5000 tunnell gros (GT) ac uwch heb drothwy de minimis, gyda phwynt adolygu ar gyfer y trothwy hwn yn 2028. Mae'n esbonio y bydd oedi wrth gynnwys llongau ar y môr tan fis Ionawr 2027 ac y bydd yn cynnwys gostyngiad o 50% yn rhwymedigaethau ildio ETS y DU ar lwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr.  Bydd yn darparu eithriad ar gyfer llongau fferi sy'n gwasanaethu ynysoedd a phenrhynoedd yr Alban, ac ar gyfer cychod pysgota, a bydd y rheini yn cael eu hadolygu yn 2028. Bydd y cap cyffredinol ar ddyraniadau ETS y DU yn cynyddu yn unol â'r cynnydd a ragwelir mewn allyriadau o gyflwyno'r sector morol i ETS y DU. 

Mae'r ymgynghoriad ar weithgarwch morol rhyngwladol yn cynnig y byddai taith ryngwladol yn cynnwys unrhyw fordaith sydd naill ai'n dechrau neu'n gorffen mewn porthladd yn y DU ac yn ceisio barn ar gynnwys neu eithrio allyriadau o fordeithiau i ac o diriogaethau dibynnol ar y Goron a Thiriogaethau Tramor. Mae'n cynnig y byddai cyfranogwyr yn monitro ac yn adrodd am 100% o'u hallyriadau nwyon tŷ gwydr ar fordaith rhwng porthladd yn y DU a phorthladd y tu allan i'r DU. Fodd bynnag, dim ond er mwyn cwmpasu 50% o'u hallyriadau y byddai gofyn i weithredwyr ildio eu dyraniadau. Byddai hyn yn adlewyrchu ymagwedd bresennol yr UE at allyriadau morol rhyngwladol yn ETS yr UE. Mae hefyd yn cynnig bod llongau ar y môr yn cael eu cynnwys, a'i fod yn ofynnol iddynt fodloni'r rhwymedigaethau Monitro, Adrodd a Gwirio (MRV) ac ildio yn ETS y DU. Yn olaf, mae'n cynnig addasu'r cap i gyfrif am allyriadau morol rhyngwladol gan ddefnyddio llwybr cyson sero net diweddaraf y DU fel y nodir yn y Strategaeth Datgarboneiddio Morol.

Mae Ymateb yr Awdurdod i'r ymgynghoriad Adolygiad o Ddyraniadau Am Ddim yn dilyn cynigion i ddiwygio'r polisi dyrannu am ddim a'i addasu ar gyfer sectorau'r Mecanwaith Addasu Ffiniau Carbon (CBAM), yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd CBAM yn cael ei gyflwyno yn 2027. Dyraniadau am ddim o lwfansau ETS y DU (a elwir yn ddyraniadau am ddim) yw'r unig bolisi sydd ar waith ar hyn o bryd i liniaru dadleoli carbon. Dadleoli carbon yw allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu dadleoli wrth i gynhyrchu gael ei symud i wledydd eraill sydd â pholisïau lliniaru newid hinsawdd gwannach. Mae polisi dyraniadau am ddim yn amddiffyn cyfranogwyr ETS y DU rhag y pris carbon llawn trwy ddarparu swm o ddyraniadau i gyfranogwyr am ddim. Mae hyn yn arbennig o bwysig i gyfranogwyr Cymru sy'n derbyn lefelau uchel o ddyraniadau am ddim.

Mae'r newidiadau i reolau ar ddata gweithgaredd, meincnodau, a dileu dyraniadau am ddim ar gyfer sectorau a gwmpesir gan CBAM y DU yn gofyn am newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Heddiw, gosodwyd y Gorchymyn gerbron y Senedd, a fydd yn caniatáu ar gyfer y newidiadau hyn. 

Mae cyhoeddi'r ymatebion hyn yn gam nesaf hanfodol wrth ddatblygu cynigion effeithiol ar gyfer ehangu ETS y DU, cynyddu lefel yr allyriadau a fydd yn dod o dan y cynllun a helpu i lunio dyfodol ETS y DU mewn ffordd sy'n cefnogi uchelgeisiau sero net hirdymor Cymru a strategaeth ddatgarboneiddio ehangach.

Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'w hysbysu o'r ymgyngoriadau hyn.