Cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru: 9 Hydref 2025
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru ar 9 Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS
- Jack Sargeant AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jane Hutt AS
- Jayne Bryant AS
- Julie James AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jeremy Miles AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
Arweinwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru
- Y Cyng. Jason McLellan, Sir Ddinbych
- Y Cyng. Mark Pritchard, Wrecsam
- Y Cyng. Dave Hughes, Sir y Fflint
Mynychwyr allanol eraill
- Maer Steve Rotheram, Maer Dinas-ranbarth Lerpwl
- Denise McQuade, Conswl Cyffredinol yng Nghymru, Llywodraeth Iwerddon
- Cillian O'Kelly, Conswl Cyffredinol yn Lloegr, Llywodraeth Iwerddon
- Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor
- Yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam
- Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr, Grŵp Llandrillo Menai
- Alwen Williams, Prif Weithredwr, Pwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
- Adam Graham, Uwch Swyddog Trafnidiaeth, Pwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
- Anthony McKenna, Cyfarwyddwr Nawdd a Rhaglenni Masnachol,Trafnidiaeth Cymru
- Robyn Macnamara, Network Rail
- Vernon Everitt, Comisiynydd Trafnidiaeth Manceinion Fwyaf
- Dawn Docx, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Caroline Street, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Pobl, Profiadau a Diwylliant, Coleg Cambria
- Ceri Taylor, Trafnidiaeth Cymru
- Rob Holmes, Trafnidiaeth Cymru
- Y Cyng. Lousie Gittins, Arweinydd, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer
- Y Cyng. Karen Shore, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, ac Aelod y Cabinet dros Drafnidiaeth a Phriffyrdd, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer
- Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
- Y Cyng. Dylan Rees, Cadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Swyddogion Llywodraeth Cymru
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, CCRA
- Sioned Evans Cyfarwyddwr Cyffredinol, ECWL
- Emma Williams Cyfarwyddwr Cyffredinol, ECWL
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, EET
- Steven McGregor, Dirprwy Gyfarwyddwr Gogledd Cymru
- Ceri Christian-Mullineux, Uwch-reolwr Partneriaethau Rhanbarthol - Gogledd Cymru
- Peris Jones, Pennaeth Cyflawni Cyfalaf, EET
- Carwyn Wycherley, Dirprwy Bennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Michelle North-Jones, Arweinydd Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth Gogledd Cymru, EET
- Gemma Thomas, Arweinydd Trafnidiaeth Ranbarthol Gogledd Cymru, Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth, EET
- Jacqueline Totterdell, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
- Aled Jones, Cyfieithydd (Cymen)
Ymddiheuriadau
- Ken Skates AS
- Lynne Neagle AS
- Vicki Howells AS
Eitem 1: Croeso a sylwadau agoriadol
1.1 Croesawodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol y mynychwyr, gan nodi y byddai'n cadeirio'r cyfarfod yn sgil ymddiheuriadau Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru.
1.2 Byddai'r cyfarfod yn canolbwyntio ar un o bedair blaenoriaeth y Prif Weinidog: Gwella Trafnidiaeth, a'i berthnasedd i Ogledd Cymru a chymunedau yn Iwerddon ac ar draws Gogledd-orllewin Lloegr. Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o'r Rhanbarthau hynny, gan nodi sut yr oedd yn hanfodol trafod gweithio mewn partneriaeth a chryfhau cysylltiadau ymhellach. Croeso i bawb.
1.3 Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Weinidog i roi sylwadau agoriadol, a nododd yr Is-bwyllgor yr ymrwymiad parhaus i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phartneriaid, a'r sensitifrwydd a oedd gan Lywodraeth Cymru tuag at faterion cymhleth ar draws ardal Gogledd Cymru, oherwydd ei demograffeg a'r modd y mae'n cysylltu'n fwy naturiol ag ardaloedd trawsffiniol yn Iwerddon a'r Gogledd-orllewin. Ailadroddodd y Prif Weinidog y cynigion uchelgeisiol i wella trafnidiaeth, gan gydnabod bod materion ariannu yn codi bob amser ac y byddai'n rhaid mynd i'r afael â nhw.
Eitem 2: Diweddariad ar wydnwch y rhwydwaith ffyrdd ar draws Gogledd Cymru
2.1 Yna trodd y Cadeirydd at broblemau gyda Phont Menai, yn dilyn darganfod difrod i'r bont yn ddiweddar, gan wahodd Peris Jones i roi diweddariad ar y sefyllfa.
2.2 Roedd gwaith yn mynd rhagddo'n uniongyrchol gyda UK Highways A55 DBFO Ltd i ailagor Pont Menai yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr, a cherddwyr yn ystod y dyddiau nesaf, gan gadw llygad ar ddiogelwch fel y prif bryder, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd sy'n teithio ar ei thraws yn ddiogel.
2.3 Roedd broblem benodol, sef difrod i folltau ar y trawstiau hollbwysig o dan y bont, a oedd wedi dod i'r amlwg fel rhan o waith ymchwilio UK Highways A55 DBFO Ltd ar gyfer Cam 2 Pont Menai, a byddai eu hadnewyddu.
2.4 Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cwrdd dros y penwythnos blaenorol â UK Highways A55 DBFO Ltd, Aelodau lleol o'r Senedd a Senedd San Steffan, ac Arweinydd Ynys Môn er mwyn deall y sefyllfa'n llawn a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf.
2.5 O ran gwella gwydnwch croesfannau Afon Menai, yn enwedig Pont Britannia, roedd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi gwneud un ar bymtheg o argymhellion ar gyfer gwella cyffyrdd ac aliniadau cerbytffyrdd, gosod taflwyr gwynt ar Bont Britannia, a chyflwyno gwelliannau ar gyfer cerdded a beicio.
2.6 O ran gwydnwch y rhwydwaith ffyrdd strategol ehangach yng Ngogledd Cymru, roedd yr A55 a'r A494 yn creu coridor strategol rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin sy'n cysylltu â Gogledd-orllewin Lloegr a thu hwnt. Y llwybr hwn yw'r prysuraf yng Ngogledd Cymru, gyda thros 80,000 o gerbydau'r dydd yn teithio ar hyd y llwybr ar yr adegau brig, ac roedd yn elfen allweddol o rwydwaith ffyrdd strategol y DU ac Ewrop a oedd yn darparu'r brif rydweli economaidd ar gyfer Gogledd Cymru.
2.7 Roedd astudiaeth ar y gweill i edrych ar anghenion trafnidiaeth a gwydnwch yr A55 a'r A494, gyda'r nod o ddatblygu dealltwriaeth aml-foddol fanwl, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, o'r heriau a'r cyfleoedd trafnidiaeth ar hyd y coridor hwn, ac ymyriadau posibl i fynd i'r afael â nhw. Byddai'r astudiaeth yn canolbwyntio ar ddiogelwch, cysylltedd, gwydnwch, hygyrchedd, perfformiad gweithredol, gwydnwch hinsawdd, a chefnogi twf economaidd.
2.8 Roedd yr A55, ynghyd â'r A494, yn llwybr rhydwelïol allweddol i Ogledd Cymru, ac roeddent yn hanfodol ar gyfer symud pobl a nwyddau a chefnogi'r economi. Am y rheswm hwnnw, roedd cynnydd yn cael ei wneud o ran gweithredu'r cynllun i adnewyddu Pont Afon Dyfrdwy a chynnal astudiaeth diogelwch a gwydnwch ar hyd Aston Hill. Byddai cyflawni'r cynlluniau hyn yn helpu i wella diogelwch, llif y traffig, a gwydnwch, gan leihau lefel y gwaith cynnal a chadw aflonyddgar y byddai angen ei wneud ar y rhwydwaith.
2.9 Croesawodd yr Is-bwyllgor y camau cadarnhaol sy'n cael eu cymryd yn unol â'r maes blaenoriaeth hwn ar draws rhanbarth Gogledd Cymru, gan gydnabod yr effaith a gafodd cau Pont Menai ar yr ardal.
Eitem 3: Diweddariad ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
3.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Alwen Williams, Prif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, i roi diweddariad ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
3.2 Roedd y cyflwyniad yn ymdrin â'r achos dros newid, a sut y gallai'r gwahanol linynnau cyflawni weithio gyda'i gilydd i wireddu'r weledigaeth bod gan y Gogledd rwydwaith trafnidiaeth integredig diogel, cynaliadwy, fforddiadwy, gwydn ac effeithiol sy'n cefnogi twf economaidd, ffyniant i bawb, cynhwysiant, a llesiant.
3.3 Roedd amcanion y cynllun yn cynnwys:
- gwella cysylltedd digidol a gwasanaethau lleol
- gwella hygyrchedd lleol a dewis trafnidiaeth
- galluogi twf economaidd cynaliadwy
- galluogi datgarboneiddio trwy drosglwyddo i fflyd allyriadau sero.
3.4 Roedd yr ymgynghoriad ar y cynllun ar agor rhwng 20 Ionawr a 14 Ebrill y flwyddyn honno, a daeth cyfanswm o 1,684 o ymatebion i law. Roedd 67% naill ai'n cefnogi neu'n cefnogi'n gryf weledigaeth ac amcanion Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, gyda 61% yn cefnogi neu'n cefnogi'n gryf y polisïau a'r ymyriadau a gynigiwyd.
3.5 Nodwyd y dyheadau ar gyfer rheilffyrdd a ffyrdd, ochr yn ochr â'r polisïau i weithredu gwelliannau ar gyfer bysiau, cerdded, olwynion a beicio. Y nod oedd darparu dewis i bobl yn yr ardal o ran swyddi, addysg a gwasanaethau a sut i gael mynediad atynt. Yn gysylltiedig â hyn, roedd angen darparu ar gyfer economi ymwelwyr fywiog a chynaliadwy, a sicrhau bod anghenion coetsis, system sy'n ymateb i'r galw fel y cynlluniau peilot fflecsi, a thrafnidiaeth gymunedol yn rhan o'r ystyriaethau.
3.6 Roedd y gwaith ar y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys dros 240 o gynlluniau a fyddai'n helpu i wireddu'r weledigaeth ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac roedd gwaith ar y gweill i ddarparu cyllid addas ar gyfer bwrw ymlaen â chynlluniau blwyddyn 1.
3.7 Y camau nesaf fyddai cyflwyno cynlluniau blwyddyn 1 i Lywodraeth Cymru gytuno arnynt, gyda'r bwriad y byddai Awdurdodau Lleol yn dechrau eu gweithredu o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
3.8 Byddai Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn darparu cynllun strategol ar gyfer gwella trafnidiaeth ym mhob rhanbarth o Gymru, a byddent yn cydgysylltu gweithio ar lefel ranbarthol.
3.9 Roedd y trefniadau gweithio mewn partneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn allweddol, ac roedd £200,000 ychwanegol wedi'i ddarparu i bob Cyd-bwyllgor Corfforedig y flwyddyn ariannol hon tuag at eu gwaith ar drafnidiaeth.
3.10 Roedd y Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i foderneiddio grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ac roedd Llywodraeth Cymru yn gweithio i gyfuno'r set bresennol o grantiau trafnidiaeth leol yn ffynhonnell gyllid ar gyfer Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, a datganoli'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch ble y byddai'r cyllid yn cael ei wario i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Eleni, roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu tua £110m i Awdurdodau Lleol drwy grantiau trafnidiaeth leol. Byddai moderneiddio'r grantiau hyn yn sicrhau y gellid targedu cyllid at y blaenoriaethau ym mhob rhanbarth.
3.11 Byddai'r trefniadau newydd hyn ar waith ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27, unwaith y byddai'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi'u cwblhau ac yn eu lle.
3.12 Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu dros £30m i Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru yn 2025-26, i'w fuddsoddi mewn blaenoriaethau trafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Roedd hynny'n cynnwys parhau â chynlluniau bysiau peilot hanfodol yn Sir Ddinbych a Gwynedd, gan gynnwys gwasanaeth y T8 a Sherpa'r Wyddfa, gan wella mynediad at gyflogaeth, gwasanaethau, a chyfleusterau ar gyfer cymunedau; cwblhau'r gwaith sy'n weddill i adfer y rhan goll o'r B5605 yng Nghoed Gelli, Newbridge, a gafodd ei difrodi yn ystod tirlithriad ar ôl storm Christoph ym mis Ionawr 2021; a gwelliannau arfaethedig i ddiogelwch ar y ffordd i'r A548 rhwng Llangernyw ac Abergele.
3.13 Roedd teithwyr ledled Gogledd Cymru yn dechrau elwa o ganlyniad i'r buddsoddiad o £800m mewn fflyd trenau newydd, gyda threnau mwy dibynadwy a chyfforddus ar gael i deithwyr.
3.14 Byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfreinio bysiau yn diwygio sut yr oedd bysiau'n gweithredu yn y Gogledd, a byddent yn galluogi gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol i ddatblygu rhwydwaith bysiau newydd ar gyfer y rhanbarth.
3.15 Croesawodd yr Is-bwyllgor y gwaith a wnaed i wella amlder trenau trwy orsaf drenau Caer, er bod rhagor o waith i'w wneud mewn ymgynghoriad â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r orsaf ei hun, gan fod angen ei huwchraddio.
3.16 Yn yr un modd, nodwyd effeithiau cadarnhaol gan staff a chleifion ar draws ardal Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr, a byddai gwelliannau'n helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n ymwneud â mynediad at drafnidiaeth i'r rheini mewn addysg a hyfforddiant.
3.17 Roedd cysylltedd dros Fôr Iwerddon yn hanfodol, gyda chyfnewid gwybodaeth ddefnyddiol yn parhau rhwng gweinyddiaethau, ac roedd cyfathrebu amserol yn arbennig o ddefnyddiol. Byddai'r ymgysylltu dwyochrog rhwng swyddogion yn parhau ac roedd y bartneriaeth agos rhwng Iwerddon a Chymru yn rhywbeth i'w groesawu.
3.18 Byddai cydweithredu ar lefel leol yn hanfodol gyda dyfodiad datganoli pellach i ranbarthau, a byddai bob amser achos dros wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng ardaloedd trawsffiniol, gyda nifer sylweddol o'r teithiau hyn yn cael eu gwneud ar y ffordd at ddibenion gwaith a hamdden. Gallai hyn gynyddu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy ac i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Byddai'r angen i gapio costau trafnidiaeth gyhoeddus i'r ifanc yn bwysig, fel yr oedd yr angen i ddarparu mynediad at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant.
3.19 Er bod Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cael ei groesawu, pwysleisiwyd hefyd y byddai'n bwysig ystyried darlun ehangach na'r prif ffyrdd a'r prif lwybrau yn unig, er mwyn sicrhau bod ardaloedd gwledig yn cael eu hystyried, a sut y gellid bwrw ymlaen â'r gwaith ehangach o wella cysylltedd a hygyrchedd llwybrau llai. Nodwyd bod gwydnwch croesfan Menai hefyd yn hanfodol er mwyn i bobl ifanc gael mynediad hawdd at brofiadau addysg ar bob ochr i Afon Menai.
3.20 Diolchodd y Gweinidog i bartneriaid am eu hymrwymiad parhaus i gydweithredu ar draws y rhanbarth er mwyn gweithredu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Eitem 4: Diweddariad ar Rwydwaith Gogledd Cymru
4.1 Nododd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol mai Rhwydwaith Gogledd Cymru oedd y cynllun uchelgeisiol a rennir i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig amledd uchel ar gyfer Gogledd Cymru. Wrth wraidd y rhaglen byddai gwasanaeth Metro Gogledd Cymru, a fyddai'n defnyddio dull gweithredu trawsffiniol i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ardal Mersi-Dyfrdwy, gan gynnwys gwasanaethau ar ffurf metro ar brif lein Gogledd Cymru, a chysylltiad rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Wrecsam a Lerpwl. Nod y rheilffordd fyddai gwneud y mwyaf o gyfleoedd, a datgloi potensial economaidd Gogledd Cymru a'r rhanbarth trawsffiniol.
4.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Anthony McKenna o Drafnidiaeth Cymru a Robyn Macnamara o Network Rail i roi cyflwyniad ar hynt y gwaith hwn i'r Is-bwyllgor.
4.3 Roedd Rhwydwaith Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar dri amcan allweddol, sef datgloi ffyniant, creu swyddi, a chysylltu cymunedau drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Byddai hon yn weledigaeth unigryw a pharhaol ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru, a byddai'n cael ei chyflawni drwy weithio gyda sectorau cyhoeddus, preifat a thrydyddol y rhanbarth i wireddu'r weledigaeth a rennir i Gymru a'r gororau.
4.4 Roedd Rhwydwaith Gogledd Cymru yn seiliedig ar weledigaeth hirdymor, ond roedd y gwaith cyflawni eisoes wedi dechrau, gyda'r rhaglen yn cael ei chefnogi gan gynllun a oedd yn cynnwys nodau tymor byr, canolig a hirdymor, hyd at 2035 a thu hwnt.
4.5 Byddai'r gweithgarwch llywodraethu ar gyfer y rhaglen yn cynnwys gweledigaeth wedi'i halinio, llywodraethu ar y cyd, a'r defnydd effeithlon o adnoddau rhwng Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, Cyrff Rhanbarthol, ac Uchelgais Gogledd Cymru, ynghyd â chydweithredu trawsffiniol. Byddai'r rhaglen yn cael ei goruchwylio gan Fwrdd Rhwydwaith Gogledd Cymru, sy'n cael ei gadeirio gan y CSTNW. Mae'r Bwrdd yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, ynghyd ag Uchelgais Gogledd Cymru, Dinas-ranbarth Lerpwl, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, a'r Adran Drafnidiaeth.
4.6 Mae'r gwaith o weithredu'r rhaglen hyd yma yn cynnwys gwelliannau newydd i orsaf reilffordd y Fflint a agorwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ym mis Hydref 2025; gwelliannau i'r orsaf yn cael eu cyflawni nawr ar linell Wrecsam-Bidston; agor turn olwynion Caergybi; a lansio'r gwasanaeth bws T51 newydd rhwng y Rhyl a Wrecsam ym mis Medi 2025.
4.7 Byddai amlder trenau rhwng Wrecsam a Chaer yn dyblu o fis Rhagfyr 2025; byddai gwasanaethau ar Brif Reilffordd Gogledd Cymru yn cynyddu 50% ym mis Mai 2026, a byddai technoleg tapio i mewn / tapio allan Talu wrth Fynd yn dod i Ogledd-ddwyrain Cymru yn 2026. Roedd y weledigaeth hirdymor yn cynnwys gwasanaethau metro uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl; gwella capasiti yng ngorsaf Caer er mwyn galluogi mwy o wasanaethau i Ogledd Cymru; datblygu cynlluniau i ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ddatgarboneiddio'r rheilffordd yng Ngogledd Cymru; ac archwilio'r opsiynau o ran ailagor gorsafoedd ac adeiladu gorsafoedd newydd i wasanaethu ardaloedd twf cyflogaeth.
4.8 Croesawyd y newid i redeg dau drên yr awr ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Lerpwl trwy linell Bidston, ond roedd awgrym y dylai'r dyhead am bedwar trên yr awr gael ei ddwyn ymlaen o'r amcangyfrif cynllunio presennol o 2035.
4.9 Croesawodd yr Is-bwyllgor fuddsoddiad ychwanegol Llywodraeth Cymru o dros £13m yn y flwyddyn ariannol hon er mwyn dechrau ar y gwaith cyflawni ar unwaith. Hefyd, roedd Llywodraeth y DU wedi ymrwymo, drwy'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, i wneud y gwaith gwella yn Padeswood i wella gwasanaethau rhwng Wrecsam a Lerpwl.
4.10 Nodwyd bod gan ranbarthau Gogledd Cymru a'r gororau at ei gilydd boblogaeth sy'n ddwy ran o dair maint Llundain, a byddai cysylltu'r ardaloedd hynny yn ffordd bwerus iawn o wella ffyniant. Roedd datganoli pellach yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer diwygio rheilffyrdd, a byddai'n hanfodol bod lleisiau ar y cyd yn cael eu clywed i wneud y mwyaf o fuddsoddiad yn y rhanbarth. Diolchwyd i Faer Dinas-ranbarth Lerpwl am y gwaith ar gysylltiadau Mersi, a'r Conswl Cyffredinol yng Nghymru ar gyfer Iwerddon.
Sylwadau i gloi
Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Cabinet, Arweinwyr Dinesig Gogledd Cymru, a chydweithwyr o Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr am y trafodaethau defnyddiol, a nododd y byddai cydweithio parhaus yn helpu i gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog yng Ngogledd Cymru er budd pobl y Gogledd a thu hwnt.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2025
