Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru yn rhoi cyngor pwysig i'n helpu i barhau i roi'r lle canolog i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau. Ym mis Hydref, ymunais â'r Comisiynydd i siarad â phlant a phobl ifanc o ysgolion lleol ym Mhort Talbot am yr Adroddiad a'r materion sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru yn rhannu uchelgais ar ran plant Cymru. Rydym am greu Cymru ar gyfer pob plentyn; lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol. Rwy'n falch o gael darparu ein hymateb i'r argymhellion a wnaed yn Adroddiad y Comisiynydd ar gyfer 2024-25.

Addysg – cwynion ysgol

Rydym yn adnewyddu'r canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar gwynion. Y bwriad yw rhoi eglurder ar adrannau ar gwynion dysgwyr, amseru'r broses gwyno, a lle y dylid defnyddio gweithdrefnau eraill yn hytrach na'r broses gwyno. Bydd y canllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl ac yn cael eu dwyn i sylw pob ysgol. Yn ogystal, bydd adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion yn dechrau cyn gynted â phosibl. Bydd yr adolygiad yn sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr yn briodol. Rhaid inni ofalu hefyd bod cyrff llywodraethu yn cael y cymorth sydd ei angen i arwain eu hysgolion yn effeithiol.

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu adnoddau er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer system addysg gynhwysol, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni'r uchelgais hirdymor hwn. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi buddsoddi mwy na £170 miliwn o gyllid cyfalaf i wella cyfleusterau i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac mae gwerth £750 miliwn o brosiectau wedi'u cynllunio dros y 9 mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau arbenigol, ac ysgolion a cholegau prif-ffrwd.  Yn ogystal â sefydlu 'Dysgu', y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol ar gyfer ysgolion a lleoliadau a gynhelir yng Nghymru, rydym yn datblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg. Bydd hyn yn ymgorffori ein gweledigaeth a'n gwerthoedd ar gyfer arweinwyr, athrawon a staff cymorth ar gyfer y dyfodol, gan gydnabod yr amrywiaeth o rolau pwysig ar draws gweithlu ysgolion.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn fanwl ganfyddiadau'r gwaith adolygu thematig sy'n cael ei wneud gan Archwilio Cymru. Bydd yr adroddiad hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i'r ystod eang o dystiolaeth yr ydym yn ei hystyried fel rhan o'n gwaith i wella darpariaeth y system ADY.

Tlodi Plant

Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn nodi ein huchelgeisiau a sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth, a chyda phartneriaid, i sicrhau bod yr opsiynau sydd ar gael inni yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Nid oes gan y Senedd y cymhwysedd i ddeddfu ar gyfer cynllun taliadau plant sy'n cyfateb i'r cynllun sy'n gweithredu yn yr Alban. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd a phlant, gan ddefnyddio'r pwerau sydd gennym eisoes drwy ymyriadau fel Prydau Ysgol am Ddim, Brecwast Ysgol a'r Grant Hanfodion Ysgol. 

Mae hwn yn gyfnod ariannol heriol i deuluoedd, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i adolygu'n rheolaidd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim os bydd cyllideb ar gael yn y dyfodol. Rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar oed ysgol gynradd yn sgil ein dealltwriaeth bod teuluoedd â phlant iau yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol. 

Mae creu system fudd-daliadau gydlynol yng Nghymru yn uchelgais i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda llywodraeth leol, er mwyn sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio'r holl gymorth ariannol sy'n ddyledus iddynt. Mae Siarter Budd-daliadau Cymru wedi cael ei mabwysiadu gan holl awdurdodau lleol Cymru, gan gadarnhau'r cyd-ymrwymiad i'w gwneud yn haws i bobl ledled Cymru gael gafael ar gymorth ariannol.

Tai

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant wrth gynllunio a darparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai, a ariennir drwy'r Grant Cymorth Tai.
 

Bydd y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn newid ein system ddigartrefedd yn sylfaenol, i ganolbwyntio ar ymyrraeth a chamau ataliol cynharach. Mae'r Bil wedi'i seilio ar fewnwelediad ac arbenigedd pobl sydd wedi profi digartrefedd, ac mae wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Byddwn yn parhau i sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu canllawiau a fydd yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth, gan gynnwys Cod Canllawiau newydd. 

O dan y Bil, bydd pobl sy'n gadael gofal yn cael eu cydnabod fel grŵp y mae'n rhaid rhoi ffafriaeth resymol iddynt wrth ddyrannu tai cymdeithasol. Mae'r Bil felly yn gweithredu i atal digartrefedd ymhlith pobl sy'n gadael gofal, gan liniaru'r effeithiau negyddol anghymesur ar y grŵp hwn.

Mae 67 o sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer y Siarter Rhianta Corfforaethol, gan gynnwys pob awdurdod lleol a’r 7 bwrdd iechyd lleol. Ein bwriad yw trefnu i bobl ifanc adolygu sampl o'r ymrwymiadau a rhoi adborth i sefydliadau. Rydym yn gweithio gyda Voices from Care Cymru i drefnu hyn. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw lletya ceiswyr noddfa. Fodd bynnag, rydym yn pwyso am dai sy'n bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae ymchwil ar y gweill i brofiadau plant o ddigartrefedd, a bydd yn cynnwys estyn allan at blant sy'n ceisio lloches a'u teuluoedd.

Trafnidiaeth

Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydlu Fforwm Cyngor Pobl Ifanc i gynghori ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd yn cynnig mewnwelediad, safbwyntiau ac argymhellion ar deithio i bobl ifanc, gan gynnwys darpariaeth deithio i ddysgwyr. Bydd y Fforwm yn cynnwys pobl ifanc o gefndiroedd a lleoliadau amrywiol, a gwahanol brofiad o ddefnyddio trafnidiaeth yng Nghymru, i helpu i greu cyfleoedd teithio cynhwysol, hygyrch a chynaliadwy i bobl ifanc yng Nghymru. 

Rydym yn cydnabod bod heriau ariannol yn gysylltiedig â darpariaeth deithio i ddysgwyr. Mae cyllid ar gyfer cludiant i'r ysgol yn dod drwy'r Grant Cynnal Refeniw, fel y gall awdurdodau lleol flaenoriaethu'r gwariant yn ôl anghenion lleol. Yn 2025-26, bydd awdurdodau lleol yn derbyn £6 biliwn drwy Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru ac ardrethi annomestig, i'w wario ar wasanaethau allweddol, gan gynnwys cludiant. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r tariff bws o £1 i bob plentyn a pherson ifanc 21 oed neu’n iau, er mwyn cefnogi teuluoedd gyda chostau byw, a helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden. Gall plant hefyd ddefnyddio’r cynnydd yn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg tuag at gostau cludiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cludiant am ddim i blant cymwys fel y'u diffinnir ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, gan gefnogi dysgwyr i fanteisio ar opsiynau teithio diogel a chynaliadwy i gyrraedd eu mannau dysgu. Bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn rhan o'r ateb i'r heriau sy'n wynebu dysgwyr o ran teithio. Bydd cydgysylltu'r rhwydwaith mewn ffordd sy'n gweithio ochr yn ochr ag amserlenni ysgolion a cholegau yn gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â'r ddarpariaeth deithio i ddysgwyr wrth lunio'r Cynllun Rhwydwaith.

Anabledd

Bydd y canllawiau 'Cynllunio ar gyfer Cynyddu Mynediad i Ysgolion i Ddisgyblion ag Anableddau' yn cael eu hadolygu fel rhan o'n gwaith i archwilio gweledigaeth tymor hirach ar gyfer system addysg gynhwysol. 

Iechyd Meddwl

Mae ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol yn cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu mynediad at gymorth yr un diwrnod. Rydym yn cefnogi cynlluniau peilot noddfa sy'n edrych ar wahanol ffyrdd o ddarparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc mewn argyfwng. Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu gwerthuso, a chânt eu defnyddio fel sail i wasanaethau i'r dyfodol.

Mae arfogi staff ysgolion â'r sgiliau a'r wybodaeth i gefnogi lles dysgwyr yn effeithiol, gan eu galluogi ar yr un pryd i reoli eu lles eu hunain, yn hanfodol. Eleni darparwyd £13.6m ar gyfer ystod o weithgareddau, gan gynnwys hyfforddiant staff, i wella eu gallu i gefnogi a rheoli lles plant a phobl ifanc. 

Drwy ein rhaglenni mamolaeth, blynyddoedd cynnar, rhianta a chymorth i deuluoedd, rydym yn cynnig ymyrraeth gynnar a chymorth ataliol cyffredinol, uwch ac arbenigol i rieni, gan gynnwys ar gyfer iechyd emosiynol a meddyliol. Mae'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, camau ataliol a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y math mwyaf priodol o gymorth, ar yr adeg iawn ac yn ddi-oed.

Niwroamrywiaeth / niwrowahaniaeth

Drwy'r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth, rydym yn comisiynu sefydliad trydydd sector i sicrhau bod cymaint o leisiau â phosibl yn cael eu clywed, a'u bod yn gallu dylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau niwrowahaniaeth i blant. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed i wneud i ffwrdd â rhestrau aros tair blynedd ym mhob rhan o Gymru erbyn mis Mawrth 2026. Rydym yn darparu cyllid a chefnogaeth ymarferol i fyrddau iechyd i wneud newidiadau i'r ffordd y darperir asesiadau niwroddatblygiadol plant i'w gwneud yn fwy cynaliadwy. 

Rhaglen Plant Iach Cymru

Mae adolygiad cynhwysfawr o Raglen Plant Iach Cymru ar y gweill. Bydd yr adolygiad yn archwilio egwyddorion sylfaenol y rhaglen, yn asesu ei pherfformiad a'i heffaith dybiedig, ac yn nodi'r cyfyngiadau a'r heriau presennol. Daw'r adolygiad i ben yng ngwanwyn 2026. Bydd ei ganfyddiadau yn help i gryfhau datblygiad y rhaglen a sut y caiff ei gweithredu i'r dyfodol, er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd ledled Cymru. 

Cydlyniant Cymunedol

Byddwn yn adolygu strwythur llywodraethiant Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gan weithio gyda'r Comisiynydd Plant i ddatblygu mecanwaith newydd i bobl ifanc gael cyfrannu'n ffurfiol i'r strwythur. 

Diogelu

Rydym yn cynnal adolygiad o’r trefniadau atebolrwydd a llywodraethiant cyfredol o safbwynt diogelu yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn archwilio rolau a chyfrifoldebau'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, ynghyd â'r rhyngwyneb rhwng y cyrff hyn a'r arolygiaethau. Ochr yn ochr â hyn, ystyrir effeithiolrwydd cyffredinol y trefniadau hyn i amddiffyn pobl rhag niwed a pha gamau y mae angen eu cymryd nesaf. Caiff adroddiad terfynol ei gyflwyno yng ngwanwyn 2026. 

Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer Adolygiad Blwyddyn Un wedi'i gadarnhau gan Grŵp Statudol yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl, ac mae swyddogion yn ceisio penodi adolygydd allanol a all sicrhau persbectif annibynnol. Disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau ddechrau 2026.

Mae darparu trefniadau atebolrwydd a llywodraethiant clir ar gyfer adolygiadau diogelu yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a chymerir cam pwysig tuag at gyflawni hyn yn sgil cyflwyno fframwaith rheoli risg. Mae gwaith ar y gweill i drosglwyddo perchnogaeth Storfa Ddiogelu Cymru yn llawn i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Phrifysgol Caerdydd i sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol a nodwyd mewn profion yn cael eu gwneud mewn pryd cyn mynd yn fyw yn llawn. Cafodd Dangosfwrdd yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl ei dreialu'n fewnol yr haf hwn hefyd, a nodwyd nifer o newidiadau yr oedd angen eu gwneud cyn ei gyhoeddi'n allanol ar we-dudalennau'r Adolygiad.