Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Fis diwethaf, cyhoeddais fwriad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cap ar ffioedd dysgu cyrsiau israddedig llawnamser ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Rwyf o'r farn bod y cynnydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn briodol i Gymru, a bydd y capiau ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28 yn cael eu hystyried yn nhymor nesaf y Senedd.
Gallaf nawr gadarnhau fy mod yn cynnig y bydd y terfyn ffioedd dysgu yn cynyddu 2.71% o £9,535 i £9,790 ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2026, yn amodol ar y prosesau rheoleiddio arferol. Dyma'r uchafswm y gall darparwyr a reoleiddir ei godi ar rai myfyrwyr ar rai cyrsiau israddedig llawnamser yng Nghymru ac mae yr un peth â'r lefel a fydd yn cael ei chodi yn Lloegr.
Bydd y cynnydd mewn ffioedd dysgu yn darparu tua £19 miliwn o incwm ychwanegol i sefydliadau Cymru ar adeg anodd yn hanes y sector ac yn helpu i ddiogelu'r ddarpariaeth a'r buddsoddiad ym mhrofiad myfyrwyr.
Bydd uchafswm y benthyciad ffioedd dysgu yn cynyddu i £9,790 i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru sy'n astudio yng Nghymru neu yn Lloegr, ac i rai eraill sy'n astudio yng Nghymru. Ar gyfer cyrsiau a ddynodwyd yn benodol gan Weinidogion Cymru, bydd uchafswm y benthyciad ffioedd dysgu yn cynyddu i £6,525 i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru. Mae hyn yn parhau â'n polisi hirsefydlog o sicrhau nad yw'r un myfyriwr yn gorfod talu ei ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Rwyf am fod yn glir na ddylai cynnydd mewn ffioedd dysgu atal unrhyw un yng Nghymru rhag gwneud cais i'r brifysgol. Nid ydynt yn effeithio ar y costau prifysgol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu talu ymlaen llaw, nac yn cynyddu ad-daliadau benthyciadau misol ar ôl graddio. Dylai myfyrwyr siarad â'u darparwr addysg uwch os oes ganddynt gwestiynau am ffioedd.
