Cyfarfod y Cabinet: 13 Hydref 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 13 Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Ken Skates AS
- Vikki Howells AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig (yn ymesgusodi o eitemau 4 a 6)
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Claire Bennett, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol (eitem 5)
- Bethan Cradock, Pennaeth Diwygio Dŵr (eitem 5)
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 6 Hydref 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Cronfa Twf Lleol
2.1 Croesawodd y Prif Weinidog a'r Cabinet y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y byddai Cymru yn cael £547m dros gyfnod o dair blynedd i gefnogi twf rhanbarthol a chynhyrchiant, ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd. Enw'r Gronfa fyddai'r Gronfa Twf Lleol i Gymru, a byddai'n disodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd, gan gyflawni yn erbyn Cenhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru ac agenda twf Llywodraeth y DU. Byddai gan Lywodraeth Leol a phartneriaid cyflenwi eraill, rôl allweddol wrth benderfynu sut y byddai'r cyllid yn cael ei ddyrannu. Yn ddiweddarach y mis hwnnw, byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid hwn.
Is-bwyllgor Cabinet Gogledd Cymru
2.2 Diolchodd y Prif Weinidog i bawb a oedd wedi mynychu Is-bwyllgor Cabinet Gogledd Cymru yr wythnos flaenorol.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:20pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Diweddariad Llafar – Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru
4.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ddiweddariad i'r Cabinet ar Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru, a fyddai'n cael ei chynnal ar 1 Rhagfyr. Hefyd, byddai cyfle’r diwrnod cynt i'r cynrychiolwyr gael profiad o amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol.
4.2 Nod yr Uwchgynhadledd yw codi proffil Cymru fel economi ddeinamig a chynaliadwy a fyddai o fudd i gwmnïau byd-eang, gyda chyfleoedd yn cael eu cyflwyno i fuddsoddwyr ar draws gwahanol sectorau, gan gynnwys Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Technoleg, Ynni Glân, Gweithgynhyrchu Uwch, a'r Diwydiannau Creadigol.
4.3 Byddai hefyd yn cyflwyno cyfres o gyfleoedd buddsoddi cyfalaf i'r cynrychiolwyr, megis y rheini sy'n cynrychioli Cronfeydd Cyfoeth Sofran.
4.4 Byddai'r Uwchgynhadledd yn dangos sut y mae Cymru yn gallu dod â diwydiant, y byd academaidd a'r Llywodraeth at ei gilydd i gefnogi buddsoddiad a sicrhau bod yr amgylchedd yn un sy’n galluogi busnesau dyfu. Byddai'r rhaglen yn cynnwys cyfres o slotiau siarad a sesiynau grŵp ar gyfer sectorau, a byddai 'Arddangosfa Cymru' yn dangos yr ystod amrywiol o gynhyrchion a gwasanaethau, a hefyd yr arloesi sy'n digwydd yma yng Nghymru.
4.5 Roedd mwy nag 20 o gwmnïau yng Nghymru wedi cytuno i arddangos eu cynhyrchion neu wasanaethau, gan ddangos ehangder y dalent yng Nghymru a allai fod o fudd i ddarpar fuddsoddwyr, a'r ecosystem fusnes gefnogol sy'n bodoli yma. Roedd yn bwysig bod yr Arddangosfa hefyd yn tynnu sylw at y potensial a gynigir gan y Porthladdoedd Rhydd, y Parthau Buddsoddi, a Bargen Twf Canolbarth Cymru.
4.6 Byddai'r prif lwyfan yn cynnwys sesiynau panel a thrafodaethau, gyda siaradwyr o ddiwydiannau'n amlinellu sut maen nhw'n gweithio yng Nghymru, a sut mae'r wlad wedi cefnogi eu busnesau. Byddai hefyd yn cynnwys sut yr oedd cyfleoedd a heriau ar draws y dirwedd fuddsoddi fyd-eang yn effeithio ar benderfyniadau, a'i goblygiadau i Gymru.
Eitem 5: Comisiwn Dŵr Annibynnol - y camau nesaf
5.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i argymhellion y Comisiwn Dŵr Annibynnol.
5.2 Roedd y Comisiwn, o dan gadeiryddiaeth Syr Jon Cunliffe, wedi cael ei gomisiynu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i adolygu'r sector dŵr yng Nghymru a Lloegr. Dyma'r adolygiad mwyaf helaeth ers preifateiddio.
5.3 Roedd prif argymhellion y papur yn cynnwys ceisio cymorth ar gyfer gwaith brys i gyflymu trefniadau diwygio, cyfrannu at Bapur Gwyn a Bil Llywodraeth y DU, a chefnogi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru.
5.4 Trwy ddatganoli'r trefniadau rheoleiddio economaidd, byddai'r Llywodraeth yn gallu adeiladu system fwy integredig, gwydn, a blaengar, a fyddai'n sicrhau bod y ffordd o gynllunio'r diwydiant dŵr yn gydnaws ag anghenion yr amgylchedd dŵr.
5.5 Byddai fframwaith rheoleiddio'n cael ei greu a fyddai'n adlewyrchu gwerthoedd Cymru, yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor, ac yn darparu ar gyfer cymunedau, natur, a chenedlaethau'r dyfodol.
5.6 Byddai cael rheolaeth dros reoleiddio economaidd ar gyfer dŵr, a fyddai wedi'i halinio â rheoleiddio amgylcheddol am y tro cyntaf, yn caniatáu i Gymru ddefnyddio dull gweithredu gwahanol, o ystyried bod y system bresennol wedi'i chynllunio i greu cystadleuaeth yn y farchnad.
5.7 Roedd y Llywodraeth wedi croesawu adroddiad y Comisiwn ym mis Gorffennaf, ac roedd wedi ymrwymo i sefydlu rheoleiddiwr economaidd ar gyfer Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau trosglwyddiad esmwyth o Ofwat i'r rheoleiddiwr newydd.
5.8 Byddai papur ymgynghori Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i randdeiliaid wneud sylwadau ar y cyfeiriad strategol i Gymru. Byddai'n ymrwymo i'r rheoleiddiwr dŵr newydd, strategaeth ddŵr genedlaethol, cerrig milltir interim, a blaenoriaethau'r Gweinidogion, ac ar yr un pryd byddai'n sefydlu swyddogaeth cynllunio system ddŵr genedlaethol newydd, a allai gael ei hintegreiddio â gweithgarwch y rheoleiddiwr dŵr newydd, ac archwilio i'r potensial ar gyfer ombwdsmon dŵr newydd i Gymru.
5.9 Roedd cyfle i adfer hyder y cyhoedd mewn system y mae mawr angen ei diwygio, gan ailosod y naratif fel bod y cyhoedd yng Nghymru yn deall sut y mae dŵr yn cael ei lywodraethu yng Nghymru, tra'n sicrhau bod dŵr yfed o'r radd flaenaf yn parhau i gael ei ddarparu. Byddai pobl yn elwa o gael biliau fforddiadwy, cwmnïau atebol, a’r ffaith y byddai'r defnydd o adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
5.10 Roedd yn bwysig gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan y Senedd y pwerau i ddeddfu ar gyfer diwygio'r ddarpariaeth o ddŵr, ac yn ystod y cyfnod pontio, i gynnal swyddogaethau Arolygiaeth Dŵr Yfed Cymru.
5.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi y byddai'r Dirprwy Brif Weinidog yn cyflwyno datganiad i'r Senedd yr wythnos ganlynol er mwyn gosod y cyfeiriad.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2025
