Llifodd biliynau o bunnau ar gyfer ei fuddsoddi yn y Gogledd yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnal miloedd o swyddi o ansawdd uchel.
Mae amrywiaeth o gwmnïau wedi buddsoddi arian fydd yn helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i ranbarth sy'n barod i adeiladu ar hanes cyfoethog ei sector gweithgynhyrchu gwerthfawr trwy gofleidio chwyldro'r genhedlaeth mewn technoleg a diwydiant.
Bydd Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol Cymru, digwyddiad nodedig a gynhelir heddiw, yn denu rhagor na 300 o arweinwyr diwydiant a busnes o 27 o wledydd ledled y byd i Gasnewydd i ystyried y cyfleoedd buddsoddi cyffrous sy’n cael eu cynnig ledled Cymru, gan gynnwys yn y Gogledd. O’r sefydliadau hynny, mae 150 yn newydd i Gymru
Cafwyd cadarnhad yn ddiweddar mai Wylfa, Ynys Môn fydd safle adweithydd modiwlaidd bach niwclear cyntaf y DU, hynny mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Great British Energy-Nuclear a Rolls-Royce SMR. Cafodd ei ddisgrifio fel 'y buddsoddiad diwydiannol mwyaf arwyddocaol yn y Gogledd ers cenhedlaeth'. Dyma gynllun gwerth £2.5 biliwn fydd yn cyflogi 3,000 o bobl.
Hefyd, mae'r cwmni technoleg ynni Eni newydd gael Trwydded Economaidd gan yr Awdurdodau i ddechrau gweithio ar gynllun dal a storio carbon o dan y môr ar lannau’r Gogledd.
Trwy ei gwmni gweithredu, Liverpool Bay CCS Ltd, bydd yn buddsoddi cymaint â £700 miliwn mewn seilwaith CO2 yng Nghymru yn unig, i gludo CO2 o safleoedd diwydiannol trwy biblinau dan ddaear a’i storio o dan wely’r môr mewn hen gronfeydd nwy naturiol gwag, gan sbarduno adfywiad diwydiannol a chyfleoedd i ddatgarboneiddio. Mae’r cam adeiladu wedi dechrau a disgwylir iddo greu mwy na 1,000 o swyddi ledled Cymru, allan o ryw 2,000 dros oes y prosiect.
Gyda’i gysylltiad â rhwydwaith Cludo a Storio Eni, gwaith Heidelberg Material yn Padeswood fydd y ffatri sment gyntaf yn y byd fydd â phroses gynhyrchu fydd wedi'i datgarboneiddio'n llawn. Bydd tua 800,000 tunnell o CO2 yn cael ei ddal bob blwyddyn, gan ddiogelu 200 o swyddi a chreu 50 o swyddi newydd. Bydd hyd at 500 o swyddi hefyd yn cael eu creu yn ystod y gwaith adeiladu.
Bydd mwy o swyddi hefyd yn cael eu darparu yn Ardal Twf AI newydd Gogledd Cymru, a fydd yn rhyddhau gwerth biliynau o bunnau yn fwy ar gyfer ei fuddsoddi.
Yn ogystal â'r uchod, mae Knauf Insulation wedi buddsoddi £170 miliwn mewn ffatri flaengar yn Shotton gan greu tua 140 o swyddi, a mwy yn y gadwyn gyflenwi leol. Mae Kellogg's hefyd yn buddsoddi £75 miliwn i greu'r ffatri grawnfwyd fwyaf yn Ewrop yn Wrecsam. Mae Kellanova, y cwmni sy'n cynhyrchu'r grawnfwyd, yn dyblu capasiti'r ffatri, gan greu 130 o swyddi.
Ac roedd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn bresennol yn agoriad swyddogol Canolfan Ragoriaeth Technoleg Gofal Iechyd newydd Siemens yn Llanberis fis diwethaf. Bydd yn diogelu mwy na 400 o swyddi presennol ac yn creu 100 o swyddi newydd medrus iawn, a thrwyddo, bydd Siemens yn arloesi i greu cenhedlaeth newydd o brofion alergenau fydd yn arwain at ddiagnosis cyflymach a chywirach ledled y byd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Rydym wedi codi proffil Cymru fel lle ardderchog i fuddsoddi ynddo, gyda sectorau allweddol sydd â galluoedd o fri rhyngwladol, ac mae'r Gogledd yn elwa ar swyddi o ansawdd uchel mewn sectorau allweddol.
Bydd yr Uwchgynhadledd Buddsoddi yn dangos eto sut rydym yn creu'r amodau cywir i fuddsoddiad o dramor ffynnu, yn enwedig mewn diwydiannau a fydd yn diffinio'r degawd nesaf.
Dywedodd y Prif Weinidog:
Mae buddsoddi’n hanfodol i greu swyddi ac ehangu economi Cymru. Bydd Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol Cymru yn dangos i’r byd lle mor wych yw’r Gogledd i fuddsoddi ynddo.
Dywedodd Phil Hemmens, Prif Gynghorydd Eni CCUS Holding:
Mae Eni yn falch o gael gweld ei bresenoldeb hir yn y Gogledd yn parhau trwy ddatblygu rhwydwaith Cludo a Storio Bae Lerpwl fel asgwrn cefn y clwstwr HyNet ehangach. Bydd y prosiect yn buddsoddi arian sylweddol yn seilwaith y rhanbarth, yn ogystal â chreu a diogelu miloedd o swyddi.
Mae'r buddsoddiad yn y Gogledd dros y flwyddyn ddiwethaf yn ychwanegol at y £1 biliwn a gyhoeddwyd i ailddatblygu Melin Shotton yng Nglannau Dyfrdwy ym mis Medi 2024. Bydd Eren Holdings yn creu safle cynhyrchu papur mwyaf y DU, gan ddiogelu 147 o swyddi a chreu 220 o swyddi eraill.
Yn 2024-25, cafodd 65 o brosiectau buddsoddi uniongyrchol tramor eu cynnal yng Nghymru, 23% o gynnydd blynyddol a’r twf ail fwyaf yn y DU. Creodd y prosiectau hyn 2,470 o swyddi newydd a diogelu 1,652 arall, mwy nag yn unrhyw ran arall o’r DU.
