Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ddeng mlynedd yn ôl, daeth Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 i rym yng Nghymru. Roedd hon yn foment bwysig i'r DU, gan nodi'r adeg y daeth Cymru i fod y rhan gyntaf o’r DU i newid yn sylfaenol y system gydsynio ar gyfer rhoi organau.
Gwnaeth y Ddeddf ddarparu ar gyfer system cydsyniad tybiedig o ran rhoi organau a meinweoedd. Roedd hwn yn newid sylweddol o'r system flaenorol pan roedd rhaid i bobl optio i mewn i fod yn rhoddwr ymadawedig. Bellach, mae gan bobl y dewis i optio i mewn, optio allan neu wneud dim. Pan nad ydynt yn optio i mewn nac yn optio allan, bernir bod unigolyn wedi cydsynio i roi organau, oni bai ei fod mewn categori eithriedig.
Pasiodd y Senedd y gyfraith yn 2013, mewn ymgais i gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i'w trawsblannu. Dyma enghraifft o sut mae datganoli yn gweithio ar ei orau – mae'n ein galluogi ni i ddatblygu a phrofi datrysiadau newydd i faterion yma yng Nghymru, y gall gweddill y DU ddysgu ohonynt a'u mabwysiadu.
Bernir bod unigolyn wedi cydsynio i roi organau oni bai ei fod mewn categori eithriedig, hynny yw, os yw o dan 18 oed, os nad yw'n breswylydd fel arfer, neu os oes diffyg galluedd meddyliol ganddo i ddeall yr hyn yw cydsyniad tybiedig.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, o dan gydsyniad tybiedig, mae 198 o roddwyr ymadawedig ychwanegol wedi rhoi eu horganau i bobl sy'n aros am drawsblaniad, gan eu galluogi i fyw bywydau llawnach. Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddwyd mwy na 640 o organau, ac o'r rhain, trawsblannwyd mwy na 550 drwy gydsyniad tybiedig. Mae hyn yn ychwanegol at organau a roddwyd a thrawsblannwyd drwy gydsyniad datganedig, megis drwy optio i mewn i'r gofrestr rhoddwyr organau.
Ond, yn ôl y ffigurau a ryddhawyd yn ystod Wythnos Rhoi Organau, mae'r rhestr aros am drawsblaniad yn parhau i dyfu ac, yn anffodus, mae pobl yn dal i farw wrth aros am drawsblaniad. Dim ond rhan o'r darlun yw newid y gyfraith i gyflwyno cydsyniad tybiedig. Mae gan Gymru system feddal o optio allan, sy'n parchu ac yn ystyried barn teuluoedd.
Felly, os yw unigolyn o blaid rhoi organau, mae'n hanfodol bwysig ei fod yn siarad â'i anwyliaid am roi organau ac am yr hyn yr hoffai ddigwydd pan fydd yn marw.
Mae hyn oherwydd y bydd ei deulu, neu ei gyfaill ers amser maith, yn cael eu holi am ei ddymuniadau o ran rhoi organau pan fydd yn marw.
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod teuluoedd yn fwyaf tebygol o fod o blaid rhoi organau pan fyddant eisoes yn gwybod mai dyma oedd dymuniad eu perthnasau. Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy siarad â'ch teulu a thrwy gofrestru eich penderfyniad ar y gofrestr rhoddwyr organau. Gallwch hefyd wneud hyn drwy Ap GIG Cymru.
Hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio yn ein gwasanaethau rhoi a thrawsblannu organau am y cymorth tosturiol y maent yn ei ddarparu i roddwyr, eu teuluoedd a'r rhai sy'n cael organau. Ac i bawb sydd wedi rhoi organau – eich cyfraniad chi yw'r cyfraniad mwyaf oll.
Gallwch gofrestru eich penderfyniad o ran rhoi organau ar-lein yn Cofrestru eich penderfyniad - Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, drwy Ap GIG Cymru neu drwy ffonio 0300 123 23 23.
