Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r golofn gyntaf yn y tabl isod yn rhestru enw'r themâu o dan bob maes. Cafodd y themâu hyn eu llywio gan weithgorau'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Mae llawer o’r camau gweithredu hyn yn drawsbynciol a byddant yn cael eu gweithredu gan feysydd polisi Llywodraeth Cymru.

Bydd y camau hyn yn cynnal egwyddorion yr erthyglau sydd wedi’u hamlinellu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ac yn cyd-fynd ag Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Dan arweiniad y Bwrdd Cynghori Allanol a Llywodraeth Cymru, byddwn yn dangos tystiolaeth o gynnydd camau gweithredu mewn traciwr byw. Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Disgwylir y bydd yr holl gamau gweithredu tymor byr wedi'u cwblhau erbyn 2027. Bydd llawer o'r camau hyn yn galw am gamau gweithredu dilynol tymor canolig a thymor hir. Bydd unrhyw gamau gweithredu sy'n arwain at gamau gweithredu tymor hirach yn cael eu hadolygu yn 2027. Bydd camau gweithredu ychwanegol yn y tymor canolig a'r tymor hir, y bwriedir eu cyflawni erbyn 2031 a 2035 yn y drefn honno, yn cael eu llywio gan argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, gan weithio mewn partneriaeth â phobl anabl, sefydliadau pobl anabl, y Bwrdd Cynghori Allanol a Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn parhau i weithio ar lefel Gweinidogion a swyddogion yng Nghymru a'r DU i ddatblygu ffyrdd ymlaen, gan groesawu ymrwymiad ar y cyd i alluogi diwygiadau lles sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n dosturiol er budd pobl anabl, eu haelwydydd, eu cymunedau a'r economi ehangach.

Cymdogaeth, lleoedd a thrafnidiaeth

Teithio

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i gasglu a diweddaru data ar argaeledd a lleoliad mannau parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas, a’u hintegreiddio ar wefannau trafnidiaeth.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 9 (hygyrchedd)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i wella’r cyswllt â phobl anabl wrth ddatblygu gwasanaethau trafnidiaeth hygyrch a threfniadau goruchwylio.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 4 (rhwymedigaethau cyffredinol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod sefydliadau trafnidiaeth yn cynnal ymgynghoriadau rheolaidd a chynhwysol gyda phlant a phobl ifanc anabl, eu rhieni a’u gofalwyr.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 7 (plant anabl)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3 / 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen hyfforddi safonol ar gyfer yr holl staff sy’n delio â chwsmeriaid ym maes trafnidiaeth gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, tacsis, cerbydau llogi preifat a meysydd awyr. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys y Model Cymdeithasol o Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb gan gynnwys cŵn tywys a chŵn cymorth, a gofal cwsmer da i bobl anabl.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 8 (cynyddu ymwybyddiaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio ar draws y llywodraeth a chyda gweithredwyr trafnidiaeth i sicrhau bod technolegau digidol a chynorthwyol ar gael ac yn hygyrch ar draws dulliau trafnidiaeth er mwyn galluogi pobl anabl i gynllunio a mynd ar deithiau sy'n diwallu eu hanghenion yn hyderus.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 9 (hygyrchedd)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein dull gweithredu Teithio i Bawb a'n polisïau trafnidiaeth ehangach a'n cyllid grant yn ystyried anghenion hygyrchedd pobl anabl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae mwy o ddibyniaeth arnynt yn aml.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 9 (hygyrchedd)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth

Tai fforddiadwy a hygyrch

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i wella’r ddarpariaeth o lety hygyrch i bobl anabl, eu gofalwyr a’u plant wrth ffoi rhag trais.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 16 (rhyddid rhag cam-fanteisio, trais neu gamdriniaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3 / 4
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cymunedau Cydlynus

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i adolygu Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021, gan gynnwys eu heffaith a’u heffeithiolrwydd.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 28 (safon byw ddigonol a diogelwch cymdeithasol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2 / 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Tai ac Adfywio

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gydag Awdurdodau Lleol i barhau i wella hygyrchedd a chydlynu’r gwaith o gyflwyno addasiadau tai a chyflenwi offer.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2 / 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Tai ac Adfywio

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau tai i helpu i ledaenu gwybodaeth fwy hygyrch am dai i bobl anabl, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 21 (rhyddid mynegiant)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Tai ac Adfywio

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr pobl anabl i gynllunio a darparu hyfforddiant i sefydliadau tai.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 4 (rhwymedigaethau cyffredinol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Tai ac Adfywio

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl anabl i ddeall y rhwystrau penodol i dai, er enghraifft i bobl anabl sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Y Model Cymdeithasol o Anabledd

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru’n adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd ac yn hyrwyddo'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn ei dull gweithredu ar gyfer caffael cymdeithasol gyfrifol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 4 (rhwymedigaethau cyffredinol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Caffael 

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyfforddiant Model Cymdeithasol o Anabledd ar gael i holl weithwyr y sector cyhoeddus drwy ychwanegu modiwl e-ddysgu ar Dysgu@Cymru. Bydd hyn yn ategu'r hyfforddiant sydd eisoes ar gael i'r sector preifat ar Busnes Cymru.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 27 (gwaith a chyflogaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwaith Teg 

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i adolygu a diwygio polisïau Adnoddau Dynol presennol i sicrhau nad ydynt yn creu rhwystrau i bobl anabl. Cynnwys pobl anabl yn y gwaith o gynllunio, gweithredu a monitro polisïau, arferion a gweithdrefnau newydd a gwell.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 4 (rhwymedigaethau cyffredinol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2 / 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Fframwaith Pontio Teg i helpu datblygwyr polisi a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ystyried effeithiau a chyfleoedd ehangach newid yn yr hinsawdd ar wahanol grwpiau o bobl, gan gynnwys pobl anabl.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 4 (rhwymedigaethau cyffredinol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 7
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Newid Hinsawdd

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru ynghyd â'r Bwrdd Cynghori Allanol i ddychwelyd at y set lawn o argymhellion a luniwyd ar y cyd gan y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ar ddechrau'r gwaith o ddatblygu unrhyw gamau gweithredu newydd i bobl anabl ynglŷn â'r Cynllun hwn.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 29 (cyfranogiad mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cyflogaeth, incwm (arian) ac addysg

Cyflogaeth ac Incwm

Cam gweithredu

Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru i gyfeirio cyflogwyr at wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar arferion recriwtio a gweithio teg, hyblyg a chynhwysol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 27 (gwaith a chyflogaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwaith Teg

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â chyflogwyr, undebau, Sefydliadau Pobl Anabl a’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth pobl anabl, i herio stereoteipiau, ac i wella dealltwriaeth o fanteision cyflogi gweithlu amrywiol a’r cymorth sydd ar gael i wneud hyn.

Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddefnyddio ein rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a chreu cyfleoedd i bartneriaid allweddol, fel cyrff sy’n cynrychioli cyflogwyr, undebau llafur, Sefydliadau Pobl Anabl, ac eraill, ddod at ei gilydd a chydweithio i geisio meithrin amgylchedd gwaith mwy cynhwysol a chefnogol. 

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 8 (cynyddu ymwybyddiaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwaith Teg

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sefydlu Fforwm Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru. Bydd hyn yn dod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd â chyflogwyr sydd wedi ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd i rannu a lledaenu arferion da a defnyddio dysgu gan gymheiriaid i annog sefydliadau eraill yng Nghymru i ymuno â'r cynllun a symud ymlaen i statws Arweinydd.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 27 (gwaith a chyflogaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwaith Teg

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd gwasanaethau cymorth i bobl hunangyflogedig, gweithwyr llawrydd a phobl anabl sy’n berchnogion busnes, a chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau hyn.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 27 (gwaith a chyflogaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1 / 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o’r cynllun Prentisiaethau Cynhwysol, a diweddaru lle bo angen.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 27 (gwaith a chyflogaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1 / 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg

Plant a Phobl Ifanc

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gyda Medr i ystyried ffyrdd o wella mynediad at lwybrau anacademaidd ac amgen at gyflogaeth i bobl anabl, fel hyfforddiant galwedigaethol, prentisiaethau ac interniaethau.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 27 (gwaith a chyflogaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg / Addysg: Profiad Dysgwyr

Cam gweithredu

Medr i ddatblygu, ymgynghori a chyhoeddi amod cyllido a chofrestru i hyrwyddo cyfle cyfartal a thegwch mewn addysg drydyddol i gefnogi llwyddiant dysgwyr.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 24 (addysg)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Addysg

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu cynllun gweithlu addysg drwy dealltwriaeth o fylchau yn y gweithlu a gwaith cynllunio’r gweithlu, gan gynnwys y gweithlu arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc anabl.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 27 (gwaith a chyflogaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Addysg: Cefnogaeth i Ddysgwyr 

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau ar anghenion gofal iechyd, presenoldeb, rheoli ymddygiad a gwaharddiadau, gan ystyried anghenion plant a phobl ifanc anabl.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 24 (addysg)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Addysg: Cefnogaeth i Ddysgwyr 

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gyda Dysgu i ddatblygu rhaglenni hyfforddi i wella sgiliau a dealltwriaeth o ran sut i gefnogi plant a phobl ifanc anabl, a sut i ymgorffori’r Model Cymdeithasol o Anabledd.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 8 (cynyddu ymwybyddiaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Addysg: Cefnogaeth i Ddysgwyr 

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i ddiweddaru ei chanllawiau gwrth-fwlio a diogelu i warchod plant a phobl ifanc anabl.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 16 (rhyddid rhag cam-fanteisio, trais neu gamdriniaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Addysg: Tegwch mewn Addysg

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gyda threfnwyr, lleoliadau a gweithredwyr digwyddiadau i annog y gwaith o weithredu polisïau prisio teg a thryloyw sy’n ystyried anghenion ac amgylchiadau plant ac oedolion anabl, ac yn cynnig gostyngiadau, consesiynau neu fynediad am ddim, lle bo hynny’n briodol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 30 (cyfranogiad mewn bywyd diwylliannol, hamdden a chwaraeon)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Celfyddydau, Diwylliant, Digwyddiadau a Datblygu Twristiaeth / Cymru Greadigol

Byw'n annibynnol, iechyd a gofal cymdeithasol

Llesiant

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn y cais am grant a’r broses werthuso ar gyfer pob prosiect.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau diwylliannol, treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon a hamdden i annog argaeledd a gwella ansawdd arddangosfeydd, perfformiadau, gemau a digwyddiadau hygyrch, gan sicrhau eu bod yn cynrychioli amrywiaeth Cymru; yn ogystal â sicrhau bod mannau a rhaglenni ar gael i bobl anabl ar lefelau cenedlaethol a lleol. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar rwystrau ffisegol gyda darpariaeth glir o’r Gymraeg, Iaith Arwyddion Prydain a disgrifiad sain/ystyriol o awtistiaeth, er enghraifft.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 30 (cyfranogiad mewn bywyd diwylliannol, hamdden a chwaraeon)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a'r Gymraeg

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan weithredol mewn gweithgarwch diwylliannol a'i lywio, gan gynnwys datblygu a mynegi eu creadigrwydd a’u hunaniaethau diwylliannol eu hunain ar lawr gwlad.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 4 (rhwymedigaethau cyffredinol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a'r Gymraeg

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol, fel y nodir yn Dyhead 1 ei Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025, drwy wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws gweithlu'r sector diwylliant a mynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog ynglŷn â rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 30 (cyfranogiad mewn bywyd diwylliannol, hamdden a chwaraeon)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a'r Gymraeg

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i adolygu sut mae’r Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi hygyrchedd yr amgylchedd ffisegol ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig cynhwysol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 7 (plant anabl)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Y Blynyddoedd Cynnar

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid yn y sector i helpu gweithwyr gofal plant a chwarae i gael gafael ar yr hyfforddiant a’r adnoddau sydd eu hangen i helpu plant anabl i gael gofal plant yn Gymraeg ac yn Saesneg.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 7 (plant anabl)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Y Blynyddoedd Cynnar

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sefydlu bwrdd cynghori allanol i roi cyngor a chymorth ar gyflawni’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl traws-lywodraethol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 29 (cyfranogiad mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Byw’n annibynnol: iechyd a gofal cymdeithasol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i gydweithio â sefydliadau pobl anabl i ddylunio a darparu ffrwd gyllido newydd sy’n mynd i’r afael ag anghenion gofal cymdeithasol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i gynnwys plant ac oedolion anabl wrth ystyried sut i fwrw ymlaen â gwaith i wreiddio hawliau pobl anabl.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 4 (rhwymedigaethau cyffredinol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2 / 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gyda phobl anabl ar ganfyddiadau astudiaeth ddichonoldeb y Ganolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i gefnogi cyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig cyfleoedd dysgu a datblygu ychwanegol wedi'u targedu ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod systemau'n hygyrch, bod anghenion unigol yn cael eu diwallu a bod hawliau'n cael eu diogelu.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 25 (iechyd)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gweithlu a Gweithrediadau'r GIG / Diogelwch Cymunedol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu i ddatblygu blaenoriaethau ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth yn y dyfodol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 4 (rhwymedigaethau cyffredinol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau sy'n creu technoleg gynorthwyol fel y gallant ymgorffori ystyriaeth ar gyfer achosion defnydd dwyieithog (Saesneg-Cymraeg) yn eu gwaith. Byddwn yn parhau i hyrwyddo ein pecyn cymorth cyflym a hawdd ar feddalwedd dwyieithog i ddatblygwyr ac rydym yn disgwyl i ddarpar dendrau ystyried hyn mewn ceisiadau i ni. Byddwn yn parhau i chwilio am ragor o gyfleoedd ar gyfer technoleg i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg mewn technoleg gynorthwyol a thu hwnt yn unol â'n blaenoriaethau yng nghynllun Mwy na geiriau.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 9 (hygyrchedd) / Erthygl 25 (iechyd)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cymraeg 2050 / Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod terminoleg briodol a chyfredol yn bodoli yn y Gymraeg. Diweddarwyd terminoleg safonol Gymraeg yn y maes hwn, fel y'i cyhoeddwyd yng nghronfa dermau ar-lein TermCymru Llywodraeth Cymru a phorth terminoleg Porth Termau gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, yn ddiweddar yn unol â'r Model Cymdeithasol o Anabledd. Bydd parhau i brif ffrydio'r fframwaith hwn yn helpu i sicrhau cysondeb ac ymwybyddiaeth o'r termau hyn. Bydd terminoleg Gymraeg yn y maes hwn yn parhau i gael ei diweddaru'n rhagweithiol i ddiwallu anghenion defnyddwyr.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 9 (hygyrchedd) / Erthygl 25 (iechyd)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cymraeg 2050 / Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull partneriaeth o lunio polisïau ac arferion sy'n ymwneud ag atal, parodrwydd, ymateb ac adfer ar ôl argyfyngau iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl anabl i ystyried eu barn a'u profiad uniongyrchol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 11 (sefyllfaoedd o risg ac argyfyngau Dyngarol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2 / 7
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Diogelu Iechyd

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda’r holl ddarparwyr, gan gynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau bod unigolion anabl yn gallu byw’n annibynnol gartref, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Adfywio Tai

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru yn mapio ac yn adolygu sut mae plant byddar yn cael eu hadnabod drwy sgrinio gofal iechyd blynyddoedd cynnar. Bydd y gwaith hwn yn asesu'r ddarpariaeth bresennol o Iaith Arwyddion Prydain sydd ar gael i alluogi plant byddar a'u teuluoedd i gaffael iaith yn gynnar o'r adeg y cânt ddiagnosis.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 25 (iechyd)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3 / 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio gyda’i Harolygiaethau a’i Rheoleiddwyr Gofal Iechyd (AGIC) a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol (AGC) i wreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd mewn canllawiau ar gyfer timau arolygu.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 25 (iechyd)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Rheoleiddwyr Gofal Iechyd a Chymdeithasol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i gynnull grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu’r defnydd o fesurau economaidd iechyd, gan gynnwys Blynyddoedd Bywyd a Addaswyd yn ôl Ansawdd a Blynyddoedd Bywyd a Addaswyd yn ôl Anabledd, sy’n effeithio ar benderfyniadau ynghylch dyrannu adnoddau GIG Cymru, i archwilio unrhyw effaith wahaniaethol ar bobl anabl a gwneud argymhellion ar gyfer unrhyw newidiadau angenrheidiol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 5 (cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Ansawdd Iechyd a Nyrsio

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo'r dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i roi gwybodaeth i ofalwyr di-dâl ac i nodi ffynonellau cymorth. Dylai gwybodaeth fod ar gael mewn nifer o fformatau, gan gydnabod y gallai gofalwyr di-dâl fod yn anabl hefyd.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwelliant cenedlaethol o ran darparu a chyflawni asesiadau o anghenion gofalwyr, fel bod mwy o fynediad i ofalwyr di-dâl i bobl anabl, yn unol â chyfrifoldebau statudol awdurdodau lleol.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol ynghylch digonolrwydd ac addasrwydd darpariaeth seibiant, er mwyn gwella argaeledd gofalwyr di-dâl i bobl anabl gael seibiant o ofalu pan fo angen.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i barhau i sicrhau bod rôl gofalwyr di-dâl yn cael ei gwreiddio yn y Canllawiau Rhyddhau o'r Ysbyty a bod rôl gofalwyr di-dâl yn cael ei chydnabod a'i hamlygu yn ei chynlluniau strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn hyrwyddo’r gwaith o gynnwys gofalwyr di-dâl i bobl anabl mewn cynlluniau gofal a chynlluniau rhyddhau o'r ysbyty.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 19 (byw’n annibynnol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol

Mynediad at gyfiawnder 

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i gyfrannu cyllid i’r ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru 2025 i 2027, gan sicrhau bod ffocws ar droseddau yn erbyn pobl anabl.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 16 (rhyddid rhag cam-fanteisio, trais neu gamdriniaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cymunedau Cydlynus / Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i barhau i gydlynu'r gwaith trawslywodraethol o adolygu/olrhain a chyflwyno datganiadau/uwchgyfeirio ar Adroddiadau Pwyllgorau Rhyngwladol. Bydd timau polisi pwnc perthnasol yn arwain ar argymhellion o'u maes.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 35 (adroddiadau gwladwriaethau sy’n barti)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr a goroeswyr anabl at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 16 (rhyddid rhag cam-fanteisio, trais neu gamdriniaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3 / 4
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cymunedau Cydlynus

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i helpu pobl anabl i ddeall beth yw trosedd casineb/cyfeillio, sut i roi gwybod am y troseddau hyn a ble i gael cymorth, drwy gydweithio â phobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 8 (cynyddu ymwybyddiaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cymunedau Cydlynus / Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i wella ein mynediad at ddata ar y boblogaeth anabl mewn carchardai, gan gynnwys merched sydd yn y carchar yn Lloegr. 

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 31 (ystadegau a chasglu data)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Diogelwch Cymunedol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyfforddiant priodol ar y Model Cymdeithasol o Anabledd ar gael i staff iechyd ac addysg sy’n gweithio mewn carchardai, ac i gyflwyno sylwadau i asiantaethau partner ar bwysigrwydd hyfforddiant lle mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am staff cyfiawnder.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 4 (rhwymedigaethau cyffredinol)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Diogelwch Cymunedol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hawliau ac anghenion pobl anabl yn cael eu hadlewyrchu yn ein sylwadau ehangach i Lywodraeth y DU ar faterion cyfiawnder, yn enwedig ar faterion allweddol sy’n creu rhwystrau o ran cael mynediad at gyfiawnder.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 13 (mynediad at gyfiawnder)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Diogelwch Cymunedol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod carcharorion yn cael eu hasesu’n briodol ac yn gynnar er mwyn gwella mynediad at addysg yng Nghymru. Byddai’r asesiad wedi’i gyfyngu i gyfathrebu at ddibenion addysg.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 24 (addysg)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1 / 3 / 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Partneriaeth Gymdeithasol, Gwaith Teg a Chyflogadwyedd

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion pobl anabl yn ganolog i'r strategaeth deng mlynedd ar gyfer Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Mae hyn yn cynnwys gwreiddio hyn fel un o egwyddorion canolog y ddogfen strategaeth a'r cylch gorchwyl i’r grwpiau sy'n cael eu sefydlu i fwrw ymlaen â'r gwaith; gweithio gyda grŵp rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain a grwpiau anabledd eraill i sicrhau bod negeseuon diogelu allweddol yn hygyrch; sicrhau bod y grŵp Cynghori Dioddefwyr a Goroeswyr a'r grŵp Cynghori Plant a Phobl Ifanc yn mynd ati i geisio cynrychiolaeth gan blant ac oedolion anabl. Bydd y camau hyn yn cael eu hadolygu a'u diweddaru drwy gydol oes y strategaeth i adlewyrchu dysgu parhaus.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 31 (ystadegau a chasglu data)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2 / 4
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol

Mynediad at wasanaethau 

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth a chynnig hyfforddiant i'w thimau ym meysydd y Wasg, Gwasanaethau Cyfreithiol a Staff am y Model Cymdeithasol o Anabledd.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 8 (cynyddu ymwybyddiaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth a chynnig hyfforddiant i Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet, a'u Staff yn y Model Cymdeithasol o Anabledd.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 8 (cynyddu ymwybyddiaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cam gweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio â sefydliadau pobl anabl ac yn comisiynu ymgyrch gyhoeddus i herio ableddiaeth, i hybu agweddau cadarnhaol, i fynd i’r afael â rhwystrau iaith i gymuned Iaith Arwyddion Prydain fyddar a siaradwyr Cymraeg, ac yn canolbwyntio ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, gan dynnu sylw at yr hawl i fyw’n annibynnol a rhwystrau cymdeithas heb arian parod.

Bydd hyn yn cynnwys parhau i safoni terminoleg Gymraeg yn unol â gwaith diweddar a wnaed o dan egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 8 (cynyddu ymwybyddiaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2 / 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i annog sefydliadau a chyflogwyr i benodi Hyrwyddwr Pobl Anabl a rhannu enghreifftiau o arferion da ac adnoddau.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 27 (gwaith a chyflogaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2 / 6
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i weithio i helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn adnoddau lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei chefnogi i'r graddau y mae angen iddi fod, drwy nodi bylchau a chynnig data ac adnoddau i ysgogi cwmnïau i gefnogi'r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys gwreiddio lleisiau synthetig dwyieithog ac adnabod llais yn well i bobl sydd eu hangen.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 12 (iechyd)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cymraeg 2050 / Pawb sy'n gweithio ar dechnoleg i bobl anabl

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda rhanddeiliaid, i ddatblygu a gwerthuso cynllun grant cynhwysiant digidol cenedlaethol sy'n cyd-fynd ag uchelgais y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol. Bydd y grant yn canolbwyntio ar gefnogi anghenion lleol a nodwyd, gan alluogi pobl ledled Cymru i gael gafael ar y sgiliau a'r adnoddau digidol sylfaenol sydd eu hangen arnynt, a dewis y ffordd orau o'u defnyddio yn eu bywydau bob dydd.

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl: Erthygl 9 (hygyrchedd) / Erthygl 21 (rhyddid mynegiant a mynediad at wybodaeth)
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4
  • Maes polisi Llywodraeth Cymru: Cynhwysiant Digidol / Cydraddoldeb / Cyfiawnder Cymdeithasol