Y Cynllun AI i Gymru: asesiad o'r effaith ar hawliau plant
Asesiad o effaith cynllun Llywodraeth Cymru i harneisio pŵer trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial ar hawliau plant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Amcanion polisi
Effaith pa benderfyniad ydych chi'n ei asesu?
Cyhoeddi'r Cynllun AI i Gymru sy'n nodi'r cyfeiriad hirdymor arfaethedig ar gyfer AI yng Nghymru. Mae'r Cynllun yn gosod y sylfeini ar gyfer archwilio potensial AI mewn ffordd gyfrifol, foesegol a chydweithredol i ddarparu manteision ar raddfa. Ei weledigaeth yw:
Manteisio ar bŵer AI yn gyfrifol i sicrhau twf economaidd, i wella gwasanaethau cyhoeddus o ran y Gymraeg a’r Saesneg, ac i roi sgiliau i bobl yng Nghymru er mwyn iddynt allu ffynnu mewn byd lle mae technolegau deallus yn chwarae rhan flaenllaw, gan sicrhau tegwch i bawb ar yr un pryd.
Mae'r Cynllun yn nodi pedwar piler strategol a fydd yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon ac a fydd yn llywio'r camau gweithredu, y buddsoddiadau a'r partneriaethau sy'n deillio o hynny i sicrhau bod y gweithgarwch yn cefnogi'r weledigaeth. Dyma’r pileri hynny:
- Piler 1 - Twf Economaidd - Harneisio pŵer AI i ysgogi buddsoddiad, arloesedd, cynhyrchiant a ffyniant i Gymru.
- Piler 2 - Addysgu Cymru - Arfogi pobl o bob oed â'r wybodaeth a'r sgiliau i ffynnu mewn byd sy'n cael ei bweru gan AI.
- Piler 3 - Cyflawni Teg - Sicrhau bod AI o fudd i Gymru gyfan, gyda thegwch, cynhwysiant a llesiant yn ganolog iddo.
- Piler 4 - Rhagoriaeth ac Ymddiriedaeth - Arwain ar fabwysiadu AI yn ddiogel, yn dryloyw ac yn effeithiol ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
2. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Ni fydd y Cynllun AI ei hun, sy'n nodi'r cyfeiriad hirdymor arfaethedig ar gyfer AI yng Nghymru, yn cael effaith uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Er hynny, mae'n cyfuno gweithgarwch traws-sector mewn ffordd gydlynol a strwythuredig. Mae disgwyl i'r gweithgarwch hwn gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys meithrin sgiliau a hyder digidol, gwella cysylltedd a chydag amser gall gefnogi dulliau dysgu cyfunol ac annog diwylliant o arloesi sy'n denu talent a buddsoddiad newydd i Gymru.
Fodd bynnag, bydd y camau gweithredu a ddilynir o ganlyniad i'r Cynllun hwn ac a fydd yn cael eu datblygu ar lefel leol, ranbarthol a sectorol, yn cael effaith i raddau amrywiol ac mewn gwahanol ffyrdd.
Mae'r Cynllun AI wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â swyddogion ledled Llywodraeth Cymru, y Grŵp Cynghori Strategol ar AI (sy'n cynnwys arbenigwyr academaidd ac arbenigwyr diwydiant blaenllaw), a Grŵp Arweinyddiaeth AI ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru (sy'n cynnwys cynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru).
3. Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith
Gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd gennych, pa effaith y mae eich polisi'n debygol o'i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?
Gall AI helpu i gyflawni'r isod ar gyfer plant a phobl ifanc:
- profiadau dysgu mwy personol, gyda dysgu wedi'i addasu i gyd-fynd ag anghenion unigolyn;
- cefnogi datblygu sgiliau gan gynnwys sgiliau llythrennedd digidol, meddwl beirniadol, a datrys problemau
- gwell hygyrchedd, cefnogi plant ag anableddau neu rwystrau iaith a gwneud addysg a mynediad at wasanaethau'n fwy cynhwysol, a
- gwasanaethau iechyd a gofal mwy effeithiol wedi'u teilwra i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cefnogi ymyriadau ataliol, diagnosis cynharach a mwy cywir o gyflyrau iechyd, cynlluniau gofal a thriniaeth well a phersonol, a chanfod a chynnig cefnogaeth gynnar ar gyfer materion iechyd meddwl.
Fodd bynnag, bydd angen ystyried sut i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol posibl AI, gan gynnwys: risgiau preifatrwydd data; rhagfarnau algorithmig sy'n caniatáu anghydraddoldebau i barhau ac yn arwain at driniaeth annheg; problemau iechyd meddwl posibl a achosir trwy or-ddibyniaeth ar dechnoleg a llai o ryngweithio dynol sy'n arwain at bryder, iselder, a llai o hunan-barch; effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth; a gall dadleoli swyddi effeithio'n anghymesur ar bobl ifanc sy'n mynd i'r gweithlu.
Ni fydd y Cynllun AI ei hun, sy'n nodi'r cyfeiriad hirdymor arfaethedig ar gyfer AI yng Nghymru, yn cael effaith uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, bydd y camau gweithredu a ddilynir o ganlyniad i'r Cynllun hwn ac a fydd yn cael eu datblygu ar lefel leol, ranbarthol a sectorol trwy gynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt, yn cael effaith i raddau amrywiol ac mewn gwahanol ffyrdd. Felly, bydd asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant yn cael eu cynnal ar bob un o'r rhain, yn ôl yr angen, i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl.
Sut mae eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y'u nodir yn erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a'i Brotocolau Dewisol?
Gweler yr erthyglau i weld pa rai sy’n gymwys i’ch polisi eich hun.
Er na fydd y Cynllun AI yn cael effaith uniongyrchol ar hawliau plant, mae'n cefnogi amddiffyn eu hawliau a'u mynediad atynt mewn nifer o ffyrdd. Ystyrir bod yr erthyglau canlynol yn CCUHP yn berthnasol i’r cynnig hwn:
Erthygl CCUHP (neu brotocol dewisol) ac esboniadau
Erthygl 13
Mae gan blant yr hawl i gael gwybodaeth a'r hawl i rannu'r wybodaeth honno cyn belled nad yw'r wybodaeth yn niweidiol iddynt hwy nac i eraill.
Bydd mwy o fynediad at AI yn darparu mwy o gyfleoedd i blant gael a rhannu gwybodaeth. Fodd bynnag, mae sicrhau bod gan blant y sgiliau a'r hyder i ddefnyddio offer AI yn ddiogel a deall manteision a chyfyngiadau gwybodaeth ar-lein, gan gynnwys effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth, yn allweddol.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
Erthygl 16
Mae gan blant yr hawl i breifatrwydd. Dylai’r gyfraith eu cadw rhag ymosodiadau ar eu ffordd o fyw, eu henw da, eu teuluoedd a’u cartrefi.
Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall sut mae’r wybodaeth y maent yn ei rhoi amdanynt eu hunain ar-lein neu’n ei chreu drwy ddefnyddio gwasanaethau digidol yn allweddol i’w helpu i wneud dewisiadau gwybodus a moesegol ynghylch faint maent yn ei roi ar-lein, a sut mae delio â phroblemau os byddant yn codi.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
Erthygl 17
Mae gan blant yr hawl i wybodaeth ddibynadwy o'r cyfryngau torfol. Dylai teledu, radio a phapurau newydd ddarparu gwybodaeth y gall plant ei deall ac ni ddylent hyrwyddo deunydd a allai niweidio plant.
Mae'r cyfryngau yn symud fwyfwy i ffwrdd o sianeli traddodiadol i'r gofod digidol. Mae sicrhau bod gan blant y sgiliau a'r hyder i ddefnyddio offer AI yn ddiogel a bod ganddynt ddealltwriaeth o fanteision a chyfyngiadau cyfryngau ar-lein, gan gynnwys effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth, yn allweddol iddynt allu cael mynediad at wybodaeth o'r cyfryngau yn ddiogel ac yn briodol.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
Erthygl 23
Dylai plant sydd ag unrhyw fath o anabledd gael gofal a chymorth arbennig fel y gallant fyw bywydau llawn ac annibynnol.
Bydd sicrhau bod offer AI a ddefnyddir yn bodloni safonau hygyrchedd yn sicrhau y bydd plant anabl yn gallu cael mynediad at addysg a gwasanaethau yn annibynnol lle bynnag y bo modd.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
Erthygl 24
Mae gan blant yr hawl i gael gofal iechyd o ansawdd da ac i ddŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân er mwyn iddyn nhw gadw’n iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.
Gall AI gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal mwy effeithiol, gan gynnwys cefnogi ymyriadau ataliol, cynlluniau gofal a thriniaeth well a phersonol, a chanfod a chefnogi materion iechyd meddwl yn gynnar. Bydd darparu gwasanaethau cyhoeddus AI sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan gynnwys gwasanaethau iechyd, yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hynny a'u bod yn diwallu eu hanghenion.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
Erthygl 28
Mae gan blant hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.
Bydd darparu mynediad at brofiadau dysgu mwy personol, gyda dysgu ac addysgu wedi'u haddasu i gyd-fynd ag anghenion unigolyn, yn helpu i gefnogi eu hawl i addysg.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
Erthygl 29
Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalent pob plentyn yn llawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, eu diwylliant nhw ac eraill, a'r amgylchedd.
Bydd darparu mynediad at brofiadau dysgu mwy personol, gyda dysgu ac addysgu wedi'u haddasu i gyd-fynd ag anghenion unigolyn, yn helpu gefnogi eu hawl i addysg.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
Erthygl 31
Mae gan bob plentyn hawl i ymlacio a chwarae, ac i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau.
Mae AI yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer hamdden, chwarae a diwylliant; o gemau ar-lein i rith-deithiau o safleoedd a chasgliadau diwylliannol. Mae sicrhau bod gan blant y gallu, y sgiliau a’r hyder i fynd ar-lein yn ddiogel yn hanfodol i ddiogelu eu hawliau i gael mynediad at hamdden, chwarae a diwylliant yn yr oes ddigidol.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
Erthygl 34
Dylai’r Llywodraeth amddiffyn plant rhag camdriniaeth rywiol.
Bydd datblygu sgiliau digidol da, hyder ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein yn helpu i amddiffyn plant rhag pob math o gamfanteisio. Mae darparu gwasanaethau digidol cadarn y gall plant eu defnyddio i ofyn am gymorth a chyngor, os ydynt yn teimlo'n anghyfforddus neu dan fygythiad, hefyd yn allweddol.
Gweithio gyda sefydliadau, rheoleiddwyr, cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau AI i sicrhau bod yr iaith a'r diwylliant Cymraeg hefyd yn cael eu cynrychioli'n briodol.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
Erthygl 36
Dylai plant gael eu gwarchod rhag unrhyw weithgarwch a allai amharu ar eu datblygiad.
Bydd datblygu sgiliau digidol da, hyder ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein yn helpu i amddiffyn plant rhag pob math o gamfanteisio. Mae darparu gwasanaethau digidol cadarn y gall plant eu defnyddio i ofyn am gymorth a chyngor, os ydynt yn teimlo'n anghyfforddus neu dan fygythiad, hefyd yn allweddol.
Gweithio gyda sefydliadau, rheoleiddwyr, cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau AI i sicrhau bod yr iaith a'r diwylliant Cymraeg hefyd yn cael eu cynrychioli'n briodol.
Wedi'i wella gan y cynllun AI.
4. Cyngor a phenderfyniad gweinidogol
Sut bydd eich dadansoddiad o’r effeithiau hyn yn cyfrannu at eich cyngor i'r gweinidogion?
Cyngor y Gweinidog yw na fydd Cynllun AI Cymru yn effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, bydd y camau gweithredu a ddilynir o ganlyniad i'r Cynllun hwn ac a fydd yn cael eu datblygu ar lefel leol, ranbarthol a sectorol trwy gynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt, yn cael effaith i raddau amrywiol ac mewn gwahanol ffyrdd. Felly, bydd angen ystyried yr effaith ar blant a phobl ifanc ar y pwynt hwn, yn ôl yr angen, er mwyn lliniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl.
5. Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc
Os ydych wedi gofyn am farn plant a phobl ifanc ynghylch eich cynnig, sut y byddwch yn rhoi gwybod iddynt am y canlyniad?
Ni fydd Cynllun AI Cymru yn effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, bydd y camau gweithredu a ddilynir o ganlyniad i'r cynllun hwn ac a fydd yn cael eu datblygu ar lefel leol, ranbarthol a sectorol trwy gynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt, yn cael effaith i raddau amrywiol ac mewn gwahanol ffyrdd. Felly, dylai'r ymgysylltu a'r drafodaeth â phlant a phobl ifanc ddigwydd fel rhan o'r broses hon, fel y bo'n briodol.
6. Monitro ac adolygu
Amlinellwch pa drefn ar gyfer monitro ac adolygu y byddwch yn ei rhoi ar waith i adolygu'r Asesiad hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant.
Ar ôl cyhoeddi'r Cynllun AI i Gymru, bydd angen i'r sector cyhoeddus, y trydydd sector, y diwydiant a'r byd academaidd ystyried sut y bydd y camau gweithredu lefel uchel o fewn y Cynllun hwn yn cael eu cyflawni ar lefel leol, ranbarthol a sectorol, gyda ffocws clir ar weithio ar y cyd o fewn ac ar draws sectorau. Disgwylir y bydd y cynlluniau hyn yn nodi'n glir yr amserlenni ar gyfer gweithredu a sut y bydd cynnydd yn cael ei olrhain a'i fesur. Pan fo hyn yn golygu datblygu Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant, bydd disgwyl i'r corff cyflawni arweiniol roi mecanweithiau monitro ac adolygu effeithiol ar waith.
Yn dilyn yr adolygiad hwn, a oes angen unrhyw ddiwygiadau i'r polisi neu’r modd y’i rhoddir ar waith?
Nac oes.
