Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gosodwyd dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adrodd ar y cynnydd o ran cyflawni'r amcanion i leihau tlodi plant bob tair blynedd.
Heddiw bydd Adroddiad Cynnydd 2025 ar y Strategaeth Tlodi Plant yn cael ei osod gerbron y Senedd. Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu'r tair blynedd ers i'r adroddiad cynnydd blaenorol gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022, ynghyd â'r Strategaeth bresennol (a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024).
Ochr yn ochr â'r adroddiad cynnydd hwn, rwy'n cyhoeddi diweddariad ar y Fframwaith Monitro sy'n darparu data ar lefel poblogaeth ar ystod o ddangosyddion a mesurau tlodi plant. Cyhoeddwyd y Fframwaith Monitro ym mis Hydref 2024, gan nodi'r mesurau yr oeddem yn eu hystyried fel y rhai mwyaf perthnasol er mwyn deall tlodi plant yng Nghymru. Rwyf hefyd yn cyhoeddi'r dadansoddiad o'r ymarfer Profiad Bywyd a gofnododd farn dros 3000 o bobl, ynghyd ag ymchwil a gynhaliwyd gan randdeiliaid allanol ymhlith rhai sydd â phrofiad bywyd o dlodi.
Nid yw'r Adroddiad Cynnydd yn osgoi'r ffaith bod lefel tlodi plant yng Nghymru yn annerbyniol. Mae'n amlwg bod mwy y gellir ac y dylid ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant, ac mae hyn yn cynnwys parhau â'r ymdrechion i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a dylanwadu arni yn ei phenderfyniadau am bolisïau sy'n effeithio ar bobl yma yng Nghymru, yn enwedig drwy'r system fudd-daliadau. Fel y nododd y Prif Weinidog ar 26 Tachwedd, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r cam y mae'r Canghellor wedi'i gymryd yn y Datganiad Cyllideb i roi terfyn ar y Cap Dau Blentyn.
Fodd bynnag, fel sy'n amlwg yn yr adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau sylweddol i leihau effaith tlodi ar blant a'u teuluoedd. Rwy'n teimlo balchder mawr yn y gwaith a ddisgrifir yma, ac mae'n rhaid inni barhau i wrando ar ein plant a'n teuluoedd am yr hyn sy'n gweithio i'w cefnogi gyda materion uniongyrchol a brys a chyda llwybrau tymor hirach allan o dlodi. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am y gwaith ymgysylltu sy'n parhau drwy Grŵp Cyfeirio Allanol Tlodi Plant sy'n rhoi eu harbenigedd, eu cyngor a'u her inni i helpu i sicrhau bod ein strategaethau tlodi plant yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant ledled Cymru.
