Disodli ffurfdeip a chyflwyniad fformat colofn ddeuol Offerynnau Statudol Cymreig printiedig: Asesiad effaith ar y Gymraeg
Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg o ddisodli cyflwyniad teip a fformat colofn ddeuol Offerynnau Statudol Cymraeg printiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Background to proposal
1. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i foderneiddio ffurf a strwythur deddfwriaeth Cymru. Mewn perthynas ag offerynnau statudol, mae hyn yn cynnwys mabwysiadu ffurfdeip a fformat newydd a ddefnyddir ar gyfer cyhoeddi (ar ffurf brintiedig) offerynnau statudol Cymreig (gweler paragraff 28(c) o Raglen y Llywodraeth i wella Hygyrchedd Cyfraith Cymru - diwygiwyd ym mis Ionawr 2024).
Y sefyllfa bresennol ac yn y dyfodol ynglŷn â chyhoeddi
2. Cyn deddfu Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 nid oedd cysyniad cyfreithiol o ”offeryn statudol Cymreig”, ond yn hytrach mae ”offerynnau statudol” a wneir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru (neu awdurdod datganoledig Cymreig - o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) wedi’u hargraffu mewn fformat sydd â bloc pennawd o’r enw ”Offerynnau Statudol Cymru”. Maent yn rhan o rywbeth a elwir (yn anffurfiol) yn ’gyfres offerynnau statudol y DU’ ac wedi’u rhifo yn unol â hynny.
3. Mae’r gofynion sy’n ymwneud â chyhoeddi Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion Cymru wedi’u nodi yn Neddf Offerynnau Statudol 1946 (Deddf 1946) a’r Rheoliadau Offerynnau Statudol 1947 cysylltiedig (Rheoliadau 1947 - mae Deddf 1946 yn gymwys i Weinidogion Cymru, a’r offerynnau a wneir ganddynt, yn rhinwedd adran 11A o’r Ddeddf honno). Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin sydd â’r cyfrifoldeb am gyhoeddi.
4. O ganlyniad i Ddeddf 2025, bydd diwygiadau a wneir i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 sy’n ymwneud ag ”offerynnau statudol Cymreig” yn dod i rym o 1 Ionawr 2026. O ganlyniad, bydd Deddfau’r Senedd yn y dyfodol yn darparu bod is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tanynt i’w gwneud fel ”offeryn statudol Cymreig” yn hytrach na thrwy ”offeryn statudol” (a fydd yn denu’r agweddau perthnasol ar Ran 2B newydd o Ddeddf 2019 o ran rhifo, cyhoeddi a chadw offerynnau o’r fath).
5. Mae’r newidiadau hefyd yn sicrhau bod pwerau presennol mewn Deddfau, sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru neu awdurdod datganoledig Cymreig, i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf offeryn statudol yn cael eu harfer yn y dyfodol ar ffurf offeryn statudol Cymreig.
6. Mae Rhan 2B o Ddeddf 2019 yn gwneud darpariaeth i ffurfioli’r broses ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth Cymru drwy roi swyddogaethau i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Mae swyddogaethau Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru i gyhoeddi offerynnau statudol Cymreig a dogfennau cysylltiedig i’w harfer gan Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin.
7. Pan fo’r asesiad effaith hwn yn cyfeirio at ”offerynnau statudol” mae hyn yn gyfeiriad at yr offerynnau a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n denu gofynion Deddf 1946 a Rheoliadau 1947 (oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall); mae cyfeiriad at ”offerynnau statudol Cymreig” yn gyfeiriad at y trefniadau sydd mewn lle o 1 Ionawr 2026.
Cyhoeddi offerynnau statudol
8. O ganlyniad i Ddeddf 1946, mae Offerynnau Statudol yn cael eu hargraffu gan Argraffydd y Brenin. Yn ymarferol, mae’r Archifau Gwladol ar ran Argraffydd y Brenin wedi dyfarnu contract gwasanaethau cyhoeddi i The Stationery Office, sy’n rhan o Williams Lea. Mae’r contract deddfwriaeth hwn yn nodi’r manylebau a’r amserlenni y mae angen cadw atynt ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth ac eitemau cysylltiedig yn ddigidol ac mewn print.
9. Mae’r fersiynau gwreiddiol (fel y’u deddfwyd neu fel y’u gwnaed) a diwygiedig o ddeddfwriaeth ar wefan deddfwriaeth.gov.uk yn cael eu cyhoeddi gan ac o dan awdurdod Rheolwr Llyfrfa Ei Fawrhydi. Mae’r wefan yn cael ei rheoli gan yr Archifau Gwladol.
10. Mae offerynnau statudol a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol (yn ei ffurf flaenorol) ac wedyn gan Weinidogion Cymru ar gael i’w gweld ar deddfwriaeth.gov.uk fel pdf o’r ”fersiwn Argraffydd y Brenin” – hon yw’r fersiwn fel y’i gwnaed ac ardystiedig o’r offeryn. Hon yw’r fersiwn i’w hargraffu ac mae’n ymddangos yn y gyfrol flynyddol o OSau. Mae’r cyfeiriad yma at ”argraffu” yn golygu y copïau papur (sy’n hynod brin erbyn hyn) a argraffwyd yn gorfforol i’w dosbarthu i’r ”llyfrgelloedd cyfreithiol” ac i’w gwerthu, a fersiwn pdf o brint o’r fath sydd ar gael i’w lawrlwytho drwy deddfwriaeth.gov.uk
11. Ers 1999 mae offerynnau statudol a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac wedyn gan Weinidogion Cymru, wedi cael eu hargraffu ar ffurf colofn ddeuol. Mae testun Cymraeg y ddeddfwriaeth yn ymddangos ar ochr chwith y dudalen ac mae’r testun Saesneg yn ymddangos ar y dde. Mae’r ddwy golofn yn cael eu hargraffu ochr yn ochr ar yr un dudalen, sy’n galluogi darllenwyr i weld y ddwy iaith ar yr un pryd.
12. Fodd bynnag, mae offerynnau statudol hefyd ar gael i’w gweld ar-lein mewn fformat HTML ar deddfwriaeth.gov.uk. Mae’r fersiwn HTML yn caniatáu i’r defnyddiwr gael mynediad i’r offeryn ar wahanol bwyntiau mewn amser os yw wedi’i ddiwygio ers cael ei wneud. Felly, gall defnyddwyr weld offerynnau statudol nid yn unig ”fel y’u gwnaed” (h.y. ar eu ffurf wreiddiol) ond hefyd eu fersiwn ddiweddaraf, gan ymgorffori unrhyw ddiwygiadau a wnaed gan offerynnau diwygio (mae fersiynau pwyntiau mewn amser hefyd ar gael yn y fersiwn HTML – sy’n dangos sut roedd y gyfraith ar unrhyw ddyddiad penodol). Y fersiwn HTML hon, bron bob amser, sy’n cael ei defnyddio gan ddarllenwyr deddfwriaeth ar y wefan.
13. Mae’r cyfle i ddewis fformat a ffurfdeip newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymreig bellach wedi codi o ganlyniad i ddeddfu Deddf 2025. Mae hwn hefyd yn gyfle i foderneiddio ymddangosiad y ddeddfwriaeth hon i’w gwneud yn fwy priodol ar gyfer system ddigidol o gael mynediad at ddeddfwriaeth.
Fel y’i nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol i Fil Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (Lluniwyd Memorandwm Esboniadol yn wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn bellach wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2025 ac mae ar gael yn: Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru) 2025 - Memorandwm Esboniadol), codir ffioedd ar Lywodraethau ac adrannau yn Llywodraeth y DU ar y gyfradd a nodir yn y contract cyhoeddi a weithredir gan y consesiynydd cyhoeddi. Mae pob offeryn statudol cyffredinol a wneir gan Weinidogion Cymru yn codi tâl argraffu a chysodi, y rheswm dros hyn yw am fod proses â llaw yn cael ei defnyddio i greu’r fformat colofn ddeuol. Er enghraifft, y tâl i Lywodraeth Cymru am offeryn chwe thudalen ar hyn o bryd yw £420.50. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes gan Offerynnau Statudol yr Alban, er enghraifft, daliadau cysodi ac felly, beth bynnag fo maint yr offeryn, byddai’r tâl sengl o £320.00 yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Sylwch fod y ffioedd hyn i fod i gynyddu tua 9% o 1 Medi 2025 (a 9% arall y flwyddyn ganlynol). Gweler Tabl 7 yn y Memorandwm Esboniadol am ddadansoddiad llawnach.
15. Disgwylir i un o fanteision peidio â mabwysiadu fformat colofn ddeuol ar gyfer offerynnau statudol Cymreig fydd gostyngiad (neu ddiwedd o bosibl) yng nghostau’r taliadau cysodi sydd i’w talu gan Lywodraeth Cymru.
16. Y ffurfdeip cyfredol ar gyfer offerynnau printiedig yw Times New Roman; ffurfdeip serif a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer papur newydd The Times. Mae prif ddarpariaethau’r ddeddfwriaeth wedi’u nodi mewn nodau 12pt, gyda phenawdau penodol a nodweddion eraill mewn pwyntiau mawr; defnyddir print trwm ac italig hefyd i helpu i dorri’r testun a helpu’r darllenydd i ddilyn y ddeddfwriaeth.
17. Cyflwynodd yr Archifau Gwladol, ar ran Argraffydd y Brenin, dri phrif opsiwn ar gyfer fformat offerynnau statudol Cymreig a chynigiodd ffurfdeip newydd. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau a’n dadansoddiad o’r rhain ar ddiwedd yr asesiad hwn.
Newidiadau arfaethedig
18. O 1 Ionawr 2026 ymlaen, bydd offerynnau statudol Cymreig yn cael eu cyhoeddi mewn fersiwn brint ar ffurf colofn lawn, gyda’r testun Cymraeg yn ymddangos yn gyntaf (yn llawn) ac yna testun Saesneg yr offeryn. Bydd y ddwy iaith yn yr un ddogfen.
19. Y ffurfdeip ar gyfer offerynnau printiedig fydd Helvetica; ffurfdeip sans serif sy’n adnabyddus am ei ddefnydd ar draws ystod o gyfryngau (print, arddangosiadau, ffilm) a niwtraliaeth cyflwyno. Byddem yn parhau i ddefnyddio nodau 12pt, gyda phenawdau penodol a nodweddion eraill mewn pwyntiau maint mwy; gyda phrint trwm ac italig yn cael ei ddefnyddio i helpu i dorri’r testun a helpu’r darllenydd i ddilyn y ddeddfwriaeth.
20. Ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r fersiynau cyhoeddi HTML.
Casgliadau yn dilyn yr asesiad o’r effaith ar y Gymraeg
21. Cydnabyddir bod y fformat colofn ddeuol wedi golygu, ers blynyddoedd lawer, y gall defnyddwyr – yn enwedig gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a’r rhai y mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio’n uniongyrchol arnynt – gymharu testunau Cymraeg a Saesneg ar unwaith ac yn gyfleus. Mae symud i ffwrdd o’r fformat hwn yn newid sylweddol, ac efallai y bydd rhai defnyddwyr yn teimlo bod nodwedd bwysig yn cael ei cholli. Felly, roedd yn bwysig asesu effaith y newidiadau hyn ar y Gymraeg ac mae hyn wedi’i wneud gan ddefnyddio offeryn safonol Llywodraeth Cymru ”Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg” – mae’r canfyddiadau wedi’u nodi yn Atodiad A.
22. Mae nifer y copïau printiedig a brynir wedi gostwng yn sydyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gwerthiannau gwirioneddol bellach yn hynod brin. Mae’r duedd hon yn adlewyrchu newid ehangach tuag at fynediad digidol, ac ni ellir cyfiawnhau mwyach gadw’r fformat colofn ddeuol ar gyfer cynnyrch print sy’n cael ei ddefnyddio yn anaml o ystyried y costau sylweddol sy’n gysylltiedig â chysodi â llaw.
23. Er bod copïau PDF o ddeddfwriaeth ar gael, y fersiwn ’fel y’i gwnaed’ yn unig ydynt ac nid ydynt yn adlewyrchu diwygiadau dilynol. Mewn cyferbyniad, mae’r fersiwn HTML ar deddfwriaeth.gov.uk yn cael ei diweddaru’n barhaus i ddangos cyflwr presennol y gyfraith, gan ei gwneud yr adnodd mwyaf gwerthfawr (ac i raddau, awdurdodol) i ddefnyddwyr sy’n chwilio am wybodaeth gyfreithiol gyfredol. Yn gyffredinol, felly, effaith y newid hwn yn bennaf yw’r rhai:
- sydd am weld y ddwy iaith ochr yn ochr
- y mae’n well ganddynt ddarllen PDF neu (mewn achosion prin iawn) gopi papur cyhoeddedig, ac
- sy’n gwybod nad yw’r ddeddfwriaeth y maent yn ei darllen wedi’i diwygio gan ddeddfiad diweddarach
24. Yn ymarferol, mae’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth yn cael ei darllen mewn fformat HTML (ar borwr). Mae’n bosibl yn dechnegol ail-greu’r fformat colofn ddeuol wrth ddarllen fersiwn HTML y ddeddfwriaeth, gan alluogi defnyddwyr i weld testunau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr. Fodd bynnag, mae angen i ni weithio gyda’r Archifau Gwladol i annog blaenoriaethu datblygu swyddogaethau ar deddfwriaeth.gov.uk, fel y gellir gwneud hyn yn haws. Byddai hyn yn golygu bod manteision testun ochr yn ochr yn cael eu hehangu fel y byddai ar gael yn gyfleus ar ffurf gyfredol am y tro cyntaf. Dyma’r hyn a fyddai’n cael y budd mwyaf i’r Gymraeg ac a fyddai’n adlewyrchu’n briodol statws cyfartal y ddwy iaith.
Atodiad A: Cwestiynau/ymatebion Asesiad Effaith
Cwestiwn 1: A yw'r cynnig yn cysylltu'n glir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg – Cymraeg 2050, Miliwn o Siaradwyr a'r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2017-2021?
Nid oes cysylltiadau uniongyrchol rhwng y newidiadau arfaethedig ar gyfer offerynnau statudol Cymreig printiedig a Cymraeg 2050 a’r Rhaglen Waith gysylltiedig.
Cwestiwn 2: Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg, ac eglurwch sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg. Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? Dylech nodi eich ymateb i’r canlynol wrth ateb y cwestiwn hwn, yn ogystal â chynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol arall:
Cwestiwn 2(a): Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? - gall y rhain fod yn gymunedau clos yng nghefn gwlad, mewn rhwydweithiau cymdeithasol gwasgaredig mewn trefi ac mewn rhith-gymunedau nad ydynt yn cael eu cyfyngu gan ddaearyddiaeth.
Gan fod hyn yn ymwneud â chyhoeddi offerynnau statudol Cymreig printiedig yn gyffredinol, yn hytrach na deddfwriaeth ar bynciau penodol, nid ystyrir y bydd y newidiadau hyn yn cael effaith gadarnhaol neu andwyol ar gymunedau Cymraeg.
Ond cydnabyddir bod y fformat colofn ddeuol wedi golygu y gall defnyddwyr – yn enwedig gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a’r rhai y mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio’n uniongyrchol arnynt (mewn cymunedau Cymraeg ac yn ehangach) – gymharu testunau Cymraeg a Saesneg ar unwaith ac yn gyfleus. Mae symud i ffwrdd o’r fformat hwn yn newid sylweddol, ac efallai y bydd rhai defnyddwyr yn teimlo bod nodwedd bwysig yn cael ei cholli.
Yn y dyluniad fformat newydd bydd testun Cymraeg y ddeddfwriaeth yn ymddangos o flaen y testun Saesneg. Gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar yr iaith a bod o fudd i gymunedau Cymraeg a phobl eraill a fydd yn gallu cael mynediad at destun Cymraeg y ddeddfwriaeth ar unwaith.
Cwestiwn 2(b): Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar addysg Gymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?
Nid ystyrir y bydd effaith sylweddol ar addysg Gymraeg ar draws pob oedran – mae hyn oherwydd y bydd tesun y ddeddfwriaeth yn y ddwy iaith yn parhau i fod ar gael.
I fyfyrwyr (gan gynnwys dysgwyr Cymraeg) efallai y bydd ychydig yn anoddach cymharu’n uniongyrchol destunau iaith dogfen printiedig. Fodd bynnag, bydd yn bosibl i destun y ddwy iaith yn y ddogfen brintiedig gael ei osod ochr yn ochr a chael effaith debyg ac felly nid ystyrir bod yr effaith andwyol bosibl hon yn arwyddocaol. Gall gosod y testunau ochr yn ochr fod ychydig yn anghyfleus os yw’r cyfrif tudalennau yn hir. Fodd bynnag, mae hyn yn eithaf prin gan mai naw tudalen yw nifer cyfartalog tudalennau offerynnau statudol a wnaed gan neu ar ran Gweinidogion Cymru ym mlwyddyn ariannol 2024-2025. Yn ogystal â hyn, mae’r rhan fwyaf o baragraffau ac adrannau mewn offerynnau statudol wedi’u rhifo a ddylai wneud croesgyfeirio’n haws pan fo hyn yn berthnasol.
Bydd testun Cymraeg y ddeddfwriaeth yn fersiwn Argraffydd y Brenin yn ymddangos yn gyntaf, felly disgwylir y bydd hyn yn hyrwyddo argaeledd y testun hwnnw i fyfyrwyr ac addysgwyr.
Rydym yn nodi, os yw myfyrwyr yn dymuno cymharu’r ddwy fersiwn iaith ochr yn ochr yn electronig, bydd hyn yn bosibl gan ddefnyddio’r fersiwn HTML ar deddfwriaeth.gov.uk a defnyddio nodwedd hollti’r sgrin i wneud hynny, neu agor fersiwn Argraffydd y Brenin drwy hollti’r sgrin.
Cwestiwn 2(c): Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? (e.e iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, amgylchedd, llywodraeth leol ac ati.) - nod Strategaeth y Gymraeg yw cynyddu'r ystod o wasanaethau a gynigir i siaradwyr Cymraeg, ac i gynyddu'r defnydd o wasanaethau Cymraeg.
Ni fydd y cynnig yn effeithio ar wasanaethau sydd ar gael drwy’r Gymraeg gan y bydd y ddeddfwriaeth yn parhau i gael ei llunio, ei gwneud a’i hargraffu yn y ddwy iaith i ddarparwyr gwasanaeth gyfeirio atynt.
Cwestiwn 2(d): Sut y byddwch yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg a'u bod yn gallu cael mynediad atynt a'u defnyddio mor rhwydd â gwasanaethau Saesneg? Pa dystiolaeth / data y gwnaethoch eu defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau â diddordeb yn y Gymraeg?
Mae’r ’gwasanaeth’ o gyhoeddi offerynnau statudol Cymreig yn cael ei reoli gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. O’i wefan (deddfwriaeth.gov.uk) mae’n bosibl gweld gwybodaeth a chael mynediad at ddeddfiadau unigol gan ddefnyddio agweddau Cymraeg y wefan; pan fo deddfwriaeth wedi’i gwneud yn ddwyieithog, gellir cyrchu testunau Cymraeg y ddeddfwriaeth hefyd. Nid oes gwahaniaeth mewn swyddogaethau na hygyrchedd rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae’n bosibl argraffu copi o fersiwn Argraffydd y Brenin o ddeddfwriaeth o’r wefan (a phan fo hon yn ddeddfwriaeth ddwyieithog, ar hyn o bryd mae’r fformat colofn ddeuol yn argraffu; yn y dyfodol bydd y fersiwn fformat newydd yn argraffu ar gyfer yr holl offerynnau a gyhoeddir ar ôl i’r newidiadau hyn ddod i rym).
Mae fersiwn Argraffydd y Brenin o ddeddfwriaeth ddwyieithog bob amser wedi’i hargraffu yn y ddwy iaith. Felly, o safbwynt ieithyddol, dim ond cadw’r sefyllfa sydd ohoni y mae’r newid arfaethedig yn ei wneud. Fodd bynnag, drwy sicrhau bod y testun Cymraeg yn ymddangos yn gyntaf yn y ddogfen, nid oes lleihad yn hygyrchedd y testun Cymraeg.
Cwestiwn 2(e): Pa dystiolaeth arall fyddai'n eich helpu i gynnal asesiad gwell?
Efallai y byddai ymchwil defnyddwyr ar wahân gan Lywodraeth Cymru gyda grŵp ffocws o siaradwyr Cymraeg a Saesneg wedi bod yn ddefnyddiol i gynnal yr asesiad hwn. Fodd bynnag, o waith a wnaed gan yr Archifau Gwladol ar fynediad at ddeddfwriaeth Gymraeg, rydym yn deall mai hygyrchedd digidol yw’r prif faes o ddiddordeb. Dyna pam y mae’r Archifau Gwladol wedi gwneud ymdrechion i wella hygyrchedd a diwyg gwefan deddfwriaeth.gov.uk yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn deall o’r Archifau Gwladol mai prin yw’r diddordeb yn y fersiwn brintiedig o ddeddfwriaeth erbyn hyn. Rydym wedi cael gwybod bod nifer y copïau printiedig a brynwyd wedi gostwng yn sydyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gwerthiannau gwirioneddol bellach yn hynod brin. Mae’r duedd hon yn adlewyrchu newid ehangach tuag at fynediad digidol.
Cwestiwn 2(f): Sut y byddwch yn gwybod a yw eich polisi yn llwyddiant?
- Mae defnyddwyr yn parhau i gael mynediad at y fersiwn brintiedig o ddeddfwriaeth – er bod gwerthiannau gwirioneddol yn isel iawn, fel y’i nodwyd yn gynharach mae hefyd yn bosibl cael copi o fersiwn Argraffydd y Brenin drwy wefan deddfwriaeth.gov.uk – rhywbeth y gall yr Archifau Gwladol ei fonitro os oes angen.
- Adborth gan yr Archifau Gwladol - dylai pob defnyddiwr allu ymgysylltu â fersiwn Argraffydd y Brenin o ddeddfwriaeth yn ei ddewis iaith, gan ddefnyddio ei offer hygyrchedd perthnasol. Felly, gallwn hefyd farnu ei lwyddiant o ran a yw defnyddwyr yn cysylltu â’r Archifau Gwladol i rannu a ydynt yn cael trafferth i gael mynediad at y ddeddfwriaeth Gymraeg yn y fformat newydd, neu os nad yw’n gweithio gydag unrhyw offer hygyrchedd y maent yn eu defnyddio o bosibl.
Gwybodaeth ychwanegol
25. Cyflwynodd yr Archifau Gwladol dri opsiwn y gellid eu defnyddio i argraffu deddfwriaeth ddwyieithog:
- Opsiwn A: cynhyrchu dwy ddogfen ar wahân (un yn cynnwys y testun Cymraeg, a’r llall y testun Saesneg) ac i’r rhain gael eu hanfon allan fel un eitem pan brynir copïau printiedig. Dim ond fel set gyflawn y gallai defnyddiwr brynu’r offeryn, nid testun un iaith yr offeryn.
- Opsiwn B: fersiwn rhyngddalennog o’r testunau mewn un ddogfen (tudalen 1 sy’n cynnwys y testun Cymraeg, tudalen 2 y testun Saesneg cyfatebol, tudalen 3 y dudalen nesaf o’r testun Cymraeg, ac yn y blaen)
- Opsiwn C: un ddogfen sy’n cynnwys y ddau destun yn ddilyniannol (y testun Cymraeg yn gyntaf, y testun Saesneg yn ail)
26. Cafodd Opsiwn A ei ddiystyru gennym yn gyntaf ar sail y gost i’r defnyddiwr terfynol: o dan y contract argraffu codir ffi i ddefnyddwyr, yn seiliedig ar nifer y tudalennau, am brynu copïau printiedig o ddeddfwriaeth. Pe bai’r offeryn yn cael ei gyhoeddi fel dwy ddogfen ar wahân o 30 tudalen yr un, er enghraifft, byddai hyn yn ddrytach nag un offeryn sengl o 60 tudalen. Yn ail, roeddem o’r farn y gallai effeithio ar y canfyddiad a’r ddealltwriaeth mai’r testun yn y ddwy iaith sy’n gwneud y rheoliadau, y gorchymyn, y rheolau, ac ati. Nid yw’n wir bod yr offeryn yn cael ei wneud yn Gymraeg a hefyd yn Saesneg (neu i’r gwrthwyneb), mae’r offeryn yn cael ei wneud yn ddwyieithog a’r rhannau yn y ddwy iaith yw’r ddeddfwriaeth.
27. Roedd Opsiwn B yn atyniadol i ddechrau, gan y byddai’n darparu i’r destunau iaith fod wrth ymyl ei gilydd a byddai’n adlewyrchu’r dull a ddefnyddir ar gyfer y fersiwn iaith gymysg o Ddeddfau Senedd Cymru printiedig. Fodd bynnag, ar ôl archwilio’n llawnach gyda’r Archifau Gwladol daeth yn amlwg y byddai’n debygol y byddai rhywfaint o gysodi â llaw yn gysylltiedig â hynny o hyd ac felly ni fyddai’r arbedion cost a ddymunir yn cael eu cyflawni.
28. Ystyrir mai Opsiwn C yw’r opsiwn mwyaf effeithiol o ran cost ac amser, wrth hefyd sicrhau bod gofynion ynghylch hygyrchedd a thriniaeth gyfartal o’r testun Cymraeg a Saesneg yn cael eu bodloni. Roedd yn hanfodol sicrhau’r cydbwysedd hwn. Y prif reswm dros symud i ffwrdd o’r fformat colofn ddeuol oedd argraffu deddfwriaeth mewn ffordd fwy cost-effeithiol.
29. O dan ”opsiwn C” bydd offerynnau printiedig a gyhoeddir yn parhau i gynnwys y testun Cymraeg ac nid oes unrhyw gamau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y broses i ddarllenwyr gael mynediad at destun Cymraeg yr offeryn. Yn wir, bydd y testun Cymraeg yn ymddangos yn gyntaf yn fersiwn Argraffydd y Brenin/y fersiwn fel y’i gwnaed. Mae hyn yn unol ag arfer cyffredin Llywodraeth Cymru a Safonau’r Gymraeg, a sefydlwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r dull hwn hefyd yn sicrhau y bydd defnyddwyr yn parhau i allu cael mynediad at ddeddfwriaeth yn y Gymraeg ac yn osgoi unrhyw ganfyddiad bod deddfwriaeth yn cael ei gwneud ar wahân yn y ddwy iaith. Bydd y dull hwn o argraffu yn parhau i roi dewis i ddarllenydd ddarllen offerynnau yn eu dewis iaith gan fod y ddwy fersiwn o’r testun yn cael eu trin yn gyfartal.
30. Mae perygl na fydd defnyddwyr yn sylweddoli ar unwaith fod testun y ddwy iaith wedi’u cynnwys mewn un ddogfen, ond rydym o’r farn y gellir gwrthbwyso hyn drwy ddefnyddio dalen glawr sy’n defnyddio’r ddwy iaith.
31. Dylid cofio hefyd y bydd y ddeddfwriaeth yn parhau i fod ar gael i’w gweld ar deddfwriaeth.gov.uk mewn fformat HTML. Gall y defnyddiwr ddefnyddio swyddogaeth hollti’r sgrin i agor y ddeddfwriaeth HTML Cymraeg a Saesneg a’u darllen ochr yn ochr. Mae yna hefyd yr opsiwn o agor dwy fersiwn Argraffydd y Brenin mewn tabiau ar wahân ar sgrin cyfrifiadur a defnyddio nodwedd hollti’r sgrin i weld y ddwy iaith ochr yn ochr.
