Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ysgrifennais at yr Aelodau ar 22 Ionawr ynghylch yr ymgynghoriad ar ddyfodol y cynlluniau  Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael.  Roedd y Papur Gwyn yn pennu dau gynnig oedd yn anelu at ddiogelu ein stoc tai cymdeithasol yng ngwyneb y pwysau cynyddol ym maes tai.  

Y cynnig cyntaf oedd gweithredu yn y tymor byr i'r canolig i leihau y disgownt mwyaf ar y pris gwerthu o'r ffigwr presennol o £16,000 i £8,000.  Yr ail gynnig oedd camau mwy hirdymor i ddatblygu deddwriaeth newydd i ddod â'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael i ben.  Byddai hyn yn cael ei ddatblygu yn barod ar gyfer y Llywodraeth nesaf fel rhan o'i rhaglen ddeddfwriaethu.   

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. 
 
Cafwyd cyfanswm o 94 o  ymatebion o amrywiol unigolion a sefydliadau.  Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymdeithasau Tai), cyrff cynrychioladol sy'n gweithio ym maes tai ac aelodau unigol o'r cyhoedd.  Mae'r olaf yn cynnwys 30 o denantiaid tai cymdeithasol, sy'n golygu un rhan o dair o'r holl ymatebwyr.    

Yn gyffredinol, mae'r ymatebion yn dangos cefnogaeth i'r cynnig i leihau y disgownt mwyaf ar y pris gwerthu a'r cynnig i ddatblygu deddfwriaeth i ddod â'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael i ben.

Cafodd y cynnig i leihau y disgownt mwyaf i'r pris gwerthu ei gefnogi gan 76% o'r 70 o ymatebwyr a ddangosodd yn glir beth oeddent yn ei ffafrio.   

Roedd chwe-deg-naw o'r ymatebwyr yn cynnig sylwadau ar y lefel y dylid lleihau'r disgownt mwyaf ar y pris gwerthu.  O'r rhai oedd yn ffafrio rhywbeth yn bendant, roedd tri-deg-un o'r  ymatebwyr (46%) yn cytuno â'r cynnig.  Nid oedd y gweddill (54%) yn cytuno â'r ffigur o £8,000. Fodd bynnag, mae ein dadansoddiad yn dangos bod mwyafrif (69%) yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn erbyn y gostynigad i £8,000 yn nodi eu bod am i'r gostyngiad gael ei leihau hyd yn oed fwy neu ei ddileu yn gyfan gwbl.  

Cafodd y cynnig i ddatblygu deddfwriaeth newydd i ddod â'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael i ben ei gefnogi gan 63% o'r 83 o ymatebwyr a wnaeth ddatgan eu barn yn glir.  Rhoddodd chwech  o ymatebwyr eraill gefnogaeth amodol i'r cynnig.  

Bu i'r ymatebwyr hefyd ddatgelu bod mwy na naw o bob deg o ymatebwyr (94%) yn credu  y dylai Llywodraeth Cymru weithredu mwy i helpu'r bobl hynny nad oedd yn gallu defnyddio'r farchnad dai i fodloni eu hanghenion.  Roedd 75% yn teimlo y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddiogelu'r stoc tai cymdeithasol rhag lleihau ymhellach.  

Rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymateb i'r  ymgynghoriad ac wedi penderfynu mynd ymlaen â'r cynigion a nodir yn y Papur Gwyn.  Mae tai cymdeithasol yn rhan hollbwysig a gwerthfawr iawn o'n system dai, ac mae'n rhoi sicrwydd hanfodol i'r bobl y mae'r farchnad dai yn methu eu helpu, naill ei drwy brynu tŷ neu rentu gan landlord preifat.  Yr hyn sy'n bwysig yw bod hyn yn cynnwys rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.  

Rwyf bellach yn gwneud trefniadau i newid y ddeddfwriaeth bresennol i leihau y disgownt uchaf posib sydd ar gael o dan y cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael o £16,000 i £8,000. Rwy'n bwriadu gwneud hyn yn Offeryn Statudol cyn egwyl yr haf.   

Er bod yr ymateb i'r ymgynghoriad yn nodi bod rhywfaint o gefnogaeth i leihau'r disgownt mwyaf i lai nag £8,000, rwy'n  ystyried y gostyngiad yn rhesymol ac yn gymesur o ran ein hawydd i leihau'r crebachu parhaus yn nifer ein tai cymdeithasol.  

Rwyf hefyd yn gweithredu i ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol newydd i ddod â'r cynlluniau  Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael i ben.  Yn y pen draw, rwy'n credu mai dyma'r unig ffordd o amddiffyn ein stoc tai cymdeithasol rhag lleihau ymhellach, ac yn bwysicaf  un, i sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu prynu cartref y gallant ei fforddio.  

Mae fy ymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi yn parhau yn hollbwysig.  Mae'r camau yr wyf yn eu cymeryd i ddiogelu ein stoc tai cymdeithasol yn ffordd gydnabyddedig o ddefnyddio y polisi tai cymdeithasol i drechu tlodi.