Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd deunyddiau addysg newydd ar gael i'n holl ddisgyblion ysgol er mwyn iddynt allu dysgu am y cyflyrau iechyd cyffredin sy'n gallu effeithio ar fenywod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r adnoddau, a gafodd eu lansio'r wythnos hon gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, yn cwmpasu 4 maes allweddol:

  • iechyd mislif
  • endometriosis
  • iechyd y pelfis
  • menopos

Bu'r Rhwydwaith Iechyd Menywod yn gweithio gyda nyrsys ysgol a dysgwyr o bob rhan o Gymru i ddatblygu'r deunyddiau hyn. Mae merched a bechgyn wedi cyfrannu at y gwaith datblygu er mwyn sicrhau bod yr adnoddau'n adlewyrchu'r wybodaeth sy’n berthnasol i bobl ifanc.

Bydd ysgolion uwchradd yn gallu addasu'r adnoddau i gynnwys eu brandio eu hunain, ac mae'r deunyddiau'n gweithio ar draws gwahanol blatfformau gan gynnwys e-byst, taflenni, posteri, cyfryngau cymdeithasol, a chodau QR.

Y nod yw lleihau unrhyw stigma sy'n gysylltiedig â'r mislif; helpu pobl ifanc i wybod pryd i geisio cymorth meddygol; a chodi ymwybyddiaeth o gyflyrau fel endometriosis. Mae'r adnoddau hefyd yn darparu gwybodaeth am iechyd y pelfis a'r menopos i wella dealltwriaeth o faterion iechyd a allai godi yn ystod bywydau menywod.

Roedd aelodau o banel ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a helpodd i greu'r deunyddiau, yn bresennol yn y digwyddiad lansio yn yr Ysbyty Plant yng Nghaerdydd.

Mae Athika Ahmed, 23 oed o Gaerdydd, wedi bod yn rhan o'r bwrdd ieuenctid ers yn 16 oed. Dywedodd hi:

Rydyn ni wedi cael nyrsys ysgol yn dod mewn i siarad â ni am y deunyddiau maen nhw wedi bod yn gweithio arnynt i'w defnyddio mewn ysgolion. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu eu cyfeirio tuag at y math o wybodaeth rydyn ni'n meddwl fyddai'n fuddiol ac awgrymu syniadau am sut y dylid eu dysgu.

Mae'n wych ein bod wedi bod yn rhan o'r broses o addysgu am iechyd menywod yn y dyfodol.

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Bydd yr adnoddau newydd hyn yn helpu i gefnogi iechyd a llesiant pobl ifanc ledled Cymru. Trwy weithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc i ddatblygu'r deunyddiau, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod y deunyddiau'n rhoi sylw i'w cwestiynau a'u pryderon.

Dw i'n ddiolchgar i'r holl bobl ifanc sydd wedi cyfrannu eu dealltwriaeth a'u profiadau er mwyn sicrhau bod y deunyddiau'n berthnasol ac yn hawdd eu deall.

Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau, a gwella canlyniadau iechyd i fenywod a merched ledled y wlad.

Mae'r adnoddau hefyd yn cynnwys dolenni at wefannau dibynadwy fel Bloody Brilliant ac Endometriosis Cymru lle mae rhagor o wybodaeth ar gael.