Canllawiau ar hysbysiadau canslo, trosglwyddiadau a dychweliadau
Canllawiau i awdurdodau lleol, cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu, a phobl sy'n gwneud gwaith adeiladu ar ganslo hysbysiadau cychwynnol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Canllawiau ar sut y gall awdurdodau lleol, cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu (“cymeradwywyr cofrestredig”), a phobl sy’n gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru weithredu o ran canslo hysbysiadau cychwynnol mewn amgylchiadau gwahanol, lle y gallai gwaith adeiladu ddychwelyd at sylw awdurdod lleol neu lle y gallai'r unigolyn sy'n ymgymryd â'r gwaith benodi cymeradwywr cofrestredig arall ar ôl i hysbysiad cychwynnol y cymeradwywr cofrestredig gwreiddiol gael ei ganslo.
Fframwaith rheoleiddio
O dan adran 58A o Ddeddf Adeiladu 1984, Gweinidogion Cymru yw'r "awdurdod rheoleiddio" at ddibenion rheoleiddio'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru wedi dynodi rhai swyddogaethau i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau (gweler cylchlythyr WGC 001/2024 i gael rhagor o fanylion). Mae hyn yn cynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud â chymeradwywyr cofrestredig, sy'n cwmpasu darpariaethau cofrestru, ymchwilio, erlyn troseddau a sancsiynau megis atal dros dro neu ddadgofrestru. Felly, cyfeirir at y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau drwy'r canllawiau hyn i gyd gan y bydd yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru yn y rhan fwyaf o achosion.
Hysbysiadau canslo
Beth yw hysbysiad canslo?
Hysbysiad canslo yw hysbysiad a ddyroddir o dan adran 52 o Ddeddf Adeiladu 1984, adran 52A o Ddeddf Adeiladu 1984 neu adran 53D o Ddeddf Adeiladu 1984 ac mae'n canslo hysbysiad cychwynnol sydd mewn grym mewn perthynas â phrosiect adeiladu penodol. Mae canslo’r hysbysiad cychwynnol yn broses lle mae cymeradwywr cofrestredig yn peidio â chyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith mewn prosiect adeiladu.
Rhaid i hysbysiad canslo gael ei ddyroddi yn unol â'r ffurflen ragnodedig briodol yn rheoliad 15 ac Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 yn dibynnu ar y pŵer y caiff yr hysbysiad canslo ei ddyroddi oddi tano.
Pryd y mae'n rhaid dyroddi hysbysiad canslo ar gyfer hysbysiad cychwynnol sy’n ymwneud â gwaith adeiladu nad yw’n waith risg uwch?
O dan adran 52 o Ddeddf Adeiladu 1984, mae'n rhaid i hysbysiad canslo gael ei ddyroddi gan y personau canlynol lle y bodlonir yr amgylchiadau canlynol:
Mae'n rhaid i gymeradwywr cofrestredig ddyroddi hysbysiad canslo:
- Pan na fydd cymeradwywr cofrestredig yn gallu, neu pan fydd yn disgwyl na fydd yn gallu, cyflawni (neu barhau i gyflawni) ei swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith a gwmpesir gan yr hysbysiad cychwynnol. Er enghraifft, mae'n debygol o fynd i'r wal ac yn gwybod na fydd yn gallu cyflawni ei swyddogaethau yn ystod oes y prosiect.
- Pan fydd cymeradwywr cofrestredig o’r farn bod y gwaith yn cael ei wneud mewn modd sy’n golygu nad yw’n gallu cyflawni ei swyddogaethau’n ddigonol. Er enghraifft, nid yw'n cael digon o wybodaeth neu gyfle i arolygu gwaith a wnaed gan ddatblygwr er mwyn penderfynu a oes unrhyw achosion o dorri'r rheoliadau adeiladu.
- Pan fydd cymeradwywr cofrestredig o'r farn bod unrhyw ddarpariaethau cymwys o'r rheoliadau adeiladu wedi’u torri, ac wedi rhoi hysbysiad o’r toriadau hynny (gan gynnwys lleoliad y toriadau) i’r person sy’n cyflawni’r gwaith, ac nad yw’r person hwnnw wedi cymryd y camau rhagnodedig i unioni’r toriadau hynny o fewn cyfnod o dri mis (fel y nodir yn rheoliad 16 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
- Pan fydd cymeradwywr cofrestredig yn cael gorchymyn disgyblu gan y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau ar ran Gweinidogion Cymru, sy'n golygu nad yw’n gallu cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â’r gwaith a gwmpesir gan yr hysbysiad cychwynnol.
- Pan fydd yn ymddangos i gymeradwywr cofrestredig fod rhannau o'r gwaith, neu’r holl waith, a ddisgrifir mewn hysbysiad cychwynnol wedi dod yn waith adeiladu risg uwch.
Mae'n rhaid i’r person sy’n cyflawni’r gwaith (e.e. y datblygwr / contractwr / cyflogwr) ddyroddi hysbysiad canslo:
- Pan fydd yn ymddangos i’r person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy'n bwriadu cyflawni'r gwaith) nad yw’r cymeradwywr cofrestredig bellach yn fodlon neu'n gallu cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith hwnnw. Yn ogystal â'r awdurdod lleol, rhaid iddo hefyd anfon copi o’r hysbysiad canslo at y cymeradwywr cofrestredig os yw hynny'n ymarferol. Er enghraifft, efallai nad yw person yn fodlon ar y gwasanaeth y mae'n ei gael gan ei gymeradwywr cofrestredig ac efallai ei fod am newid darparwr. Os nad yw ei gymeradwywr cofrestredig gwreiddiol yn ymateb i’w gyswllt, gall y person ddod i’r casgliad bod gofynion yr adran hon wedi’u bodloni a dyroddi hysbysiad canslo.
- Pan fydd yn ymddangos i’r person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy'n bwriadu cyflawni'r gwaith) fod rhannau o'r gwaith, neu’r holl waith, a ddisgrifir mewn hysbysiad cychwynnol wedi dod yn waith adeiladu risg uwch (ac ni ddyroddwyd hysbysiad canslo gan gymeradwywr cofrestredig eisoes).
Mae'n rhaid i awdurdod lleol ganslo hysbysiad cychwynnol:
- Os bydd cymeradwywyr cofrestredig yn cael gorchymyn disgyblu perthnasol neu os bydd ei gofrestriad yn cael ei ganslo (fel y disgrifir yn adran 52(5B) o Ddeddf Adeiladu 1984), rhaid i’r awdurdod lleol ganslo’r hysbysiad cychwynnol drwy roi’r ffurflen ragnodedig (fel y disgrifir yn rheoliad 15 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 i’r person a ddangosir yn yr hysbysiad cychwynnol fel y cymeradwywr cofrestredig (h.y. hyd yn oed os yw ei gofrestriad wedi'i ganslo) ac i’r person a ddangosir yn yr hysbysiad cychwynnol fel y person sy'n bwriadu gwneud y gwaith.
- Gan fod y cymeradwywr cofrestredig a'r person sy’n gwneud y gwaith hefyd dan rwymedigaeth i ddyroddi hysbysiadau canslo mewn amgylchiadau tebyg, rhaid i awdurdod lleol roi o leiaf 7 diwrnod o rybudd i'r person a ddangosir yn yr hysbysiad cychwynnol fel y cymeradwywr cofrestredig, cyn y dyddiad y bwriedir canslo'r hysbysiad cychwynnol, a rhaid i'r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a wnaed iddo yn ystod y cyfnod hwnnw (oni bai bod y bwriad i ganslo yn deillio o ganslo cofrestriad y cymeradwywr cofrestredig – gweler isod i gael rhagor o fanylion).
- Pan fydd yn ymddangos i awdurdod lleol fod rhannau o'r gwaith, neu’r holl waith, a ddisgrifir mewn hysbysiad cychwynnol wedi dod yn waith adeiladu risg uwch, ac ni ddyroddwyd hysbysiad canslo eisoes gan y cymeradwywr cofrestredig neu'r person sy'n cyflawni'r gwaith (neu sy'n bwriadu cyflawni'r gwaith).
Pryd y mae'n rhaid dyroddi hysbysiad canslo pan fydd y gwaith mewn hysbysiad cychwynnol yn dod yn waith adeiladu risg uwch?
Pan fydd yn ymddangos i gymeradwywr cofrestredig fod rhannau o'r gwaith, neu’r holl waith, a ddisgrifir mewn hysbysiad cychwynnol wedi dod yn waith adeiladu risg uwch, mae adran 52A(1) o Ddeddf Adeiladu 1984 yn nodi y dylai'r cymeradwywr cofrestredig ddyroddi hysbysiad canslo ac y dylai'r ffurflen ragnodedig berthnasol gael ei rhoi i'r awdurdod lleol perthnasol dan sylw a'r person sy'n cyflawni'r gwaith neu sy'n bwriadu cyflawni'r gwaith. Y ffurflen ragnodedig yw Ffurflen 13(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Pan fydd yn ymddangos i berson sy'n cyflawni'r gwaith, neu sy'n bwriadu cyflawni'r gwaith, fod rhannau o'r gwaith, neu’r holl waith, a ddisgrifir mewn hysbysiad cychwynnol wedi dod yn waith adeiladu risg uwch (ac nad yw cymeradwywr cofrestredig wedi cymryd y camau uchod), mae adran 52A(2) o Ddeddf Adeiladu 1984 yn nodi y dylai'r person sy'n cyflawni'r gwaith ddyroddi hysbysiad canslo ac y dylai'r ffurflen ragnodedig berthnasol gael ei rhoi i'r awdurdod lleol perthnasol dan sylw a'r cymeradwywr cofrestredig. Y ffurflen ragnodedig yw Ffurflen 14(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Pan fydd yn ymddangos i awdurdod lleol fod rhannau o'r gwaith, neu’r holl waith, a ddisgrifir mewn hysbysiad cychwynnol wedi dod yn waith adeiladu risg uwch (ac nad yw cymeradwywr cofrestredig na'r person sy'n cyflawni'r gwaith eisoes wedi cymryd y camau uchod), mae adran 52A(4) o Ddeddf Adeiladu 1984 yn nodi y dylai'r awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad canslo ac y dylai'r ffurflen ragnodedig berthnasol gael ei rhoi i'r person sy'n cyflawni'r gwaith (neu sy'n bwriadu cyflawni'r gwaith) a'r cymeradwywr cofrestredig. Y ffurflen ragnodedig yw Ffurflen 15(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Pan ddyroddir hysbysiad canslo, daw i rym o’r diwrnod y caiff ei roi ac ni ellir rhoi hysbysiad cychwynnol newydd yn ymwneud ag unrhyw ddarn o'r gwaith y mae’r rhan o’r hysbysiad cychwynnol a gafodd ei ganslo yn ymwneud ag ef (ond nid gweddill y gwaith yn yr hysbysiad cychwynnol, lle nad yw’r gwaith hwnnw’n waith adeiladu risg uwch).
Trosglwyddo prosiectau i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu newydd
Beth sy’n digwydd pan gaiff hysbysiad canslo ei ddyroddi gan gymeradwywr cofrestredig, a phryd y gellir penodi cymeradwywr cofrestredig arall ar gyfer gwaith adeiladu nad yw’n risg uwch?
Fel y disgrifir yn y canllawiau hyn, mae llawer o amgylchiadau lle mae gan gymeradwywyr cofrestredig ddyletswydd gyfreithiol i ganslo hysbysiadau cychwynnol sydd mewn grym (lle maent yn cael eu dangos fel y cymeradwywr cofrestredig). Mae methu â gwneud hynny'n drosedd a allai arwain at erlyniad. Mae hefyd yn achos o dorri Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru a'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru).
Lle y bo hyn yn gymwys, dylai'r cymeradwywr cofrestredig ganslo'r hysbysiadau cychwynnol ar gyfer y prosiectau perthnasol (o dan adran 52(1)(a) o Ddeddf Adeiladu 1984) gan ddefnyddio Ffurflen 9(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024. Dylai roi gwybod i'r person sy'n cyflawni'r gwaith ei fod yn gwneud hynny.
Pan fydd y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael neu’r person sy’n cyflawni'r gwaith wedi nodi cymeradwywr cofrestredig newydd sy’n fodlon gweithredu fel corff rheolaeth adeiladu ar gyfer y gwaith, rhaid i’r cymeradwywr cofrestredig 'newydd’ ddyroddi hysbysiad cychwynnol newydd ar gyfer y prosiectau hyn o fewn cyfnod o 7 diwrnod i ganslo’r hysbysiad cychwynnol gwreiddiol (o dan adran 53(7)(a) a (8) o Ddeddf Adeiladu 1984) gan ddefnyddio Ffurflen 1(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Yna rhaid i’r awdurdod lleol dderbyn neu wrthod yr hysbysiad cychwynnol newydd (ond rhaid i hysbysiad gwrthod gael ei roi cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi).
Ar ôl i'r hysbysiad cychwynnol newydd gael ei dderbyn gan yr awdurdod lleol, rhaid i’r cymeradwywr cofrestredig 'newydd’ gymryd pob cam rhesymol i gadarnhau nad yw’r gwaith anorffenedig yn torri unrhyw ddarpariaeth o'r rheoliadau adeiladu.
Os na all y cymeradwywr cofrestredig gadarnhau a yw’r gwaith anorffenedig yn torri unrhyw reoliadau adeiladu, rhaid iddo roi hysbysiad i’r person sy’n cyflawni'r gwaith yn nodi pam na all gadarnhau hynny, a rhoi copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod lleol.
Os bydd y cymeradwywr cofrestredig 'newydd’ yn cadarnhau nad yw’r gwaith anorffenedig yn torri unrhyw ddarpariaeth o'r rheoliadau adeiladu, rhaid iddo roi tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo i’r awdurdod lleol o fewn 21 diwrnod i’r diwrnod y cafodd yr hysbysiad cychwynnol newydd ei dderbyn, neu gyfnod hirach y mae’r awdurdod lleol yn fodlon cytuno arno (os gofynnir yn ffurfiol). Gweler yr adran isod ar dystysgrifau ac adroddiadau trosglwyddo i gael rhagor o wybodaeth am y broses hon.
Pryd y dylai awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad canslo oherwydd gorchymyn disgyblu neu sancsiwn yn erbyn cymeradwywr cofrestredig, a phryd y gellir penodi cymeradwywr cofrestredig arall?
Pan fydd awdurdod lleol yn cael gwybod bod gorchymyn disgyblu neu sancsiwn perthnasol yn erbyn cymeradwywr cofrestredig yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad cychwynnol gael ei ganslo, dylai yn gyntaf wirio nad yw’r cymeradwywr cofrestredig neu’r person sy’n cyflawni'r gwaith eisoes wedi dyroddi hysbysiad canslo.
Os nad oes hysbysiad canslo eisoes wedi’i roi, rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu pa fath o sancsiwn sydd wedi’i gymhwyso i’r cymeradwywr cofrestredig. Bydd y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu yn rhoi gwybod i'r awdurdod lleol, ar ran Gweinidogion Cymru, pa fath o orchymyn disgyblu (neu broses canslo cofrestriad) sy’n gymwys i’r cymeradwywr cofrestredig.
Os nad yw cofrestriad y cymeradwywr cofrestredig wedi’i ganslo, rhaid iddo ddyroddi ‘hysbysiad o'r bwriad i ganslo’ ar gyfer hysbysiadau cychwynnol y cymeradwywr cofrestredig a’r person sy’n cyflawni'r gwaith gan ddefnyddio Ffurflen 12(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024. Ar ôl 7 diwrnod, os nad yw’r hysbysiadau cychwynnol wedi’u canslo gan y cymeradwywr cofrestredig neu’r person sy’n cyflawni'r gwaith, rhaid i’r awdurdod lleol eu canslo gan ddefnyddio Ffurflen 11(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol roi ‘hysbysiad o'r bwriad i ganslo’ os yw’r sancsiwn yn ymwneud â'r ffaith bod cofrestriad y cymeradwywr cofrestredig wedi’i ganslo (boed hynny o ganlyniad i orchymyn disgyblu o dan adran 58U(2)(d) neu o dan adran 58Z6(2) o Ddeddf Adeiladu 1984). Yn yr achos hwn, rhaid i'r hysbysiad cychwynnol gael ei ganslo gan ddefnyddio Ffurflen 11(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Gall yr awdurdod lleol ystyried a ddylid ymchwilio i weld a yw'r cymeradwywr cofrestredig, neu’r person sy’n cyflawni'r gwaith, wedi cyflawni trosedd drwy beidio â chanslo’r hysbysiad cychwynnol (o dan adran 52(4) o Ddeddf Adeiladu 1984).
Pan fydd yr awdurdod lleol yn canslo’r hysbysiad cychwynnol ar gyfer gwaith adeiladu nad yw’n risg uwch, dylai aros o leiaf 7 diwrnod cyn y gellir ystyried bod y gwaith wedi dychwelyd at sylw'r awdurdod lleol. Y cyfnod hwn o 7 diwrnod yw'r cyfnod hwyaf a ganiateir i gymeradwywyr cofrestredig newydd gyflwyno hysbysiad cychwynnol newydd er mwyn trosglwyddo’r gwaith oddi wrth y cymeradwywr cofrestredig gwreiddiol (o dan adran 53(7)(a) a 53(8)(a) o Ddeddf Adeiladu 1984).
Beth yw tystysgrifau trosglwyddo ac adroddiadau trosglwyddo?
Bwriad tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo yw sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn fodlon bod y cymeradwywr cofrestredig 'newydd’ wedi asesu'r gwaith anorffenedig hyd yma o ran cydymffurfiaeth â’r rheoliadau adeiladu cyn cyflawni swyddogaethau rheolaeth adeiladu o dan hysbysiad cychwynnol newydd. Cânt eu disgrifio yn adran 53B o Ddeddf Adeiladu 1984.
Ar gyfer gwaith adeiladu nad yw’n risg uwch, gellir paratoi tystysgrifau ac adroddiadau trosglwyddo a’u rhoi i’r awdurdod lleol os dyroddwyd hysbysiad canslo gan y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael o dan adran 52(1)(a) o Ddeddf Adeiladu 1984 (y llwybr mwyaf cyffredin) neu os oedd y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael yn destun gorchymyn disgyblu perthnasol a chafodd yr hysbysiad cychwynnol ei ganslo ganddo ef neu’r awdurdod lleol (o dan adrannau 52(1)(d) neu (e) ac adrannau 52(5A) o Ddeddf Adeiladu 1984). Yn yr achosion hyn, bydd peidio â pharatoi a chyflwyno tystysgrif ac adroddiad trosglwyddo yn arwain at ddychwelyd y gwaith at sylw'r awdurdod lleol (ni chaiff y gwaith ei drosglwyddo i gymeradwywr cofrestredig arall).
Rhaid i hysbysiad cychwynnol newydd perthnasol hefyd gael ei roi o fewn 7 diwrnod i’r hysbysiad canslo; rhaid iddo ymwneud â'r holl waith gwreiddiol (ac eithrio unrhyw waith sydd wedi cael tystysgrif derfynol a dderbyniwyd) ac ni all fod yn hysbysiad cychwynnol a thystysgrif planiau wedi’u cyfuno.
Rhaid i’r dystysgrif drosglwyddo gadarnhau bod y cymeradwywr cofrestredig ‘newydd’ wedi cadarnhau nad yw’r gwaith anorffenedig hyd at ddyddiad y dystysgrif yn torri unrhyw ddarpariaeth o’r rheoliadau adeiladu. Yn benodol, rhaid iddi gynnwys:
a. Datganiad sy'n disgrifio'r gwaith gwreiddiol a'r gwaith anorffenedig.
b. Datganiad sy'n disgrifio'r holl gamau y mae'r cymeradwywr wedi'u cymryd i gadarnhau a yw'r gwaith anorffenedig yn torri unrhyw ddarpariaeth o'r rheoliadau adeiladu, gan restru'n benodol:
- pob arolygiad neu achos o ddadorchuddio'r gwaith a wnaed
- pob adroddiad ar unrhyw arolygiad neu achos o ddadorchuddio'r gwaith a wnaed
- unrhyw asesiad arall o'r gwaith a ystyriwyd
- datganiad yn nodi enw a chyfeiriad yr arolygydd cofrestredig adeiladu y cafwyd cyngor ganddo cyn rhoi'r dystysgrif drosglwyddo
c. Datganiad, wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan y cymeradwywr, yn cadarnhau'r canlynol:
- bod y cymeradwywr wedi arolygu'r gwaith anorffenedig
- bod y cymeradwywr wedi cadarnhau, fel yr oedd ar ddyddiad y dystysgrif drosglwyddo, nad yw'r gwaith anorffenedig yn torri unrhyw ddarpariaeth o'r rheoliadau adeiladu
- bod pob adroddiad neu asesiad y cyfeirir ato yn y datganiad o dan baragraff (b) wedi’i gynnwys yn yr adroddiad trosglwyddo a roddir o dan adran 53B o Ddeddf 1984
- bod y cymeradwywr wedi cael cyngor gan arolygydd cofrestredig adeiladu cyn rhoi'r dystysgrif drosglwyddo
- bod y cymeradwywr wedi cael cytundeb y person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy’n bwriadu cyflawni'r gwaith) i gyflwyno’r dystysgrif drosglwyddo a’r adroddiad trosglwyddo
Daw'r rhestr uchod o reoliad 20 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Rhaid i’r adroddiad trosglwyddo gael ei baratoi gan y cymeradwywr cofrestredig ‘newydd’ a rhaid iddo gynnwys unrhyw gynlluniau, dogfennau neu wybodaeth arall a ddefnyddiwyd i gadarnhau nad yw'r gwaith anorffenedig (hyd at ddyddiad yr adroddiad) yn torri unrhyw ddarpariaeth o’r rheoliadau adeiladu.
Ar ôl ei chyflwyno, mae gan yr awdurdod lleol 28 diwrnod i dderbyn neu wrthod y dystysgrif drosglwyddo a’r adroddiad trosglwyddo, yn seiliedig ar a ydynt yn cydymffurfio neu beidio â’r rheoliadau adeiladu (o dan reoliad 21 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Gellir ymestyn y cyfnod hwn am gyfnod o 7 diwrnod os bydd yr awdurdod lleol yn gofyn am ragor o wybodaeth gan y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael o fewn 7 diwrnod olaf y cyfnod ystyried o 28 diwrnod (o dan adrannau 53C(4) a 53C(7) o Ddeddf Adeiladu 1984).
Ar ba seiliau y gall awdurdod lleol wrthod tystysgrif drosglwyddo neu adroddiad trosglwyddo?
Amlinellir y seiliau dros wrthod tystysgrif drosglwyddo neu adroddiad trosglwyddo isod (ac maent wedi'u cynnwys yn Atodlen 5 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024).
Y seiliau sydd ar gael i awdurdod lleol wrth wrthod tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo yw:
- Nid yw'r dystysgrif drosglwyddo'n cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol gan reoliad 20 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
- Nid yw'r dystysgrif drosglwyddo neu'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n ofynnol gan Ddeddf Adeiladu 1984, er enghraifft gofynion o dan adran 53B.
- Mae'r awdurdod lleol anghywir wedi'i enwi ar y dystysgrif drosglwyddo, sy'n golygu nad yw unrhyw ran o’r gwaith anorffenedig a ddisgrifir yn y dystysgrif drosglwyddo i’w gyflawni yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
- Yn dilyn canslo’r hysbysiad cychwynnol gwreiddiol, ni chafodd hysbysiad cychwynnol newydd ei ddyroddi gan y cymeradwywr cofrestredig 'newydd' na'i dderbyn gan yr awdurdod lleol cyn i’r dystysgrif drosglwyddo gael ei rhoi.
- O ran y dystysgrif drosglwyddo:
- nid yw wedi'i llofnodi gan y cymeradwywr cofrestredig a ddyroddodd yr hysbysiad cychwynnol newydd
- mae wedi'i llofnodi gan y cymeradwywr cofrestredig a ddyroddodd yr hysbysiad cychwynnol newydd, ond nid yw'n gymeradwywr ar y dyddiad y caiff y dystysgrif drosglwyddo ei gwrthod gan yr awdurdod lleol; neu
- mae wedi'i llofnodi gan y cymeradwywr cofrestredig a ddyroddodd yr hysbysiad cychwynnol newydd, ond nid yw ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifir yn y dystysgrif drosglwyddo
- Nid oedd y person a nodwyd yn y dystysgrif drosglwyddo fel yr arolygydd adeiladau a roddodd gyngor mewn perthynas â’r dystysgrif yn arolygydd adeiladau cofrestredig ar y dyddiad y cyflwynwyd y dystysgrif, neu roedd yn arolygydd cofrestredig adeiladau ar y dyddiad hwnnw ond nid oedd ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifir yn y dystysgrif.
- Mae hysbysiad cychwynnol newydd, cynharach, eisoes wedi’i ddyroddi sy’n cwmpasu unrhyw ran o’r gwaith anorffenedig a ddisgrifir yn yr hysbysiad cychwynnol presennol. Fodd bynnag, nid yw'r sail hon yn gymwys yn yr amgylchiadau canlynol:
- os nad yw'r hysbysiad cychwynnol cynharach mewn grym mwyach, ac nid yw'r awdurdod lleol wedi cymryd unrhyw gam cadarnhaol i oruchwylio'r gwaith a ddisgrifir ynddo; neu
- mae’r hysbysiad cychwynnol presennol yn cael ei ategu gan ymrwymiad gan y cymeradwywr cofrestredig a roddodd yr hysbysiad cychwynnol cynharach, sy’n datgan y bydd yn canslo’r hysbysiad hwnnw cyn gynted ag y bydd yr hysbysiad cychwynnol presennol yn cael ei dderbyn
Fel arall, os oes tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo wedi'u derbyn eisoes gan yr awdurdod lleol.
- Mae’r awdurdod lleol wedi cymryd camau penodol mewn perthynas â’r gwaith anorffenedig, megis dyroddi hysbysiad i gael gwared ar waith neu ei addasu o dan adran 36 o Ddeddf Adeiladu 1984, neu ymateb i gais mewn perthynas â gwaith adeiladu anawdurdodedig o dan reoliad 18 o Reoliadau Adeiladu 2010. Gall camau gweithredu gan yr awdurdod lleol hefyd gynnwys unrhyw gam cadarnhaol i oruchwylio'r gwaith anorffenedig.
- O fewn y cyfnod o 28 diwrnod y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ymateb i’r dystysgrif drosglwyddo a’r adroddiad trosglwyddo, gofynnwyd i’r cymeradwywr cofrestredig ddarparu rhagor o wybodaeth i’r awdurdod lleol, ond methwyd â gwneud hynny o fewn 7 diwrnod i’r cais.
- Ni chyflwynwyd y dystysgrif drosglwyddo na’r adroddiad trosglwyddo cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod ar ôl i’r hysbysiad cychwynnol newydd gan y cymeradwywr cofrestredig ‘newydd’ gael ei dderbyn (neu gyfnod hwy os yw'r awdurdod lleol wedi cytuno ar hynny).
Beth sy'n digwydd pan na fydd awdurdod lleol yn cael tystysgrif neu adroddiad trosglwyddo o fewn y terfyn amser, neu os bydd yr awdurdod lleol yn gwrthod y dystysgrif drosglwyddo?
Os na fydd yr awdurdod lleol yn cael tystysgrif neu adroddiad trosglwyddo o fewn y terfyn amser, neu os bydd yr awdurdod lleol yn gwrthod y dystysgrif drosglwyddo, yna bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol ganslo'r hysbysiad cychwynnol newydd yn unol ag adran 53D o Ddeddf Adeiladu 1984. Rhaid iddo ddefnyddio Ffurflen 16(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 a'i rhoi i'r cymeradwywr cofrestredig a'r person a ddangosir yn yr hysbysiad cychwynnol fel y person sy'n bwriadu gwneud y gwaith.
Beth sy'n digwydd os bydd y person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy’n bwriadu cyflawni'r gwaith) yn canslo hysbysiad cychwynnol newydd pan fydd yr awdurdod lleol yn ystyried tystysgrif drosglwyddo neu adroddiad trosglwyddo?
Ar unrhyw adeg pan fydd yr hysbysiad cychwynnol newydd a’r dystysgrif drosglwyddo a’r adroddiad trosglwyddo yn cael eu hystyried gan yr awdurdod lleol, gall y person sy’n cyflawni neu’n bwriadu cyflawni’r gwaith y mae’r hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef ganslo’r hysbysiad cychwynnol drwy anfon Ffurflen 17(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 i'r awdurdod lleol (ac, os yw'n ymarferol gwneud hynny, at y cymeradwywr cofrestredig).
Mae hysbysiad canslo a ddyroddir gan ddefnyddio Ffurflen 17(W) yn atal hysbysiad cychwynnol newydd rhag cael ei roi wedyn, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, fel a ganlyn:
- mae’r person sy’n cyflawni neu’n bwriadu cyflawni’r gwaith wedi canslo’r hysbysiad cychwynnol o dan adran 53D(3) o Ddeddf 1984 am ei fod yn fodlon na allai'r cymeradwywr gyflawni (neu barhau i gyflawni) ei swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith y mae’r hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef
- rhoddir gorchymyn disgyblu penodedig i’r cymeradwywr yn ystod y cyfnod perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 53B(7) o Ddeddf Adeiladu 1984 a rheoliad 23 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024
Sut y gellir trosglwyddo gwybodaeth o'r cymeradwywr cofrestredig gwreiddiol i'r cymeradwywr cofrestredig newydd?
Er y dylai’r person sy’n cyflawni’r gwaith geisio cael gwybodaeth berthnasol am y prosiect yn wirfoddol gan y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael, efallai na fydd hyn bob amser yn llwyddiannus.
Fodd bynnag, mae adrannau 53(4C) i (4D) o Ddeddf Adeiladu 1984 yn nodi bod y person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy’n bwriadu cyflawni'r gwaith) hefyd yn gallu mynnu bod y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael yn rhannu unrhyw wybodaeth a gafwyd neu a grëwyd mewn perthynas â’r gwaith yn ystod y cyfnod pan oedd yr hysbysiad cychwynnol mewn grym, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y gall fod ei hangen yn rhesymol arno i alluogi rhywun arall i weithredu fel y corff rheolaeth adeiladu ar gyfer y gwaith anorffenedig.
Rhaid i’r cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael ymateb o fewn 21 diwrnod (i ddyddiad y cais gan y person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy’n bwriadu cyflawni'r gwaith)). Nodir hyn yn rheoliad 18 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Gall yr wybodaeth hon, er enghraifft, gynnwys y canlynol (ymhlith pethau eraill):
- cynlluniau
- strategaeth tân
- manylebau
- adroddiadau a chyfrifiadau perthnasol
- asesiadau trydydd parti
- tystysgrif planiau
- tystysgrifau rhan-derfynol
- gohebiaeth, gan gynnwys ymgyngoriadau ag ymgymerwyr statudol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
- cynlluniau arolygu
- cofnodion arolygu
- tystysgrifau dylunio, gosod, profi a chomisiynu
Trosglwyddo prosiectau i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu newydd (heb dystysgrif neu adroddiad trosglwyddo)
Beth sy'n digwydd pan na fydd hysbysiad canslo wedi'i ddyroddi gan gymeradwywr cofrestredig, ond mae'n ymddangos i’r person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy'n bwriadu cyflawni'r gwaith) nad yw’r cymeradwywr cofrestredig bellach yn fodlon neu'n gallu cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith hwnnw?
Yn wahanol i’r llwybrau 'trosglwyddo' a ddisgrifir uchod, nid yw’r llwybr hwn yn cynnwys tystysgrif nac adroddiad trosglwyddo, ac nid oes terfyn amser ar y cyfnod rhwng dyroddi'r hysbysiad canslo a chyflwyno’r hysbysiad cychwynnol newydd. Fodd bynnag, dim ond os mai'r person sy'n cyflawni'r gwaith (neu sy'n bwriadu cyflawni'r gwaith) yw'r person a ddyroddodd yr hysbysiad canslo y mae hyn yn gymwys, a dim ond pan wneir hynny o dan adran 52(3) o Ddeddf Adeiladu 1984 ac adrannau 53(7)(b) a 53(9) o Ddeddf Adeiladu 1984. Disgrifir yr amgylchiadau hyn isod.
Os bydd y person sy’n cyflawni’r gwaith o'r farn bod unrhyw ran o’r gwaith wedi’i chwblhau ac nad oes tystysgrif derfynol wedi’i dyroddi iddo ar gam, dylai gysylltu â’r cymeradwywr cofrestredig ar y cyfle cyntaf (o dan adran 51 o Ddeddf Adeiladu 1984). Dylai’r cymeradwywr cofrestredig roi gwybod i'r person sy’n cyflawni’r gwaith pan fydd wedi gwneud hynny, os nad yw’r gwaith yn torri’r rheoliadau adeiladu.
Pan fydd y person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy’n bwriadu cyflawni'r gwaith) o’r farn nad yw’r cymeradwywr cofrestredig bellach yn fodlon neu’n gallu cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith hwnnw, dylai wedyn ddyroddi hysbysiad canslo i’r awdurdod lleol (gan ddefnyddio Ffurflen 10(W) yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024). Os yw'n ymarferol gwneud hynny, dylai hefyd roi copi o'r hysbysiad i'r cymeradwywr cofrestredig. Nodir hyn yn adran 52(3) o Ddeddf Adeiladu 1984.
Ar ôl i'r hysbysiad canslo gael ei ddyroddi, gall y person sy’n bwriadu gwneud gweddill y gwaith benodi cymeradwywr cofrestredig 'newydd' a all, ar y cyd â’r person sy’n bwriadu gwneud y gwaith, ddyroddi hysbysiad cychwynnol newydd ar gyfer yr holl waith sy’n weddill (nad oedd wedi’i gynnwys ar unrhyw dystysgrif derfynol a ddyroddwyd, lle y bo’n briodol). Nodir hyn yn adrannau 53(7)(b) a 53(9) o Ddeddf Adeiladu 1984.
Rhaid i’r awdurdod lleol wedyn benderfynu a ddylid derbyn yr hysbysiad cychwynnol – bydd ganddo 5 diwrnod gwaith i wrthod yr hysbysiad cychwynnol a gyflwynwyd os oes rheswm dros wneud hynny.
Ar ôl i'r hysbysiad cychwynnol gael ei dderbyn, gall y cymeradwywr cofrestredig newydd ymgymryd â'r swyddogaethau rheolaeth adeiladau mewn perthynas â'r gwaith yn yr hysbysiad cychwynnol newydd.
Sut y gellir trosglwyddo gwybodaeth o'r cymeradwywr cofrestredig gwreiddiol i'r cymeradwywr cofrestredig newydd?
Er y dylai’r person sy’n cyflawni’r gwaith geisio cael gwybodaeth berthnasol am y prosiect yn wirfoddol gan y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael, efallai na fydd hyn bob amser yn llwyddiannus.
Fodd bynnag, mae adrannau 53(4C) i (4D) o Ddeddf Adeiladu 1984 yn nodi bod y person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy’n bwriadu cyflawni'r gwaith) hefyd yn gallu mynnu bod y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael yn rhannu unrhyw wybodaeth a gafwyd neu a grëwyd mewn perthynas â’r gwaith yn ystod y cyfnod pan oedd yr hysbysiad cychwynnol mewn grym, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y gall fod ei hangen yn rhesymol arno i alluogi rhywun arall i weithredu fel y corff rheolaeth adeiladu ar gyfer y gwaith anorffenedig.
Rhaid i’r cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael ymateb o fewn 21 diwrnod (i ddyddiad y cais gan y person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy’n bwriadu cyflawni'r gwaith)). Nodir hyn yn rheoliad 18 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Gall yr wybodaeth hon, er enghraifft, gynnwys y canlynol (ymhlith pethau eraill):
- cynlluniau
- strategaeth tân
- manylebau
- adroddiadau a chyfrifiadau perthnasol
- asesiadau trydydd parti
- tystysgrif planiau
- tystysgrifau rhan-derfynol
- gohebiaeth, gan gynnwys ymgyngoriadau ag ymgymerwyr statudol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
- cynlluniau arolygu
- cofnodion arolygu
- tystysgrifau dylunio, gosod, profi a chomisiynu
Dychwelyd/Trosglwyddo prosiectau i'r awdurdod lleol
Beth sy'n digwydd pan fydd prosiect yn dychwelyd/trosglwyddo i'r awdurdod lleol?
Mae’r awdurdod lleol yn gweithredu fel yr awdurdod rheolaeth adeiladu pan fydd hysbysiad canslo yn cael ei ddyroddi ar gyfer gwaith ac nad oes hysbysiad cychwynnol newydd wedi’i ddyroddi i drosglwyddo goruchwyliaeth dros y gwaith i gymeradwywr cofrestredig 'newydd' (neu lle nad yw'r awdurdod lleol wedi derbyn adroddiad trosglwyddo neu dystysgrif drosglwyddo, fel bod yr hysbysiad cychwynnol newydd yn cael ei ganslo).
Lle y bydd hyn yn digwydd, dylai’r person sy’n cyflawni’r gwaith ddod o hyd i’r awdurdod lleol perthnasol ar-lein a dilyn ei gyfarwyddiadau ar gyfer rhoi gwybod iddo y bydd y prosiect yn trosglwyddo iddo. Cyfeirir at y broses hon yn aml fel 'dychweliad'.
Bydd yr awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog ddarparu’r dogfennau canlynol:
- Cynlluniau, lluniadau, manylebau a dogfennau dylunio perthnasol eraill sy’n ddigonol i ddangos cwmpas y gwaith adeiladu sy’n cael ei wneud ac i ddangos cydymffurfiaeth â rhannau perthnasol Rheoliadau Adeiladu 2010.
- Os oes gan y perchennog dystysgrif planiau a dderbyniwyd gan y person a ddisgrifir fel y cymeradwywr cofrestredig ar yr hysbysiad cychwynnol a ganslwyd, dylid cyflwyno hon gyda’r cais.
- Cofnodion o’r arolygiadau safle a gynhaliwyd gan y person a ddisgrifir fel y cymeradwywr cofrestredig ar yr hysbysiad cychwynnol a ganslwyd, sy’n ddigonol i gadarnhau dyddiadau’r arolygiadau, cam y gwaith, a’r arsylwadau a gofnodwyd mewn perthynas â chydymffurfiaeth â rhannau perthnasol Rheoliadau Adeiladu 2010.
Dylai’r awdurdod lleol wedyn roi gwybod i'r person sy’n cyflawni’r gwaith am ganlyniad ei 'gais am ddychweliad' ar gyfer y prosiect. Noder, nid yw hyn yr un peth â chais cynlluniau llawn.
Sut y gellir trosglwyddo gwybodaeth o'r cymeradwywr cofrestredig gwreiddiol i'r awdurdod lleol pan fydd prosiect wedi dychwelyd iddo?
Rhaid i’r awdurdod lleol roi rhybudd rhesymol i’r person sy’n cyflawni’r gwaith lunio'r canlynol:
- Cynlluniau digonol o’r gwaith sydd wedi’i gyflawni (ac nad yw’n destun tystysgrif derfynol) i ddangos a fyddai unrhyw ran o’r gwaith hwnnw’n torri Rheoliadau Adeiladu 2010.
- Copi o’r cynlluniau o dan unrhyw dystysgrif planiau a roddwyd ac a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol ar gyfer unrhyw ran o’r gwaith.
Pan nad yw’r person sy’n cyflawni’r gwaith wedi cael cofnodion manwl gan y person a ddisgrifir fel y cymeradwywr cofrestredig ar yr hysbysiad cychwynnol, mae gan yr awdurdod lleol y pŵer i orfodi'r cymeradwywr cofrestredig i rannu gwybodaeth ag ef.
Mae adrannau 53(4A) i (4D) o Ddeddf Adeiladu 1984 yn rhoi’r pŵer i’r awdurdod lleol anfon hysbysiad at y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael yn mynnu ei fod yn rhannu gwybodaeth at ddibenion penodol â'r awdurdod lleol a’r person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy’n bwriadu cyflawni'r gwaith). Gall yr awdurdod lleol bennu’r fformat y mae’n rhaid rhannu’r wybodaeth hon ynddo.
Gall hyn gynnwys unrhyw wybodaeth y byddai’r awdurdod lleol wedi ei chael pe bai’r awdurdod lleol wedi cyflawni’r swyddogaeth o orfodi’r rheoliadau adeiladu pan oedd yr hysbysiad cychwynnol mewn grym (mewn perthynas â’r gwaith hwnnw), ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y gall fod ei hangen yn rhesymol ar yr awdurdod lleol.
Gall y person sy’n cyflawni'r gwaith (neu sy’n bwriadu cyflawni'r gwaith) hefyd fynnu bod y cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael yn rhannu unrhyw wybodaeth a gafwyd neu a grëwyd mewn perthynas â’r gwaith yn ystod y cyfnod pan oedd yr hysbysiad cychwynnol mewn grym, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y gall fod ei hangen yn rhesymol arno i alluogi rhywun arall i weithredu fel y corff rheolaeth adeiladu ar gyfer y gwaith anorffenedig.
Yn y ddau achos, rhaid i’r cymeradwywr cofrestredig sy’n gadael ymateb o fewn 21 diwrnod (i ddyddiad hysbysiad yr awdurdod lleol neu'r cais gan y person sy’n cyflawni'r gwaith (neu’n bwriadu cyflawni'r gwaith)). Nodir hyn yn rheoliad 18 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Gall yr wybodaeth hon, er enghraifft, gynnwys y canlynol (ymhlith pethau eraill):
- cynlluniau
- strategaeth tân
- manylebau
- adroddiadau a chyfrifiadau perthnasol
- asesiadau trydydd parti
- tystysgrif planiau
- tystysgrifau rhan-derfynol
- gohebiaeth, gan gynnwys ymgyngoriadau ag ymgymerwyr statudol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
- cynlluniau arolygu
- cofnodion arolygu
- tystysgrifau dylunio, gosod, profi a chomisiynu
Os bydd yr wybodaeth hon yn anghyflawn, neu fel arall yn annigonol, gall yr awdurdod lleol ei chael hi'n anodd penderfynu a yw unrhyw ran o’r gwaith a gyflawnwyd yn torri Rheoliadau Adeiladu 2010. Os felly, gall yr awdurdod lleol ysgrifennu at y person sy’n cyflawni’r gwaith i ofyn iddo dorri i mewn i unrhyw ran o'r gwaith, ei ddadorchuddio, neu ei ddymchwel o fewn cyfnod rhesymol o amser. Gall y cais fod ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n cyflawni'r gwaith.
Gallu'r awdurdod lleol
A all yr awdurdod lleol wrthod prosiect a ddychwelir iddo?
Fel yr awdurdod rheolaeth adeiladu, mae dyletswydd ar awdurdod lleol ac ni all wrthod derbyn prosiect a ddychwelir iddo. Os bydd gan awdurdod lleol bryderon ynghylch ei allu oherwydd nifer y dychweliadau, dylai gysylltu â Llywodraeth Cymru i fynegi ei bryderon. Efallai y bydd hefyd am ystyried cysylltu â Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) a/neu rwydweithiau eraill awdurdodau lleol.
Llywodraeth Cymru
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau, Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol ac awdurdodau lleol i gynnig cyngor a chymorth.
- Os na fydd gan awdurdod lleol y gallu i reoli’r galw arno yn sgil nifer mawr o ddychweliadau annisgwyl, gall Llywodraeth Cymru ystyried a oes unrhyw gymorth ychwanegol y gallai ei ddarparu.
- Gellir cysylltu â Llywodraeth Cymru yn: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau
- Bydd y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol pan fydd cymeradwywr cofrestredig yn cael ei atal dros dro neu ei dynnu oddi ar y gofrestr.
- Os bydd y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau yn gweld y gallai cymeradwywr cofrestredig fod yn wynebu trafferthion, gall ymyrryd a mynnu bod y cymeradwywr cofrestredig yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r meysydd sy'n peri pryder. Byddai hefyd yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru. Dim ond pe bai trafferthion y cymeradwywr cofrestredig yn gysylltiedig â goruchwyliaeth y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau dros y cymeradwywr cofrestredig ar ran Gweinidogion Cymru y byddai hyn yn berthnasol. Bydd unrhyw fater arall sy’n codi y tu allan i’r swyddogaethau y mae’r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau yn eu cyflawni ar ran Gweinidogion Cymru yn rhywbeth i’r awdurdod rheoleiddio weithredu yn ei gylch.
- Os bydd y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau yn dod yn ymwybodol o fwriad cymeradwywr cofrestredig i ymadael â’r farchnad, gall gymryd camau i sicrhau bod hyn yn digwydd mor ddidrafferth â phosibl, megis ei gwneud yn ofynnol i’r cymeradwywr cofrestredig roi gwybod i'w gleientiaid am y sefyllfa, a thynnu sylw at yr opsiynau ar gyfer y modd y gellir trosglwyddo’r prosiect, a hynny cyn gynted â phosibl.
- Defnyddiwch y dudalen hon i Gysylltu â'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau.
Gall Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC Cymru) wneud y canlynol
- Cydgysylltu â Llywodraeth Cymru, y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
- Asesu gallu awdurdodau lleol yng Nghymru i ymgymryd â gwaith ychwanegol.
- Asesu pa wybodaeth y bydd ei hangen gan gymeradwywr cofrestredig.
- Asesu ym mha fformat y mae'r wybodaeth a nodi a yw ei systemau TG yn gydnaws er mwyn hwyluso'r broses o drosglwyddo data.
- Asesu a all awdurdodau eraill yng Nghymru roi benthyg adnoddau lle bo angen.
- Rhoi cyngor ar brosesau i fynd i'r afael â gwaith nad yw'n cydymffurfio.
Sut y gall awdurdodau lleol fod yn fodlon bod prosiect a ddychwelir yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu?
Cyfrifoldeb llwyr y person sy'n cyflawni'r gwaith yw sicrhau bod gwaith adeiladu yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Adeiladu.
Gall awdurdodau lleol sy’n cael dychweliadau gan gymeradwywyr cofrestredig benderfynu mabwysiadu dull penodol, pragmatig, sy’n seiliedig ar risg o reoleiddio gwaith adeiladu sydd eisoes wedi’i arolygu gan gymeradwywr cofrestredig, lle nad ydynt yn ymwybodol o unrhyw achos o dorri'r rheoliadau.
Bydd gan awdurdodau lleol drefniadau ar waith i Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig asesu cynlluniau, arolygu gwaith adeiladu, a rhoi cyngor ynghylch a ddylid rhoi tystysgrif cwblhau. Bydd proses y dychweliad fel arfer yn dilyn yr un safonau a gweithgarwch gwirio ac asesu â phrosiectau eraill, lle y bo hynny'n ymarferol ac yn bosibl.
Fodd bynnag, gall y broses o reoleiddio gwaith adeiladu sydd wedi'i ddychwelyd i'r awdurdod lleol oddi wrth gymeradwywr cofrestredig greu her o ran effeithlonrwydd yn ogystal â her reoliadol. Mae'n bwysig bod pawb sy'n ymwneud â phrosiectau yn cydnabod hyn ac yn cefnogi'r awdurdod lleol drwy ddarparu gwybodaeth ac ymgysylltu'n gadarnhaol. Mae'n bosibl y bydd gwaith wedi'i gwblhau a'i orchuddio'n flaenorol ac na fydd ar gael i'w arolygu heb waith helaeth ac aflonyddgar. Mae'n bosibl na fydd tystysgrif planiau ar gael ac y bydd yr awdurdod lleol am gynnal asesiad rheoleiddiol o'r prosiect, a bodloni ei hun ynghylch cydymffurfiaeth y gwaith a wnaed o dan yr hysbysiad cychwynnol a ganslwyd.
Efallai na fyddai’n ddull rheoliadol cymesur i awdurdod lleol fynnu bod gwaith adeiladu, sydd eisoes wedi bod yn destun arolygiad a phroses reoleiddio gan gymeradwywr cofrestredig, yn cael ei agor heb dystiolaeth o risg. Yn yr amgylchiadau hyn, gallai dull cymesur a seiliedig ar risg gynnwys nodi a chofnodi gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau a'i orchuddio heb fynnu ei fod yn cael ei ddadorchuddio er mwyn ei arolygu. Gallai'r penderfyniad gael ei lywio gan wybodaeth a gyflwynwyd gan y cymeradwywr cofrestredig, neu eraill sy'n ymwneud â'r gwaith adeiladu. Dylai penderfyniadau i beidio ag arolygu fod yn rhesymol, yn rhesymegol a chael eu cofnodi, ac ni ddylent effeithio ar y penderfyniad i roi tystysgrif cwblhau.
Efallai y bydd yr awdurdod lleol am flaenoriaethu gweithgarwch yn seiliedig ar risg yn ymwneud â chydymffurfiaeth â'r rheoliadau adeiladu. Gallai fod yn rhesymol blaenoriaethu prosiectau sydd ar fin dod i ben megis tai newydd, ysbytai, ac ati a'r prosiectau hynny sydd wedi cyrraedd cam arolygu.
Sut y gall awdurdodau lleol rannu gallu pan fyddant yn cael nifer mawr o ddychweliadau?
Byddai Llywodraeth Cymru yn fodlon trafod opsiynau ag unrhyw awdurdod yr effeithir arno yn ogystal â Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC Cymru) lle y ceir materion acíwt sy'n ymwneud â gallu.
Mae adrannau 101 i 103 ac adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adrannau 19 ac 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a rheoliadau cyfatebol 6 i 12 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, yn darparu llwybrau cyfreithiol sy’n galluogi awdurdodau lleol i gydweithio i rannu gallu a darparu cymorth i'w gilydd lle y bo’n briodol.
Cyd-bwyllgorau
Gall awdurdodau lleol sefydlu cyd-bwyllgorau aml-awdurdod, y gallant eu defnyddio i rannu adnodd cyfun yn ôl yr angen, gyda’r trefniadau cyllido wedi'u cytuno arnynt yn nhrefniadau cyfansoddol y pwyllgor. Er eu bod yn aml yn cael eu defnyddio ar gyfer ‘gwasanaethau a rennir’ yn unig, gall awdurdodau lleol eu defnyddio hefyd i ddarparu gwasanaethau i’w haelodau eu hunain ac i gyrff cyhoeddus eraill (am dâl).
Cyflawni swyddogaethau
Gall awdurdodau lleol ddirprwyo swyddogaethau i awdurdodau lleol eraill drwy gytundeb (yn amodol ar ddarpariaethau sydd wedi'u cynnwys mewn deddfwriaethau eraill). Yr awdurdod sy'n dirprwyo sy'n dal i fod yn gyfrifol yn y pen draw am arfer y swyddogaethau a ddirprwywyd. Mae hyn yn llwybr arall a ddefnyddir fel dewis arall yn lle trefniadau cyd-bwyllgor.
Rhannu swyddogion
Mae adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn caniatáu i awdurdod lleol ymrwymo i gytundeb ag awdurdod lleol arall i roi swyddog at ei wasanaeth at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau, hynny yw, ei secondio dros dro i’r awdurdod sy’n derbyn. Gall hyn fod yn briodol i awdurdodau lle ceir problemau byrdymor yn ymwneud â gallu ac mae gan awdurdod arall y gallu i gynorthwyo'r awdurdod sydd mewn angen.
