Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Gweinidog Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Ceisiwyd cytundeb gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, y Farwnes Hayman o Ullock i wneud Rheoliadau Deddf y Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Eithriadau o Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad Trapiau Glud) 2025. Mae'r Rheoliadau yn ymestyn i Gymru a Lloegr, Gogledd Iwerddon, a'r Alban.

Roedd Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn gwahardd defnyddio trapiau glud yng Nghymru. Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylid gwneud y gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru,  dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol sydd â'r pŵer perthnasol o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 i wneud y Rheoliadau.

Mae'r Rheoliadau yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (UKIMA) a byddant yn eithrio gwerthu trapiau glud o'r egwyddorion mynediad i'r farchnad yn y Ddeddf. Mae hyn yn golygu na fydd yr egwyddorion mynediad i'r farchnad yn berthnasol i, nac yn effeithio ar weithrediad unrhyw ddeddfwriaeth i'r graddau y mae'n gwahardd gwerthu trapiau glud mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

Yn unol ag UKIMA, cysylltodd Gweinidog Lles Anifeiliaid a Bioddiogelwch y DU, â Gweinidogion yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru am gydsyniad i gymhwyso'r rheoliadau hyn i bob un o wledydd y DU. Mae hyn yn dilyn cais gan Weinidogion yr Alban am waharddiad o UKIMA er mwyn i'r gwaharddiad ar ddefnyddio trapiau glud yn yr Alban ymestyn i gynnwys gwaharddiad ar gyflenwi.

Mae'r Rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol, a disgwylir iddynt gael eu gosod gerbron Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2025. Nid yw'r Rheoliadau yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd na chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

Nid yw'r Rheoliadau ar hyn o bryd yn effeithio ar ein polisïau na'n gweithrediadau yng Nghymru. Gan nad oes unrhyw dystiolaeth wedi'i chyflwyno ar ôl dwy flynedd sy'n awgrymu nad yw'r gwaharddiad ar ddefnyddio trapiau glud yn ddigonol, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ehangu'r gwaharddiad yng Nghymru i gynnwys gwerthu. Pe bai tystiolaeth yn cael ei gyflwyno, fodd bynnag, bod angen ymestyn y gwaharddiad i gynnwys gwerthu, gyda'r eithriad ar waith, ni fyddai unrhyw rwystrau yn deillio o UKIMA. Yn ystyried y buddion posibl i Gymru, rwy'n fodlon ar yr achlysur hwn i roi caniatâd i'r rheoliadau gael eu gwneud yn Senedd y DU.

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n rhoi'r manylion am darddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma: 

The United Kingdom Internal Market Act 2020 (Exclusions from Market Access Principles: Glue Traps) Regulations 2025 (Saesneg yn Unig)