Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion y polisi

Effaith pa benderfyniad ydych chi’n asesu?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau a chyfleoedd plant a phobl anabl yng Nghymru. Byddwn yn gwneud Cymru yn genedl gynhwysol a hygyrch lle gall plant a phobl anabl gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd Cymru, heb gyfyngiadau na gwahaniaethu. Bydd y weledigaeth hon yn cael ei gwireddu drwy gyflawni Cynllun Hawliau Pobl Anabl 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, sy'n nodi dull cynhwysfawr o chwalu rhwystrau, hyrwyddo cydraddoldeb, a chefnogi pobl anabl i gyrraedd eu llawn botensial.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc

Sefydlwyd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl dan arweiniad y Gweinidog yn dilyn adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19. Daeth y Tasglu â phobl â phrofiad bywyd, Swyddogion Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioladol at ei gilydd i nodi’r problemau a’r rhwystrau sy’n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl yng Nghymru. 

Sefydlwyd ‘Gweithgor Plant a Phobl Ifanc’ i glywed gan sefydliadau sy’n gweithio’n agos gyda phlant a phobl ifanc anabl, yn ogystal ag adborth uniongyrchol gan bobl ifanc anabl. Ar ben hynny, cynhaliodd y Tasglu weithdy ar gyfer rhieni / gofalwyr plant anabl i glywed eu safbwyntiau.

 Er mwyn cyfrannu'n well at allbynnau'r gweithgor Plant a Phobl Ifanc, ymgysylltodd tîm y Tasglu Hawliau Pobl Anabl â sampl o ysgolion gwirfoddol:

  • Ysgol Tŷ Coch: ysgol arbennig i blant 3 i 19 oed ym Mhontypridd.
  • Ysgol y Deri: ysgol arbennig i blant 3 i 19 oed ym Mhenarth.
  • Ysgol Greenfields: ysgol arbennig i blant 3 i 19 oed ym Merthyr Tudful i gasglu safbwyntiau plant a phobl ifanc eu hunain ar anabledd a namau.

Yn ogystal, trefnodd y Tasglu ddigwyddiad ar y cyd â’r mudiad Plant yng Nghymru a’u Fforwm Cymru Ifanc , i gasglu safbwyntiau plant a phobl ifanc ar gynhwysedd a mynediad i blant anabl. Ar ben hynny, cynhaliodd y Gweithgor Plant a Phobl Ifanc drafodaeth gyda rhieni / gofalwyr i glywed profiadau bywyd gan y rheini nad oedd eu plant yn gallu cymryd rhan, i eirioli ar eu rhan ac i ddeall eu profiadau bywyd fel gofalwyr.

Cynhaliwyd gweithdy yn canolbwyntio ar lesiant pobl anabl. Roedd hyn yn cynnwys pynciau fel mynediad at ddiwylliant a chwaraeon. Daeth dros 100 o aelodau i’r gweithdy llesiant.

Mae un o gadeiryddion y Gweithgor Plant a Phobl Ifanc yn berson ifanc anabl. Gwnaed y penderfyniad hwn i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl ifanc anabl yn cael eu clywed a’u cynrychioli’n ystyrlon.

Mae’r Tasglu argymhellion wedi cael ei ddefnyddio i lywio camau gweithredu a chanlyniadau'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl Drafft. Bydd yr argymhellion hyn yn parhau i fod yn adnodd pwysig y gall Llywodraeth Cymru ddychwelyd ato yn y dyfodol i nodi ei chamau gweithredu tymor canolig i hirdymor er mwyn cyflawni’r uchelgais a’r canlyniadau ar gyfer plant a phobl anabl.

Dechreuodd yr Ymgynghoriad ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft ar 15 Mai 2025 ac fe ddaeth i ben ar 7 Awst 2025. Edrychodd y dadansoddiad ar draws pob un o gwestiynau ac atebion yr ymgynghoriad i dynnu sylw at feysydd cyffredinol o gonsensws, pryder a blaenoriaeth.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, gwnaethom gynnal nifer o weithdai. Roedd ein gwaith ymgysylltu'n cynnwys grwpiau ffocws wedi'u comisiynu dan arweiniad y canlynol:

  • Pobl yn Gyntaf Cymru
  • Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
  • Fforwm Golwg Cymru: Cŵn Tywys Cymru a Cyngor Cymru i’r Deillion
  • Fy Mywyd, Fy Llais: Celfyddydau Anabledd Cymru ac Autistic UK
  • Plant yng Nghymru
  • Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
  • Anabledd Cymru

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i’r cynigion.

Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn neu brotocolau opsiynau sy'n ymwneud â'n deddfwriaeth arfaethedig

Erthyglau 1, 2, 3, 4, 5 a 6

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i’r erthyglau hyn wrth fwrw ymlaen â’r cynigion polisi. Bydd y camau gweithredu yn y cynllun hwn yn sicrhau bod pobl ifanc anabl yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 12

Fe wnaethom gomisiynu'r mudiad 'Plant yng Nghymru' i ganfod barn a dymuniadau plant a phobl ifanc anabl, gan ystyried safbwyntiau rhieni a gofalwyr ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl ar yr un pryd.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 13

Bydd y Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cael ei gyhoeddi mewn amrywiaeth o fersiynau hygyrch gan gynnwys fersiynau addas i blant a phobl ifanc, hawdd eu darllen, Braille, Cymraeg a Sain Cymraeg a Saesneg. Byddwn hefyd yn cyhoeddi'r Cynllun yn Gymraeg ac yn Iaith Arwyddion Prydain.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 15

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant a mynediad i blant anabl yn ystod eu blynyddoedd cynnar a thrwy gydol eu bywyd ysgol, ac yn hanfodol er mwyn iddynt gyflawni eu potensial. Mae'r Cynllun hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i blant anabl, o'u plentyndod ymlaen, allu cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden hygyrch lleol ochr yn ochr â'u cyfoedion.

Mae’r Cynllun yn cydnabod bod cynnwys plant a gadael iddynt gymryd rhan yn gynnar yn sicrhau bod plant yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn a hunan-werth, sy’n sylfaenol ar gyfer eu datblygiad cyffredinol. Mae cael cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae gyda'u cyfoedion yn hanfodol i ddatblygiad plant anabl.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 18

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn mynd i'r afael â gwybodaeth a chamwybodaeth drwy ddarparu data, dadansoddiadau a thystiolaeth glir ynghylch sut mae plant ac oedolion anabl yn cael eu heffeithio'n anghymesur mewn meysydd fel addysg, cyflogaeth ac incwm.

Wrth galon ein dull gweithredu mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy'n canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach na namau. Mae’r Model yn rhoi’r cyfrifoldeb ar gymdeithas, gan alw am gael gwared ar rwystrau: strwythurol, diwylliannol a gwahaniaethu, sy’n cyfyngu ar gyfranogiad pobl anabl. Drwy herio’r safbwyntiau hyn, gall cymdeithas ddangos nad rhywbeth negyddol yw bod â na neu wahaniaeth, a bod cymdeithas a chymunedau’n gryfach ac yn fwy cydlynol gydag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys plant a phobl anabl. Mae’r model hwn yn grymuso pobl anabl i arfer eu hawliau ac yn dathlu eu hamrywiaeth a’u cyfraniadau.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 19

Mae’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cydnabod pa mor bwysig yw gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i wella’r ddarpariaeth o lety hygyrch i bobl anabl, eu gofalwyr a’u plant wrth ffoi rhag trais.

Mae’r Cynllun hefyd yn nodi canlyniad tymor hir i sicrhau bod gan bobl anabl sy’n ddioddefwyr/goroeswyr trais, cam-drin rhywiol a cham-drin domestig fynediad at wasanaethau ymatebol a chroestoriadol, o ansawdd uchel, sy’n cael eu harwain gan anghenion ac sy’n seiliedig ar gryfderau ledled Cymru.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 23

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn ystyried anghenion plant anabl drwy ganolbwyntio ar gynhwysiant, hygyrchedd a chyfranogiad drwy gydol eu blynyddoedd cynnar, eu cyfnod yn yr ysgol a'u haddysg ôl-16. 

Mae'r Cynllun hwn yn cydnabod ei bod yn bwysig bod plant anabl yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden lleol gyda'u cyfoedion ac mae'n cefnogi mynediad at gyfarpar a chyfarwyddyd hanfodol. 

Hyrwyddir mynediad teg at ofal iechyd a gwasanaethau cymorth, gyda monitro rheolaidd i addasu i anghenion plant. 

Ar ben hynny, mae'r cynllun yn eirioli dros gymorth ariannol a mesurau i wella safonau byw, gyda'r nod o wella llesiant plant anabl a'u teuluoedd. Mae'r camau hyn, gyda'i gilydd, yn cefnogi anghenion ac annibyniaeth plant anabl.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 24

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu plant anabl wrth geisio cael gafael ar wasanaethau iechyd. Mae'r Cynllun yn pwysleisio pwysigrwydd darpariaeth gofal iechyd deg, gan sicrhau bod plant anabl yn cael mynediad amserol at gymorth meddygol, therapïau a gwybodaeth iechyd briodol. Drwy hyrwyddo arferion cynhwysol yn y GIG ac annog cydweithio â theuluoedd, ysgolion ac awdurdodau lleol, nod y Cynllun yw gwella canlyniadau iechyd a lleihau gwahaniaethau ar gyfer plant anabl. 

Ar ben hynny, mae'n eirioli dros fonitro a gwerthuso hygyrchedd gofal iechyd yn rheolaidd i sicrhau bod anghenion plant anabl yn cael eu diwallu'n gyson a bod gwasanaethau'n esblygu mewn ymateb i'w hadborth.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 26

Bydd cyllid ar gyfer y Cynllun hwn yn cael ei brif ffrydio ar draws meysydd polisi; Cynllun trawslywodraethol yw hwn.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 27

Mae Llywodraeth Cymru, drwy'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, wedi ymrwymo i wella safon byw plant anabl a theuluoedd. Mae'r Cynllun yn cydnabod bod plant anabl a'u teuluoedd yn aml yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth geisio cael gafael ar dai, addysg a chymorth cymdeithasol digonol. Mae'n amlinellu camau gweithredu sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn drwy sicrhau bod plant ac oedolion anabl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas, gan eirioli dros wasanaethau hygyrch a chymorth ariannol lle bo angen. Mae'r mesurau hyn wedi'u cynllunio i sicrhau lles plant anabl. 

Statws: Gwelliannau

Erthygl 28 a 29

Mae nifer o gamau gweithredu yn y cynllun sy’n cefnogi dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc anabl, gyda’r nod o sicrhau bod plant anabl yn gallu cyflawni eu potensial yn llawn.

Statws: Gwelliannau

Erthygl 31

Mae gan bob plentyn hawl i ymlacio a chwarae ac ymuno mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cydnabod bod cynhwysiant a mynediad i blant anabl yn ystod eu blynyddoedd cynnar, wrth chwarae a thrwy gydol eu bywyd ysgol, yn hanfodol er mwyn iddynt gyflawni eu potensial. Mae cynnwys plant a gadael iddynt gymryd rhan yn gynnar yn sicrhau bod plant yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn a hunan-werth, sy’n sylfaenol ar gyfer eu datblygiad cyffredinol.

Statws: Gwelliannau

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Gan ddefnyddio’r dystiolaeth rydych wedi’i chasglu, pa effaith mae'ch polisi’n debygol o’i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?

Mae’r effaith ddisgwyliedig ar blant a phobl ifanc anabl yn gadarnhaol iawn. Mae'r camau gweithredu arfaethedig wedi'u cynllunio i leihau ymyleiddio a meithrin mwy o gynhwysiant i blant anabl ar draws pob agwedd ar eu bywydau. Drwy wella mynediad at dai, addysg, gofal iechyd, trafnidiaeth a gweithgareddau cymdeithasol, nod y Cynllun yw sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl yn cael eu cefnogi'n llawn i gymryd rhan mewn cymdeithas. Bydd y mesurau hyn yn helpu i chwalu rhwystrau, gwella eu hymdeimlad o berthyn a hunan-werth, a hyrwyddo cyfle cyfartal, gan alluogi plant anabl i gyflawni eu potensial llawn.

Sut mae'ch cynnig yn gwella neu’n herio hawliau plant, fel y nodir yn erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Dewisol? Trowch at yr erthyglau i weld pa rai sy’n berthnasol i’ch polisi eich hun

Adran G: plant ag anableddau

Nod y Cynllun Hawliau Pobl Anabl yw sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl yn cael cymorth drwy bob cam o'u bywyd, gan ddechrau o'u genedigaeth a'r blynyddoedd cynnar, a pharhau i fod yn oedolion.

Mae'r cynllun hwn yn cyfeirio'n benodol at hawliau plant anabl, gan nodi ymrwymiadau i gymorth personol, addysg gynhwysol, a chyfranogiad gweithredol ym mywyd y gymuned. Mae'n hyrwyddo peidio â gwahaniaethu, cynlluniau gwrth-fwlio, ac mae wedi’i gynllunio i sicrhau bod lleisiau plant anabl yn cael eu clywed wrth ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau. Bydd gan blant a phobl ifanc rôl yn dylanwadu ar y Bwrdd Cynghori Allanol. 

Mae camau gweithredu tymor byr y Cynllun ar gyfer plant anabl yn cynnwys sicrhau bod sefydliadau trafnidiaeth yn ymgynghori'n rheolaidd â nhw a'u gofalwyr; datblygu cynllun gweithlu addysg sy'n mynd i'r afael â bylchau, yn enwedig mewn rolau arbenigol; diweddaru canllawiau ar ofal iechyd, presenoldeb, ymddygiad a gwaharddiadau i adlewyrchu anghenion plant anabl; ac annog trefnwyr digwyddiadau i wella mynediad ar gyfer plant ac oedolion anabl.

Adran H: iechyd a lles sylfaenol 

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn amlinellu strategaeth drawslywodraethol 10 mlynedd i sicrhau bod plant ac oedolion anabl yn ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru. Nod y Cynllun yw creu cymdeithas heb wahaniaethu, gan fynd i'r afael â bwlio ac agweddau niweidiol drwy hyrwyddo dealltwriaeth o hawliau a phrofiadau pobl anabl ar draws pob sector. Byddwn yn gweithio gyda grwpiau cynghori a rhanddeiliaid i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu cynrychioli a'u clywed.

Mae’r Cynllun hwn wedi’i strwythuro yn erbyn pedwar maes gweithredu cyffredinol, sy’n cyd-fynd ag un o’r saith Nod Llesiant Cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):

  • Cymdogaeth, lleoedd a thrafnidiaeth
  • Cyflogaeth, incwm ac addysg
  • Byw'n annibynnol, iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol

Ar gyfer pob un o’r pedwar maes, mae’r cynllun hwn yn nodi ein canlyniadau lefel uchel cyffredinol a’r canlyniadau mwy manwl rydym am eu cyflawni dros y deng mlynedd nesaf. 

Mae adran Byw'n Annibynnol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynllun yn dangos ymrwymiad cryf i gefnogi plant anabl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy flaenoriaethu gofal cydlynol, amserol a hygyrch. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd tynnu rhwystrau, boed hynny'n rwystrau ffisegol, sefydliadol neu agweddol, i sicrhau bod plant anabl yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau iawn heb oedi, yn enwedig wrth bontio rhwng darparwyr neu wrth i'w hanghenion newid gydag oedran. Mae'r ffocws ar leoliadau gofal hygyrch yn golygu bod plant yn cael cymorth mewn amgylcheddau sydd wedi'u teilwra i'w gofynion, gan hyrwyddo ymreolaeth a dewis i blant a'u teuluoedd.

Ar ben hynny, mae'r Cynllun yn pwysleisio cynnwys pobl anabl a'u gofalwyr yn y gwaith o lunio polisïau gofal, gan sicrhau bod gwasanaethau'n adlewyrchu eu profiadau bywyd ac yn diwallu eu hanghenion amrywiol. Drwy arfogi darparwyr gofal â'r wybodaeth a'r adnoddau i ddeall a chynnal hawliau plant anabl, a thrwy hyrwyddo cyfathrebu clir a hygyrch, mae'r Cynllun yn ceisio lleihau anghydraddoldebau a meithrin gofal mwy cynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gofalwyr di-dâl plant ac oedolion anabl hefyd yn cael eu cydnabod fel partneriaid pwysig, gydag ymrwymiadau clir i werthfawrogi eu cyfraniadau a sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chymorth.

Adran I: addysg

Mae maes 'Cyflogaeth, Incwm ac Addysg' y Cynllun yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi plant anabl a'u hawl i gael mynediad cyfartal at addysg. Ei nod yw mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc mewn lleoliadau addysg drwy hyrwyddo amgylcheddau dysgu cynhwysol a sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i ddiwallu anghenion unigol. Ar ben hynny, mae'r cynllun yn pwysleisio cydweithio ag ysgolion, teuluoedd ac asiantaethau perthnasol i feithrin cyfranogiad, cyflawniad a llesiant ymysg plant anabl.

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod anghenion addysg ac iechyd plant a phobl ifanc anabl yn cael eu nodi a'u diwallu wrth ddatblygu polisïau. Mae'n eirioli dros gynnwys dysgwyr anabl a staff yn y gwaith o lunio polisi addysg drwy ddull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau, gan sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed wrth gynllunio a darparu cymorth ar draws lleoliadau addysg.

Mae'r Cynllun hwn hefyd yn tynnu sylw at yr angen i ddarparwyr addysg gael yr adnoddau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i wreiddio hawliau dysgwyr anabl, gan gynnwys recriwtio staff anabl a darparu hyfforddiant ac offer arbenigol. Mae'r Cynllun yn pwysleisio'r angen am amgylcheddau dysgu cynhwysol, hygyrch a rheoledig, a phontio effeithiol i addysg bellach ac uwch.

Monitro ac adolygu

Er mwyn sicrhau goruchwyliaeth gadarn ac arweiniad ystyrlon drwy gydol y gwaith o weithredu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, byddwn yn sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol dylanwadol ac annibynnol. Bydd y Bwrdd hwn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio cyfeiriad, monitro cynnydd, a chynyddu effaith y Cynllun, gan weithredu fel cyswllt hanfodol rhwng plant ac oedolion anabl, llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau. 

Daw aelodau'r Bwrdd Cynghori Allanol o amrywiaeth eang o unigolion, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o anabledd a chynrychiolwyr allweddol o sefydliadau pobl anabl, a rhanddeiliaid perthnasol eraill ledled Cymru. Bydd y dull cynhwysol hwn yn sicrhau bod y Bwrdd yn adlewyrchu ehangder y profiad a'r arbenigedd sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r materion cymhleth ac esblygol sy'n wynebu plant ac oedolion anabl mewn cymdeithas.

Bydd y Bwrdd yn cael ei sefydlu yn 2026 a bydd yn gweithredu yn unol ag egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd, gan sicrhau bod yr holl drafodaethau ac argymhellion yn seiliedig ar realiti bywydau plant ac oedolion anabl. 

Cyngor i weinidogion a’u penderfyniad

Nododd swyddogion yn yr Is-adran gynigion ynghylch datblygu'r Cynllun Diwygiedig mewn cyflwyniad i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip â'r dull gweithredu cyffredinol.

Mae dros 350 o unigolion, gan gynnwys plant a phobl ifanc, wedi rhoi o'u hamser i siarad â ni a'n helpu i ddeall beth sydd angen i ni ei flaenoriaethu. Cynhaliwyd ymgynghoriad 12 wythnos llawn ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl, a ddaeth i ben ar 7 Awst 2025. Gwahoddwyd ymatebion drwy dudalen we yn ogystal ag yn uniongyrchol i'r Tîm Polisi perthnasol naill ai drwy e-bost neu drwy'r post. Cafodd crynodeb o’r ddogfen ymatebion ei gyhoeddi ar 30 Hydref 2025.

Cytunodd y Gweinidog i fersiwn derfynol o'r Cynllun ar 31 Hydref 2025. Cymeradwyodd Cabinet Llywodraeth Cymru y Cynllun i'w gyhoeddi ar 17 Tachwedd 2025. Cyhoeddwyd Cynllun Hawliau Pobl Anabl terfynol Cymru, ynghyd â'i Ddogfen Weithredu, ar 15 Rhagfyr 2025.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Fe wnaethom baratoi fersiwn 'Addas i Bobl Ifanc' o'r Cynllun ar gyfer ymgynghoriad a'i rannu â'r holl sefydliadau a oedd yn cefnogi ymgysylltu cyn yr ymgynghoriad â phlant a phobl ifanc anabl.

Byddwn yn cyhoeddi fersiwn Addas i Bobl Ifanc o'r cynllun terfynol ac yn ei hyrwyddo mewn ffordd debyg. Rydym yn ystyried ffyrdd eraill o gyfathrebu â phlant a phobl ifanc am y cynllun ei hun ac am y gwaith i'w gyflawni. Mae hyn yn cynnwys meddwl am sianeli cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau fformat hygyrch.

Monitro ac adolygu

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl wedi cael ei lunio gan blant a phobl ifanc anabl, teuluoedd a mudiadau sydd wedi rhoi o'u hamser i'n helpu ni i ddeall beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddyn nhw. Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r ffordd hon o weithio wrth i ni gyflawni'r cynllun diwygiedig.

Byddwn yn sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol i ddarparu cyngor a chymorth ynghylch gweithredu a chyflawni’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Mae Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi sut y bydd yn gwerthuso'r broses o roi'r cynllun ar waith ac yn monitro cynnydd tuag at ei ganlyniadau. Mae'r dull hwn wedi cael ei ddylunio i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd drwy gydol y Cynllun, ac i helpu i nodi meysydd i'w gwella ar bob cam o'r ddarpariaeth. Mae’r Cynllun hwn yn weledigaeth deg-mlynedd, sy’n ymateb i’r hyn rydym ni’n ei ddysgu dros amser. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phobl anabl a’u sefydliadau, yn ogystal â phartneriaid eraill, i fonitro ac adolygu ein camau gweithredu a’n heffaith.

Byddwn hefyd yn gofyn am gyngor i'n helpu i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau o gynnwys yn uniongyrchol plant a phobl ifanc anabl sydd â phrofiad bywyd i'n helpu i ddeall a ydym ni a'n partneriaid yn gwneud cynnydd wrth gyflawni'r cynllun. Yn bwysicaf oll, i'n helpu i ddeall a yw'r gwaith a gyflawnir dan y cynllun yn hyrwyddo hawliau a chanlyniadau i blant a phobl ifanc anabl.

Bydd Adroddiad Cynnydd nesaf y Cynllun Hawliau Pobl Anabl ar gael yn 2026 i 2027. Byddwn hefyd yn ystyried y dulliau gorau o gyfleu ein cynnydd i blant a phobl ifanc.