Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035: asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Asesiad o’r effaith ar y Gymraeg mewn perthynas â’n cynllun i wella hawliau pobl anabl sy’n byw yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025-2035 yn dangos ymrwymiad cryf i gefnogi pobl anabl yng Nghymru drwy hyrwyddo cyfathrebu hygyrch a gwasanaethau cynhwysol. Drwy'r strategaeth Cymraeg 2050 a'r cynllun Mwy na Geiriau, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod rhyngblethedd iaith ac anabledd, gan bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Drwy gysoni'r blaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg â Safonau Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch Cymru Gyfan, mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg anabl yn gallu cael gafael ar wasanaethau hanfodol heb wynebu rhwystrau ychwanegol. Mae egwyddor y Cynnig Rhagweithiol, sy'n rhoi'r cyfrifoldeb ar ddarparwyr i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, yn cael gwared ar rwystrau pellach i unigolion anabl, gan ganiatáu iddynt ddefnyddio eu hiaith yn hyderus ac yn gyfforddus.
Mae datganiad polisi Llywodraeth Cymru ar dechnoleg Cymraeg a diweddariadau parhaus i derminoleg Gymraeg yn adlewyrchu dull rhagweithiol o ymdrin â chynhwysiant. Drwy fuddsoddi mewn technoleg sy'n cefnogi'r Gymraeg, yn enwedig mewn adnoddau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer pobl anabl, a thrwy gynnal terminoleg gyfredol, safonol, mae'r Llywodraeth yn hwyluso mwy o gyfranogiad gan bobl anabl mewn addysg, cyflogaeth a gweithgareddau diwylliannol. Mae'r ffocws hwn ar hygyrchedd yn ymestyn i leoliadau a digwyddiadau cyfrwng Cymraeg, gan sicrhau bod gweithgareddau a gwyliau diwylliannol yn groesawgar ac yn gynhwysol i bawb. Yn gyffredinol, mae'r mesurau hyn wedi'u cynllunio i feithrin cydraddoldeb, grymuso siaradwyr Cymraeg anabl, a helpu i greu cymdeithas fwy cydlynol ac amrywiol yng Nghymru.
Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i’r strategaeth newydd, gyda’r targed o filiwn o siaradwyr wedi’i gynnwys yn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae iaith Gymraeg ffyniannus hefyd wedi’i chynnwys yn un o’r 7 nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae gennym hefyd rwymedigaeth statudol i ystyried yn llawn effeithiau ein gwaith ar y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru ystyried sut mae ein polisïau’n effeithio ar yr iaith a’r rheini sy’n ei siarad.
Mae tair thema gydgysylltiedig i strategaeth Cymraeg 2050:
Thema 1: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
- Trosglwyddo iaith o fewn y teulu
- Y blynyddoedd cynnar
- Addysg statudol
- Addysg ôl-orfodol
- Y gweithlu addysg, adnoddau a chymwysterau
Thema 2: cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
- Y gweithle
- Gwasanaethau
- Defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg
Thema 3: creu amodau ffafriol (seilwaith a chyd-destun)
- Cymuned a’r economi
- Diwylliant a’r cyfryngau
- Cymru a’r byd ehangach
- Technoleg ddigidol
- Seilwaith ieithyddol
- Cynllunio ieithyddol
- Gwerthuso ac ymchwil
Bydd ein Cynllun Hawliau Pobl Anabl a’n camau gweithredu yn gwella mynediad at hyfforddiant a chyflogaeth ym mhob rhan o Gymru ar gyfer pobl anabl. Bydd pobl anabl sy’n byw mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan mewn bywyd gwaith yn eu cymunedau eu hunain, i ffynnu ac i helpu i sicrhau bod eu cymunedau’n parhau’n weithgar ac yn fywiog.
Drwy weithio’n agos gyda swyddogion polisi Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, bydd ein camau gweithredu yn cefnogi pobl anabl sy’n siarad Cymraeg i gael gafael ar dechnoleg a gwybodaeth ar-lein yn yr iaith o’u dewis.
Bydd y Cynllun ar gael mewn nifer o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg. Bydd safbwyntiau siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol ar y Gymraeg yn cyfrannu at gamau gweithredu a nodau penodol sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn y Cynllun, er y bydd nodau a chamau gweithredu ar draws nifer o'r meysydd polisi gwahanol yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg.
Rydym wedi cydweithio â sefydliadau Cymraeg eu hiaith i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb a chasglu adborth gwerthfawr. Mae’r dull hwn yn galluogi pobl anabl, a allai fod wedi methu â bod yn bresennol yn ein sesiynau gweithgor, i adolygu dogfennau ymgynghori a rhannu eu persbectif. Mae hefyd yn rhoi mewnwelediadau uniongyrchol i ni gan bobl anabl sy’n siarad Cymraeg yn ardaloedd gwledig Cymru.
Sut bydd y cynnig yn effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)?
Bydd y Cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr Cymraeg.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori, fe wnaethom gynnal cyfarfodydd gyda phobl ifanc anabl o wahanol gefndiroedd, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg, i gasglu eu hadborth ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Byddwn yn parhau i sicrhau bod terminoleg briodol a chyfredol yn bodoli yn y Gymraeg. Diweddarwyd terminoleg safonol Gymraeg yn y maes hwn, fel y'i cyhoeddwyd yng nghronfa dermau ar-lein TermCymru Llywodraeth Cymru a phorth terminoleg Porth Termau gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, yn ddiweddar yn unol â'r Model Cymdeithasol o Anabledd. Bydd parhau i brif ffrydio'r fframwaith hwn yn helpu i sicrhau cysondeb ac ymwybyddiaeth o'r termau hyn. Bydd terminoleg Gymraeg yn y maes hwn yn parhau i gael ei diweddaru'n rhagweithiol i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Nid oes unrhyw effaith negyddol amlwg ar y Gymraeg wedi’i nodi.
Sut bydd y cynnig yn effeithio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)? (ee iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, yr amgylchedd, llywodraeth leol ac ati)
Nod Strategaeth y Gymraeg yw cynyddu ystod y gwasanaethau a gynigir i siaradwyr Cymraeg, a gweld cynnydd yn y gwasanaethau Cymraeg a ddefnyddir.
Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd ar gyfer technoleg i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg a gwneud iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy hygyrch yn unol â’n blaenoriaethau yn Mwy na geiriau.
Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio i sicrhau bod meddalwedd gynorthwyol Gymraeg briodol, gan gynnwys adnabod llais a synthesis dwyieithog, ar gael yn rhwydd i’w gwneud yn haws i bobl anabl ddefnyddio eu Cymraeg. Drwy ei Chynllun Gweithredu Technoleg Iaith Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu adnodd technegol arloesol i gefnogi siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais oherwydd cyflyrau iechyd fel Clefyd Niwronau Motor neu ganser y gwddf. Mae ‘Lleisiwr’ yn caniatáu i unigolion ‘fancio’ eu lleisiau a chreu llais synthetig personol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i flaenoriaethu gwella mynediad at dechnoleg Gymraeg, gan gynnwys ar gyfer pobl ag anghenion penodol. Yn benodol, gweithio i helpu pawb i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg mewn adnoddau lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei chefnogi i'r graddau y mae angen iddi fod, a hefyd i nodi bylchau a chynnig data ac adnoddau i ysgogi cwmnïau i gefnogi'r Gymraeg.
Gwasanaethau
Sut byddwch chi’n sicrhau bod pobl yn gwybod am wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg a’u bod yn gallu cael gafael arnynt a’u defnyddio mor hawdd ag y gallant yn Saesneg? Pa dystiolaeth / data ydych chi wedi’u defnyddio fel sail i’ch asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau buddiant Cymraeg?
Bydd camau gweithredu o’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cefnogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg mewn adnoddau lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei chefnogi i’r graddau y mae angen iddi fod, e.e. mewn meddalwedd benodol ar gyfer pobl anabl.
Bydd adborth a gwybodaeth y Bwrdd Cynghori Allanol, yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd a’r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn fecanwaith ar gyfer canmol darpariaeth ac effaith y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
