Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ganlyniadau ei astudiaeth o'r farchnad fformiwla babanod. Roedd wedi canolbwyntio ar ddiffyg cystadleuaeth effeithiol yn y farchnad honno, ac effeithiau negyddol y diffyg hwnnw ar ddewis y defnyddiwr, fforddiadwyedd, a gallu rhieni i gael gwybodaeth glir a diduedd. Roedd ei adroddiad terfynol yn cynnwys 11 o argymhellion i bedair llywodraeth y DU eu hystyried.

Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ymateb y pedair gwlad i argymhellion yr Awdurdod. Mae'r ymateb hwnnw’n ffrwyth cydweithio rhwng pob un o bedair gwlad y DU i ystyried pa fesurau sydd – ac a fydd – y mesurau mwyaf effeithiol a'r mwyaf priodol ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau yn y farchnad fformiwla babanod sydd wedi eu nodi gan yr Awdurdod.

Nod Llywodraeth Cymru yw helpu teuluoedd i roi'r dechrau gorau i'w plant, p'un a ydyn nhw'n dewis bwydo ar y fron neu fwydo fformiwla. Rydym yn gwybod bod bwydo ar y fron yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau'r iechyd a datblygiad gorau posibl i blant, ac mae hefyd dystiolaeth sy’n dangos ei fod yn dod â buddion i’r fam. Fodd bynnag, i'r rheini nad ydynt yn gallu bwydo ar y fron neu sy'n dewis peidio â gwneud hynny, mae fformiwla babanod yn gynnyrch hanfodol. Mae'n hollbwysig felly bod teuluoedd yn gallu cael gwybodaeth ffeithiol gywir am yr opsiynau sydd ar gael iddynt, er mwyn iddynt allu gwneud dewis cytbwys am yr hyn sydd orau iddyn nhw a'u plentyn. 

Er mwyn ategu'r mesurau sydd ar waith eisoes i gefnogi teuluoedd a mynd i'r afael â'r materion y mae'r Awdurdod wedi'u nodi yn ei adroddiad ar y farchnad, mae ein hymateb ar y cyd heddiw yn nodi ymrwymiad i fwrw ymlaen â phecyn o fesurau anneddfwriaethol ar draws pedair gwlad y DU. Mae'r mesurau hynny'n canolbwyntio ar helpu rhieni i wneud penderfyniadau mwy cytbwys ynghylch bwydo babanod drwy sicrhau bod gwybodaeth gynhwysfawr a hygyrch ar gael, gan gynnwys mewn lleoliadau gofal iechyd. Trwy gryfhau'r prosesau gorfodi presennol a gweithio gyda manwerthwyr, daw yn haws cymharu cynnyrch, gan ysgogi cystadleuaeth rhwng brandiau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu'r mesurau hyn. Byddwn yn monitro ac yn gwerthuso effeithiau ein camau gweithredu, gan ystyried lle y gallai fod angen cymryd camau pellach yn y dyfodol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i’r holl blant a'u teuluoedd.