Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi mynegi ei 'bryder dwfn' am benderfyniad a wnaed gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) i leihau dau wasanaeth Avanti sy'n effeithio ar Ogledd Cymru a'r goroau yn ei newid amserlen ym mis Rhagfyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn llythyr at Brif Weithredwr yr ORR, dywedodd Mr Skates:

Mae lleihau’r gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol Avanti rhwng Caer ac Euston yn Llunain a'r gwasanaeth dydd Sul rhwng Caergybi ac Euston yn siomedig iawn i deithwyr yng Ngogledd Cymru. Mae cysylltedd dibynadwy yn hanfodol i Ogledd Cymru – nid yn unig i drigolion a busnesau ond hefyd ar gyfer cynnal twf economaidd a denu buddsoddiad.

Bydd dileu'r gwasanaeth uniongyrchol 19:32 o Gaer yn effeithio'n sylweddol ar amseroedd teithio a chyfleustra, gan greu rhwystrau i gymudwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd a chosb cyfnewidfa ddwbl i deithwyr o Ogledd Cymru.

Mae perygl i'r newid hwn danseilio cystadleurwydd rhanbarthol ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd trawsffiniol. Mae'r gwasanaeth o Gaergybi i Euston yn gyswllt hanfodol sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr yng Ngogledd Cymru.

Aeth ymlaen i annog yr ORR i ailystyried eu penderfyniad a gweithio'n agos gyda gweithredwyr i gynnal y gwasanaethau hyn i sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i fod wedi'i gysylltu'n dda â rhwydwaith y DU.