Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil defnyddwyr gyda beicwyr, gan archwilio eu hanghenion wrth gymryd seibiannau beicio a gwyliau.

Penderfynu ar y gyrchfan a dylanwad digwyddiadau

Mae penderfynu lle i fynd ar drip beicio yn gymhleth. Fel arfer, mae beicwyr yn cael syniadau o amryw ffynonellau. Mae nifer ohonynt (72%) yn dweud eu bod yn gwneud ymchwil ar Google neu wefannau eraill. Ond, at ei gilydd, efallai eu bod eisoes yn gwybod i le maent eisiau mynd cyn teipio rhywbeth i mewn i beiriant chwilio. Fel arfer, mae’r chwiliad yn canfod lleoliad penodol ar sail syniad sydd ganddynt ymlaen llaw. 

Efallai fod y brif ysbrydoliaeth yn datblygu dros gyfnod hir, o ganlyniad i weld cyrchfannau’n cael eu hyrwyddo, neu glywed am brofiadau pobl eraill. Mae dwy ran o dair (66%) ohonynt yn dweud eu bod yn defnyddio argymhellion gan ffrindiau neu aelodau teulu. Mae dau o bob pump (40%) yn dweud eu bod yn dychwelyd i leoedd y maent yn gyfarwydd â nhw eisoes.

Blaenoriaethau o ran llwybrau beicio a gwasanaethau

‘Golygfeydd atyniadol’ yw’r nodwedd fwyaf hanfodol o ran llwybrau beicio ym marn bron pob grŵp o ymatebwyr, a hynny yn ôl pwrpas tripiau, math y partïon, oedran a rhywedd, gyda dwy ran o dair (66%) yn dweud bod hyn yn ‘hanfodol’. Yr unig eithriad yw bod teuluoedd, a’r rheiny a oedd yn dweud nad beicio oedd prif bwrpas y trip, o’r farn bod ‘llwybrau heb draffig modurol’ (os nad oeddent yn beicio ar y ffordd) yr un mor bwysig.

Llwybrau i feiciau mynydd

O ran llwybrau, y brif flaenoriaeth i feicwyr mynydd yw rhai sy’n cael eu ‘chynnal a chadw i aros ar agor yn gyfan gwbl, heb unrhyw rwystrau neu wyriadau’, a nodwyd bod hyn yn ‘hanfodol’ gan 56% o’r ymatebwyr. Dilynir hyn gan ‘lwybrau heriol’, y mae 46% yn ystyried eu bod yn ‘hanfodol’.

Gwasanaethau sy’n flaenoriaeth (pob math o feicwyr)

‘Teimlo eich bod yn cael eich croesawu fel beiciwr’ yw’r prif ateb ym mhob grŵp o ymatebwyr. Mae tri o bob pump (60%) yn ystyried bod hyn yn ‘hanfodol’. Mae beicwyr yn amlygu sawl ystyr allweddol o ran ‘teimlo eich bod yn cael eich croesawu’:

  • Cael parch gan ddefnyddwyr eraill sy’n defnyddio ffyrdd neu lwybrau
  • Gweld bod darparwyr gwasanaeth mewn ardal wedi paratoi i ddiwallu anghenion beicwyr
  • Gweld agwedd gyfeillgar tuag at feicwyr ymhlith y boblogaeth leol 

Mae ‘llety gyda man storio dan do diogel i feiciau’ yn cael ei ystyried yn ‘hanfodol’ gan bron i hanner (45%) y beicwyr, ac mae ‘caffis gyda mannau i gadw beic yn ddiogel’ yn cael ei ystyried yn ‘hanfodol’ gan 39% ohonynt.

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Twristiaeth

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.