Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Lynne Neagle AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Vikki Howells AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Jeremy Miles AS
  • Ken Skates AS
  • Julie James AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
  • Luke Young, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
  • Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Nia James, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Peter Ryland, Prif Weithredwr WEFO (eitem 5)
  • Steve Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr WEFO (eitem 5)
  • Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol (eitem 6)
  • Keith Reid, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (eitem 6)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 9 Hydref 2025.

1.2 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 13 Hydref 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cyfarfod y Cabinet ym Merthyr Tudful

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn adeilad y Llywodraeth ym Merthyr Tudful. Byddai aelodau'r Cabinet - rhai ohonynt yn teithio yno ar y trên - yn cynnal nifer o ymweliadau lleol cyn y cyfarfod.

Ymweliad â Synagog Unedig Caerdydd

2.2 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i roi adborth i'r Cabinet ar ei hymweliad â Synagog Unedig Caerdydd y diwrnod cynt.

2.3 Roedd hwn yn ddigwyddiad 'cwrdd a chyfarch' i wella dealltwriaeth o sut yr oedd y gymuned Iddewig yng Nghaerdydd a Chymru yn teimlo wedi'r ymosodiadau a ddigwyddodd yn Synagog Heaton Park ym Manceinion. Y nod oedd helpu llunwyr polisi i ddeall y pryderon.

2.4 Roedd amrywiaeth eang o fynychwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig lleol, Heddlu De Cymru, gan gynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, academyddion, a chynrychiolydd o Fwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain.

2.5 Ymhlith y pynciau a godwyd oedd y cynnydd mewn gwrth-semitiaeth, a sut i fynd i'r afael ag ef, ochr yn ochr â sicrhau diogelwch y gymuned Iddewig yng Nghymru, yn sgil ymosodiad Heaton Park. Fe wnaethant hefyd drafod materion sydd wedi codi mewn ysgolion a phrifysgolion yng Nghymru, mynediad at wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, a'r ffordd orau o gefnogi dyfodol y gymuned Iddewig yng Nghymru.

2.6 Cydnabu'r Cabinet yr angen i sicrhau cydlyniant cymdeithasol.

Buddsoddiad Llywodraeth y DU mewn Ynni Gwyrdd

2.7 Croesawodd y Prif Weinidog y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU am fuddsoddi mewn ynni glân. Roedd hyn yn hwb sylweddol i uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector, drwy greu 15,000 o swyddi newydd yng Nghymru, a datblygu sgiliau newydd hanfodol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:25pm ddydd Mawrth a thua 6:10pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Diweddariadau Llafar – dyfodol gwasanaethau amgylchedd hanesyddol cenedlaethol yng Nghymru

4.1 Rhoddodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ddiweddariad i'r Cabinet ar ddyfodol gwasanaethau amgylchedd hanesyddol cenedlaethol yng Nghymru.

4.2 Mae'r adolygiad o'r berthynas rhwng Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn deillio o'r Adolygiad o Drefniadau Lywodraethu Cadw ym mis Rhagfyr 2023, ac ymateb ffurfiol y Llywodraeth o fis Mehefin 2024.

4.3 Roedd y Comisiwn Brenhinol yn un o dri a sefydlwyd ym 1908, un yr un ar gyfer Cymru, yr Alban, a Lloegr. Roedd yr adolygiad yn un o nifer dros y blynyddoedd a fu'n edrych ar y berthynas rhwng y Comisiynau hyn a'r corff amgylchedd hanesyddol cenedlaethol perthnasol. Yn yr Alban a Lloegr roedd y Comisiynau Brenhinol eisoes wedi'u cyfuno â'u cyrff amgylchedd hanesyddol cenedlaethol perthnasol - y ddau yn gweithredu'n annibynnol ar y Llywodraeth.

4.4 Ar ddiwedd 2024, sefydlwyd gweithgor, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Comisiwn Brenhinol, Cadw, yr Undebau Llafur perthnasol, ac arbenigwr treftadaeth annibynnol. Ystyriodd y grŵp dri opsiwn, sef parhau â'r trefniadau presennol, cydweithredu strategol agosach, ac uno Cadw a'r Comisiwn Brenhinol yn llawn o fewn y Llywodraeth.

4.5 Daeth adroddiad y grŵp, a gwblhawyd ym mis Awst 2025, i'r casgliad y gallai uno ddarparu manteision hirdymor i'r sector ac i bobl Cymru.

4.6 Yn y cyfamser, byddai Cadw a'r Comisiwn Brenhinol yn parhau i gydweithio ar feysydd gwaith allweddol, gan gynnwys enwau lleoedd hanesyddol, yr arolwg a'r cofnodion, ac ymdrechion ar y cyd i ddarparu'r sicrwydd ychwanegol a geisir gan y Comisiynwyr.

4.7 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

Eitem 5: Adolygiad Cymorth Busnes CAB(25-26)09

5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi adroddiad yr Adolygiad Cymorth Busnes mewnol a chymeradwyo'r argymhellion cryno.

5.2 Roedd yr adolygiad wedi nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau ar unwaith heb fawr o aflonyddwch, gan sicrhau bod y gefnogaeth yn cyd-fynd â blaenoriaethau economaidd y Llywodraeth.

5.3 Cafodd yr adolygiad ei gefnogi gan OB3 Research Ltd, drwy gynnal cyfweliadau, dilysu data, ac ymgysylltu â phartneriaid allweddol fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.

5.4 Tynnodd ar nifer o adroddiadau gwerthuso, gan gynnwys Fframwaith Gwerthuso Cymorth Busnes BEIS, adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gynlluniau cymorth busnes, a mewnwelediadau gan Gomisiynydd y Gymraeg, Dirnad Economi Cymru, Prifysgol Caerdydd, a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Roedd hefyd yn adeiladu ar waith mewn perthynas ag AI a chynhyrchiant busnesau bach a chanolig, gan ategu gwaith Llywodraeth Cymru ar Ddiwydiant Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, a Thrydan Gwyrdd Cymru.

5.5 Roedd gallu'r Llywodraeth i addasu, gweithio mewn partneriaeth, ac effaith gadarnhaol ar dwf ac arloesedd busnesau'n gryfderau clir a oedd wedi eu nodi yn yr adolygiad. Ystyriwyd bod Busnes Cymru yn siop un stop ddibynadwy, sy'n hygyrch iawn i entrepreneuriaid newydd a rhai anodd eu cyrraedd, gyda boddhad cleientiaid o 84%, yn enwedig o ran y cyngor arbenigol a diduedd a ddarparwyd gan gynghorwyr.

5.6 Cyfrannodd Cronfa Fusnes Cymru at 58% o dwf cyflogaeth â chymorth, ac roedd y Rhaglen Cyflymu Twf yn cyflawni bron pob amcan o ran creu swyddi. Roedd busnesau a gefnogir wedi mwy na dyblu'r gyfradd goroesi pedair blynedd, o'u cymharu â'r gyfradd ar gyfer busnesau heb gymorth. Yn ogystal, roedd rhaglenni grant wedi cyflawni enillion gwerth ychwanegol gros sylweddol a gwella cynaliadwyedd ariannol, trosiant, a chreu swyddi.

5.7 Cynhyrchodd Busnes Cymru hyd at £18 mewn gwerth ychwanegol gros am bob £1 a fuddsoddwyd, gyda rhaglenni cymorth allforio yn cynhyrchu £20 am bob £1 a wariwyd. Roedd y Rhaglen Cyflymu Twf yn arbennig o effeithlon o ran creu swyddi.

5.8 Fodd bynnag, tynnodd yr adolygiad sylw hefyd at feysydd i'w gwella, gan gynnwys yr angen am strategaeth gliriach a symleiddio'r ecosystem cymorth busnes, a oedd ar hyn o bryd yn cynnwys llawer o bartneriaid ac a allai fod yn ddryslyd i fusnesau.

5.9 Roedd y cynigion yn cynnwys cynnal seminarau i ddod â darparwyr at ei gilydd, canolbwynt ar-lein "dim drws anghywir", cefnogaeth bwrpasol i fuddsoddwyr mawr, a fframweithiau data a pherfformiad gwell.

5.10 Croesawodd y Cabinet y papur.

5.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 6: Diweddariad Llafar – Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol

6.1 Croesawodd y Prif Weinidog Isabel Oliver, y Prif Swyddog Meddygol, a Keith Reid, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, i gyfarfod y Cabinet, a'u gwahodd i gyflwyno eu hadroddiad ar gyfer 2024-2025.

6.2 Cyflwynodd yr Athro Oliver amlinelliad o'r adroddiad eleni, 'Myfyrio ar Ein Hiechyd', gan ddiolch i'r Prif Swyddog Meddygol blaenorol, Syr Frank Atherton, a oedd wedi paratoi'r drafft gwreiddiol. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar fanteision atal, a'r angen i wthio newidiadau cadarnhaol yn eu blaen ym maes iechyd y genedl ar lefel gymdeithasol ac unigol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol ei chefnogaeth i'r argymhellion, ac roedd hefyd wedi cynnwys atodiad yn nodi ei barn a'i safbwynt.

6.3 Amlinellodd Dr. Reid thema'r adroddiad yn gyffredinol, gyda phennod un yn canolbwyntio ar iechyd y genedl a demograffeg. Roedd yna duedd bellach i weld gostyngiad yn y disgwyliad oes iach, ac o ganlyniad roedd pobl yn byw gyda salwch am gyfnodau hirach. Roedd hyn yn effeithio'n arbennig ar fenywod, ac roedd graddiant cymdeithasol amlwg mewn perthynas â'r disgwyliad oes iach. Er bod 75% o farwolaethau cynamserol yn rhai y gellid eu hosgoi, parhau i gynyddu yr oedd marwolaethau o’r fath o achos cyffuriau, alcohol a hunanladdiad. Roedd graddiant cymdeithasol ar gyfer yr holl ffactorau risg ar gyfer iechyd gwael. Roedd gordewdra mamau ar ei uchaf erioed, gan effeithio ar un o bob tair menyw, ac yn ogystal â hynny roedd un o bob saith menyw feichiog yn ysmygu. Roedd y gostyngiad mewn cyfraddau ysmygu ymysg oedolion wedi dod i stop, ond er bod data mwy diweddar yn awgrymu bod y duedd hanesyddol ar i lawr wedi ailddechrau, roedd fepio'n cynyddu ac wedi ymsefydlu fel arferiad ymysg pobl ifanc.

6.4 Roedd rhai arwyddion cadarnhaol, megis gwell lefel o foddhad bywyd ymysg pobl ifanc, er bod nifer yn adrodd eu bod yn dioddef anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. Roedd yna hefyd faterion yn ymwneud â gweithgarwch corfforol a maeth, a dirywiad mewn ymddygiad iach. Roedd y cynnydd mewn plant a phobl ifanc sy'n defnyddio fêps yn destun pryder yn arbennig, gyda dau o bob pump yn fepio'n rheolaidd. Ar ben hynny, mae 3% o'r holl bobl ifanc 11-16 oed yn dweud eu bod yn ysmygu o leiaf unwaith yr wythnos.

6.5 Atal oedd thema ganolog pennod dau, a oedd yn archwilio sut roedd disgwyliad oes iach yn gostwng, yr effaith ar y Gwasanaeth Iechyd, a'r ymyriadau a allai wneud y gwahaniaeth mwyaf, megis mynd i'r afael â gordewdra, ysmygu, a buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar. Daeth yr adroddiad i ben gydag achos cryf sy'n seiliedig ar dystiolaeth dros fuddsoddiad newydd ac argymhellion clir ar gyfer gweithredu.

6.6 Roedd y drydedd bennod yn canolbwyntio ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd nifer y staff wedi bod yn cynyddu mewn ymateb i'r galw ychwanegol, ond roedd patrymau gweithio yn newid, ac roedd angen gweithlu mwy cynaliadwy a hyblyg. Roedd angen buddsoddi mewn gwasanaethau digidol ac atal.

6.7 Nododd y Prif Swyddog Meddygol fod gan Gymru sylfeini cadarn, gan gynnwys polisïau blaengar, ymrwymiadau o ran atal a thegwch, a diwylliant o gydweithio. Gyda'r rhain, ynghyd ag arloesi, gweithredu effeithiol, a datblygu methodoleg ddilys i sicrhau buddsoddiad parhaus mewn gwell canlyniadau iechyd, roedd modd cyflawni'r nod o wneud Cymru yn wlad iachach a thecach.

6.8 Croesawodd aelodau'r Cabinet yr adroddiad, gan gofnodi eu diolch i'r Prif Swyddog Meddygol, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, a'r Prif Swyddog Meddygol blaenorol, Syr Frank Atherton.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2025