Neidio i'r prif gynnwy

Croeso a chyflwyniadau

Agorodd y cadeirydd y cyfarfod eithriadol hwn gyda'r bwriad o gymeradwyo rhaglen waith Cymru gyfan a chytuno ar ddull gweithredu fesul cam.  Bydd y rhaglen waith i'w chyflwyno i Fforwm Gwydnwch Cymru i'w llofnodi ym mis Rhagfyr.

Rhannodd y cadeirydd ei ystyriaethau o'r tywydd diweddar a'r effeithiau dinistriol yn ystod Storm Claudia, a rhoddwyd trosolwg i'r bartneriaeth o newidiadau staff o fewn Llywodraeth Cymru.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod cywir o'r trafodion.

Rhaglen waith Cymru gyfan ac is-grwpiau gweithredol

Yn dilyn y cyfarfod diwethaf, ffurfiwyd gweithgor (o aelodaeth y Bartneriaeth) i adolygu’r rhaglen waith.  Hefyd, casglwyd adborth gan yr aelodaeth ehangach. Datblygwyd rhaglen ddiwygiedig, a oedd yn cefnogi'r blaenoriaethau tymor byr a rhai blaenoriaethau tymor canolig a nodir yng nghynllun cyflawni Fframwaith Gwydnwch Cymru.

Ar ôl cytuno bod strwythur is-grŵp gweithredol yn fodel addas, hyblyg ar gyfer cyflawni gweithredol, nodwyd cyfres o is-grwpiau a grwpiau gorchwyl a gorffen fel mecanwaith ar gyfer cyflawni'r rhaglen waith.

Gofynnwyd i aelodau'r bartneriaeth ystyried sut y gallent gefnogi a chyfrannu at gyflawni'r rhaglen waith.

Penderfyniad: Cafwyd cytundeb unfrydol ar y rhaglen gyffredinol gyda rhai newidiadau bach, a fyddai'n cael eu cyflwyno yn Fforwm Gwydnwch Cymru i'w cymeradwyo'n derfynol ar 18 Rhagfyr 2025.

Camau nesaf

Gofynnwyd i aelodau'r bartneriaeth rannu manylion y rhaglen waith yn eu sefydliadau a'u rhwydweithiau i roi gwybod i eraill am weithgareddau'r Bartneriaeth.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Mae'r cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar 12 Chwefror 2026.