Cronfa Ffyniant Gyffredin: adroddiad arolwg gwersi a ddysgwyd
Canfyddiadau o'n harolwg ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gwersi o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru: dealltwriaeth i lywio buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol
Mae'r crynodeb hwn yn rhannu dealltwriaeth o arolwg Llywodraeth Cymru ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a ddisodlodd Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd (UE). Bydd canfyddiadau'r arolwg, ynghyd â chanfyddiadau ein hymgynghoriad ar y Gronfa Twf Lleol i Gymru (mis Tachwedd i fis Rhagfyr 2025), profiadau o raglenni cyllid blaenorol ac arferion gorau rhyngwladol ar fuddsoddi rhanbarthol, yn llywio'r broses o lunio Cronfa Twf Lleol Cymru i'w lansio o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Cefndir y polisi
Roedd Cronfeydd Strwythurol yr UE yn offerynnau ariannol wedi'u cynllunio i leihau gwahaniaethau rhanbarthol ledled yr UE drwy gefnogi datblygu economaidd, seilwaith, cyflogaeth a chynhwysiant cymdeithasol. Yng Nghymru, roedd y cronfeydd hyn yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, ac roeddent yn chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi rhaglenni adfywio a sgiliau, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n wynebu heriau economaidd.
Yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) â'r UE, datblygodd Llywodraethau olynol y DU (2019 i 2024) y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn lle Cronfeydd Strwythurol yr UE. Nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin oedd sicrhau chwarae teg ar gyfer cymunedau ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn blaenoriaethau lleol fel cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol a gwella sgiliau pobl.
Gwerth y Gronfa Ffyniant Gyffredin i Gymru rhwng 2022 a 2025 oedd £585 miliwn. Roedd Llywodraeth y DU yn dyrannu'r cyllid hwn yn uniongyrchol i awdurdodau lleol (ALlau), sy'n gyfrifol am reoli cyflawni ar lefel leol a rhanbarthol. Roedd hyn yn wahanol i'r ffordd roedd Cronfeydd Strwythurol blaenorol yr UE yn cael eu rheoli, a oedd yn cael eu rheoli yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y Gronfa Ffyniant Gyffredin ei hestyn am gyfnod pontio o flwyddyn gan Lywodraeth bresennol y DU, cyn cyflwyno rhaglen fuddsoddi ranbarthol newydd arfaethedig y bwriedir ei lansio ym mis Ebrill 2026.
Nodau, amcanion a dull gweithredu
Mae'r prosiect hwn yn rhan o ymarfer dysgu polisi ehangach wedi'i gynllunio i lywio Cronfa Twf Lleol newydd yng Nghymru.
Prif amcan y prosiect oedd cynnal ymarfer ymgysylltu i gasglu adborth ar y Gronfa gan randdeiliaid. Casglwyd adborth drwy arolwg ar-lein a gynhaliwyd ar blatfform SmartSurvey, a oedd ar agor 10 Ebrill i 9 Mai 2025. I ddechrau rhannwyd yr arolwg ag aelodau o'r Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, ac wedyn cafodd ei rannu â'r sectorau a'r rhwydweithiau y maent yn eu cynrychioli.
Roedd yr arolwg yn gofyn i ymatebwyr feddwl am:
- fanteision a chryfderau'r Gronfa
- meysydd lle y gellid gwella'r Gronfa
- meysydd â blaenoriaeth a mathau o weithgareddau yr hoffai ymatebwyr eu gweld yn cael eu cefnogi drwy unrhyw raglen buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol
- pa mor dda mae'r Gronfa yn cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ('y Ddeddf Llesiant')
Daeth cyfanswm o 155 o ymatebion i law. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys:
- cynrychiolwyr ALlau
- sefydliadau a oedd wedi derbyn cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin
- sefydliadau a oedd wedi gwneud cais aflwyddiannus am gyllid y Gronfa
Mae'r crynodeb hwn yn cyflwyno'r prif sylwadau o'r adborth a ddaeth i law.
Manteision a chryfderau'r Gronfa
Roedd manteision a nodweddion cadarnhaol y Gronfa a nodwyd gan ymatebwyr yn cynnwys:
Mynediad i gyllid
Roedd llawer o ymatebwyr yn gwerthfawrogi'r ffaith bod cyllid ar gael yn gyffredinol, a'r amrediad o weithgareddau a oedd yn bosibl o ganlyniad i'r cyllid, megis cymorth ariannol i fusnesau lleol, darparu gweithgareddau hamdden, diwylliannol ac addysg, a recriwtio a chadw staff.
Atgyfnerthu cysylltiadau lleol
Nododd rhai berthynas well rhwng ALlau sy'n gweinyddu'r Gronfa a'r grwpiau cymunedol a'r busnesau a oedd yn elwa ar y Gronfa.
Gwneud penderfyniadau yn lleol
Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod dyrannu cyllid ar lefel awdurdod lleol yn helpu i sicrhau bod y cyflawni yn cyd-fynd yn well ag anghenion lleol.
Hyblygrwydd wrth gyflawni
Nododd rhai fod modd addasu'r Gronfa, gan alluogi gwariant i gael ei deilwra yn ôl anghenion y prosiect.
Cyllid cyfalaf a refeniw
Nododd rhai fod y ffaith bod cyllid cyfalaf a chyllid refeniw yn gryfder, gan ganiatáu i gymysgedd o brosiectau gael eu cefnogi.
Cefnogi gweithio mewn partneriaeth
Nododd rhai ymatebwyr y cyfleoedd wedi'u creu gan y Gronfa ar gyfer cydweithio, o fewn ac ar draws ALlau, a rhwng ALlau, sefydliadau a ariennir, a rhanddeiliaid eraill.
Y broses ymgeisio a chymorth
Dwedodd rhai ymatebwyr fod y broses ymgeisio yn glir ac yn syml; yn benodol, yn ôl nifer fach o ymatebwyr, o'i chymharu â chynlluniau cyllid blaenorol yr UE. Roedd rhai ymatebwyr yn gwerthfawrogi'r cymorth wedi'i roi gan swyddogion y Gronfa drwy gydol y broses.
Meysydd i'w gwella yn y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Tynnwyd ymatebwyr sylw at nifer o agweddau ar y Gronfa y gellid eu gwella:
Y baich gweinyddol
Roedd llawer yn teimlo bod y Gronfa yn cynnwys gormod o weinyddu y gellid ei leihau, er enghraifft ym meysydd monitro, adrodd ac archwilio. Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys symleiddio'r broses ymgeisio.
Prosesau adrodd
Dwedodd rhai fod y prosesau adrodd yn anhyblyg gydag amserlenni rhy dynn, a bod y cwmpas i sicrhau effeithiau a chanlyniadau ansoddol yn gyfyngedig.
Amserlenni cyllid
Gwelwyd bod oedi wrth gyhoeddi cyllid a gwneud penderfyniadau yn lleihau'r cyfnodau ar gyfer cyflawni yn sylweddol. Roedd rhai yn cysylltu'r ansicrwydd hwn â heriau wrth recriwtio a chadw staff.
Cyfathrebu ac arweiniad
Nododd rhai ymatebwyr fod cyfathrebu yn faes y gellid ei wella, gan nodi problemau gyda chyfathrebu hwyr neu aneglur, diffyg diweddariadau a newidiadau cyson i ganllawiau. Nododd rhai hefyd fod y manylion yn y canllawiau yn gyfyngedig.
Llywodraethu ac atebolrwydd
Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod y trefniadau llywodraethu yn aneglur neu'n wan, gydag anghysondebau ar draws gwahanol ALlau.
Rheoli cyllid yn lleol
Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod rheoli cyllid yn lleol yn arwain at anghysondebau mewn dulliau rheoli ar draws ALlau, yn gwneud cydweithredu rhanbarthol neu genedlaethol ar brosiectau yn anoddach, yn arwain at ddyblygu gweithgareddau, ac yn creu canfyddiadau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio i fynd ar drywydd blaenoriaethau ALlau.
Y broses dalu
Awgrymodd rhai y gallai taliadau cyflymach neu ymlaen llaw fod wedi helpu i fynd i'r afael â'r heriau llif arian sy'n wynebu rhai sefydliadau sy'n derbyn cyllid.
Cylchoedd cyllid tymor byr
Roedd cylchoedd cyllid byr yn cael eu hystyried yn rhwystr i gynllunio tymor hwy.
Ymgysylltu â Chynghorau Gwirfoddol Sir
Roedd rhai o'r farn y gallai cydweithredu agosach â Chynghorau Gwirfoddol Sirol fod wedi osgoi dyblygu wrth ddyfarnu grantiau ac wedi helpu i hwyluso darpariaeth well ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector ar lefel leol.
Mynediad i gyllid
Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod y cyfleoedd i wneud cais am gyllid yn gyfyngedig, gyda diffyg gwybodaeth am y broses ymgeisio, er enghraifft mewn perthynas ag adborth ar geisiadau aflwyddiannus.
Cynllunio pontio
Codwyd pryderon am y trosglwyddo o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gronfa olynol. Nodwyd bod hyn yn peri ansicrwydd a risg, ac roedd ymatebwyr yn galw am gynlluniau pontio cliriach a mwy amserol.
Yr effaith ar gyflawni
Nododd ymatebwyr fod prosesau, mewn rhai achosion, yn cael effaith negyddol ar ansawdd y cyflawni ac ar effaith terfynol ymyriadau a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Er enghraifft, gallai amserlenni cyflawni tyn arwain at leihau ansawdd er mwyn bodloni dyddiadau cau, a gallai baich gweinyddol leihau'r capasiti sydd ar gael ar gyfer cyflawni.
Blaenoriaethau ychwanegol ar gyfer cyllid yn y dyfodol
O dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin mae cymhwysedd ar gyfer cyllid yn seiliedig ar dri maes blaenoriaeth: 'Cymunedau a Lle', 'Cefnogi Busnesau Lleol', a 'Phobl a Sgiliau'. Gofynnwyd i ymatebwyr a oedd meysydd blaenoriaeth eraill yr hoffent eu gweld yn cael eu hystyried mewn unrhyw raglen buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol, i benderfynu ynghylch cymhwysedd ar gyfer cyllid. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys:
Pobl ifanc a phlant
Cymorth ar gyfer gyda phlant a phobl ifanc, plant sy'n derbyn addysg gartref a mannau cymdeithasol diogel i bobl ifanc.
Iechyd a lles
Cwmpas ar gyfer ariannu mentrau iechyd ataliol, cymorth iechyd meddwl fel cwnsela, a hyfforddiant sy'n seiliedig ar drawma.
Cludiant a hygyrchedd
Cefnogi datblygu atebion trafnidiaeth a arweinir gan y gymuned ac sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc.
Yr amgylchedd a chynaliadwyedd
Cymorth ar gyfer mentrau lleihau gwastraff, ailgylchu ac economi gylchol, a gwelliannau amgylcheddol o fewn busnesau.
Menter gymdeithasol
Cefnogi mentrau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu'r sector mentrau cymdeithasol.
Diogelwch y cyhoedd
Cyllid ar gyfer gwasanaethau atal a wardeiniaid diogelwch cymunedol.
Ymchwil ac arloesi
Gan gynnwys ymchwil a datblygu, ac arloesi ym maes darparu gwasanaethau.
Alinio'r Gronfa Ffyniant Gyffredin â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
Gwahoddwyd ymatebwyr i wneud sylwadau ar ba mor dda mae'r Gronfa yn cyd-fynd â'r Ddeddf Llesiant.
Nodwyd eu bod yn cyd-fynd yn y meysydd canlynol:
- ffocws ar y cyd ar les meddyliol a chorfforol
- cymorth ar gyfer twf economaidd cynhwysol a datblygu cynaliadwy
- atgyfnerthu gwytnwch cymunedol
Roedd yr awgrymiadau ar gyfer sicrhau cyd-fynd yn cynnwys y canlynol:
- ymgorffori pum ffordd o weithio'r Ddeddf Llesiant (hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithio, atal) i ddylunio, cyflwyno ac adrodd ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin, er enghraifft, nododd rhai ymatebwyr y gallai natur tymor byr cyllid y Gronfa wrthdaro â ffocws y Ddeddf Llesiant ar feddwl hirdymor.
- sicrhau bod cyllid y Gronfa yn gweithio'n dda gyda ffrydiau cyllid eraill er mwyn osgoi dyblygu a gwella ei heffaith wrth gyflawni amcanion y Ddeddf. Llesiant
- cynnwys cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer sefydliadau ieuenctid i ddarparu cymorth cyson, hirdymor i bobl ifanc.
