Mae prosiectau wedi'u cynllunio i gefnogi a chynnal sector newyddiaduraeth Cymru wedi derbyn cyllid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth dros £210,000, drwy Cymru Greadigol, i gefnogi'r diwydiant newyddiaduraeth yng Nghymru.
Mae'r buddsoddiad wedi gweld cymorth ar gyfer y sector wedi'i ddarparu drwy gronfa agored i wyth prosiect arloesol sydd wedi'u cynllunio i gynnal sector newyddiaduraeth Cymru.
Gwahoddodd y gronfa agored, a lansiwyd ym mis Mehefin, gynigion ar gyfer prosiectau a oedd o fudd i'r sector yn gyffredinol, ac a aeth i'r afael â heriau allweddol a nodwyd yn adroddiad 2023 O Gymru ac i Gymru: tuag at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer newyddiaduraeth er budd y cyhoedd, a oedd yn edrych ar adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer newyddiaduraeth er budd y cyhoedd.
Bydd y prosiectau llwyddiannus yn mynd i'r afael â materion hanfodol, gan gynnwys bylchau newyddion, amrywiaeth a chynhwysiant, a datblygu'r gweithlu. Maen nhw'n amrywio o greu cronfa ddata chwiliadwy gyntaf Cymru o achosion llys ynadon, i sefydlu academïau newyddiaduraeth a rhaglenni mentora ar gyfer gohebwyr uchelgeisiol o gymunedau sydd heb ddigon o gynrychiolaeth.
Mae prosiectau allweddol sydd wedi derbyn cyllid yn cynnwys:
- Rhestr Achosion Llys Caerphilly Observer: cronfa ddata ffynhonnell agored, chwiliadwy sy'n dileu'r angen i newyddiadurwyr chwilio cofnodion llys â llaw, gan fynd i'r afael â'r bwlch newyddion cynyddol mewn adroddiadau llys
- Prosiect Prifysgol Caerdydd: ymchwil i ddeall anghenion defnyddwyr y cyfryngau yng Nghymru
- Academi Casglu Newyddion Golwg360: prentisiaethau â thâl a hyfforddiant dwys i bedwar siaradwr Cymraeg sydd am fod yn newyddiadurwyr
- Rhaglen Cenedlaethau'r Dyfodol Nation.Cymru: darparu mentora, lleoliadau â thâl a chomisiynau i newyddiadurwyr sy'n dod i'r amlwg o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
- Cynhadledd Cyflwr y Cyfryngau yng Nghymru gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr: gan ddod â sefydliadau yn sector y cyfryngau, gweithwyr a llunwyr polisi ynghyd i ddatblygu strategaeth sector gyfan
- Rhaglen Newyddion i Bawb, Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru: ehangu newyddiaduraeth gyfranogol a arweinir gan y gymuned i Flaenau Ffestiniog a sefydlu Cymrodoriaeth sy'n canolbwyntio ar Gymru yn Sefydliad Reuters
- Prosiect antholeg y Sefydliad Materion Cymreig: comisiynu erthyglau o 'anialwch' newyddion Cymru gyda mentora i newyddiadurwyr newydd
- Siarad Cymru: darparu cyfleoedd i newyddiadurwyr llawrydd gyfrannu cynnwys i ddarllediadau radio pwrpasol sy'n ymdrin â newyddion a materion cyfoes yng Nghymru
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant:
Mae sector newyddiaduraeth fywiog, gynaliadwy yn hanfodol i ddemocratiaeth Cymru a'n cymunedau. Mae'r wyth prosiect hyn yn cynrychioli'r union fath o feddwl arloesol, cydweithredol sydd ei angen arnon ni i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu newyddiaduraeth yng Nghymru.
Drwy fuddsoddi mewn mentrau sydd o fudd i'r sector cyfan, rydyn ni'n cefnogi newid systemig a fydd yn cryfhau newyddiaduraeth er budd y cyhoedd am flynyddoedd i ddod. P'un a ydyn nhw'n creu llwybrau hyfforddi newydd, datblygu seilwaith hanfodol fel cronfa ddata'r Rhestr o Achosion Llys, neu sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn gallu cael mynediad at newyddiaduraeth o safon, sy'n berthnasol yn lleol, bydd y prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dywedodd Shirish Kulkarni, arweinydd prosiect rhaglen Newyddion i Bawb:
Bydd y gwaith hwn yn archwilio ac yn dangos beth sydd wir ei eisiau a'i angen oddi wrth newyddiaduraeth ar bobl a chymunedau sydd ar yr ymylon. Credwn fod hon yn sgwrs hanfodol ar gyfer dyfodol newyddiaduraeth yng Nghymru, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y ddealltwriaeth mae'n ei chreu o fudd i'r sector cyfan.
Dywedodd Sofia Lewis, Cymrawd Reuters:
Ar lefel bersonol, roedd y cyfle hwn yn apelio ato i oherwydd bod llwybr fy ngyrfa fy hun yn parhau i fod yn gymharol anghyffredin – ac mae'n ysgogi fy mrwdfrydedd dros greu llwybrau newydd a gwella cynrychiolaeth dosbarth yn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru a'r DU gyfan. Rwy'n awyddus i sbarduno sgyrsiau ac ysgogi cydweithredu i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Sefydlwyd Gweithgor Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd Cymru ddiwedd 2022 i hwyluso trafodaeth rhwng rhanddeiliaid y diwydiant a Llywodraeth Cymru. Roedd ei adroddiad argymell 2023 yn amlinellu'r camau sydd eu hangen ar gyfer sector newyddiaduraeth mwy cynaliadwy a chynhwysol yng Nghymru.
