Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Disgwylir i Ganolfan Blant Trelái a Chaerau gael ei thrawsnewid gan bron i £2 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau a chynyddu'r ddarpariaeth gofal plant i deuluoedd lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwnaeth Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan y cyhoeddiad ar ymweliad â'r Ganolfan Blant yng Nghaerdydd gyda Phrif Weinidog y DU, Keir Starmer, wrth iddo lansio Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth y DU.

Bydd y buddsoddiad yn cynyddu lleoedd gofal plant llawnamser o 85 i 105 ac yn ailfodelu ac yn adnewyddu'r ganolfan yn gyfan gwbl, gan greu ystafell gymunedol newydd ac ardal bwrpasol ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant estynedig.

Hwb sy'n cael ei ymddiried a'i ddefnyddio gan y gymuned leol yw'r ganolfan, sy'n darparu cymorth gan fentrau allweddol Llywodraeth Cymru, yn eu plith Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

Braint go iawn yw cyhoeddi'r cyllid hwn ar gyfer y Ganolfan Blant yma yn Nhrelái – y man lle ges i fy magu, a'r gymuned sydd wedi siapio pwy ydw i heddiw.

Wrth dyfu i fyny yma, fe nes i sylweddoli'n gynnar nad yw'r gwahanol lwybrau y mae pobl yn eu cymryd mewn bywyd yn cael eu penderfynu gan allu, ond gan gyfleoedd a chefnogaeth. Gall hynny wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd o gysur a diogelwch, ac un o ansicrwydd, ac ofn am ddyfodol eich teulu.

Rwy'n gobeithio y bydd y cyllid rydw i wedi'i gyhoeddi heddiw yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r bobl sy'n defnyddio'r ganolfan, gan ddarparu mwy o leoedd gofal plant o ansawdd uchel fel bod mwy o blant yn cael dechrau gwell mewn bywyd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:

Fel Cyngor, rydym yn croesawu'n gynnes y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru, sy'n cryfhau ymrwymiad Caerdydd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.

Mae'n caniatáu inni nid yn unig gynnal ond hefyd wella ein gwaith partneriaeth gyda darparwyr gofal plant cofrestredig Caerdydd i gynyddu lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg o ansawdd uchel. Mae hefyd yn sicrhau y bydd y gwaith o gyflwyno'r cynnig hwn yn raddol o fudd i bob cymuned ledled y ddinas yn y pen draw.