Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Ardrethu annomestig – y lluosydd manwerthu

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Mae paragraff A16(1)(a) a (4)(a) ac (c) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu lluosyddion gwahaniaethol sy’n seiliedig ar werth ardrethol hereditamentau a’u disgrifiad ar restr ardrethu annomestig leol.

Pennir cymhwysiad y lluosydd manwerthu gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025.

Bydd rheoliadau ar wahân a wneir o dan baragraff A16(3) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn pennu gwerth y lluosydd manwerthu ar gyfer pob blwyddyn ariannol drethadwy.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Amcan polisi penodol y lluosydd manwerthu yw cydnabod yr heriau unigryw sy’n wynebu siopau manwerthu ‘brics a mortar’ bach i ganolig eu maint, yn enwedig drwy eu bod yn agored i gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein, drwy ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig yn barhaol i gefnogi hyfywedd parhaus y sector.

5. Diben y cynllun

Mae cyfanswm y gofod y mae ei angen ar siopau manwerthu o fewn y sylfaen drethu ardrethi annomestig yn fawr, ond mae pob eiddo yn gwasanaethu marchnad leol. I’r gwrthwyneb, mae gan fanwerthwyr ar-lein ôl troed ffisegol cymharol fach, effeithlon a chost isel, yng nghyd-destun y raddfa genedlaethol neu ryngwladol a chyrhaeddiad eu busnes (a adlewyrchir yn bennaf yn y defnydd o warysau dosbarthu mawr). Gan mai treth ar eiddo yw ardrethu annomestig, nid eir i’r afael â'r anghydbwysedd hwn yn naturiol dros amser drwy ailbrisio’r sylfaen drethu yn rheolaidd.

Bydd ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig yn barhaol o blaid siopau manwerthu yn lleihau’r anghydbwysedd hwn mewn modd sy’n gymesur ag atebolrwydd talwyr ardrethi unigol. Bydd yr amcan polisi penodol yn cael ei gyflawni’n uniongyrchol gan y lluosydd manwerthu, drwy atebolrwydd ardrethi annomestig sy’n barhaol is i fuddiolwyr.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Awdurdodau lleol yng Nghymru.

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Mae’r lluosydd manwerthu yn berthnasol i hereditamentau (unedau o eiddo annomestig ag iddynt asesiad ardrethu) sydd â gwerthoedd ardrethol o dan £51,000 ac sy’n cael eu nodi fel siopau, ciosgau, fferyllfeydd neu swyddfeydd post yn ôl eu disgrifiad ar restr ardrethu leol. Mae hyn yn cynnwys bron i 95% o’r holl siopau manwerthu, ond mae’n eithrio yn fwriadol siopau mawr, siopau adrannol, hyperfarchnadoedd ac archfarchnadoedd. Eiddo manwerthu bach i ganolig eu maint a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer gwerthu nwyddau i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld yw’r buddiolwyr bwriadedig.

8. Sectorau i’w cefnogi

Masnach gyfanwerthu a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur.

9. Hyd y cynllun

1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2029.

Mae’r lluosydd manwerthu yn rhan o’r system ardrethi annomestig o 1 Ebrill 2026 ac nid oes dyddiad diofyn ar gyfer ei ddirwyn i ben. Mae’r cynllun hwn wedi’i gofrestru i barhau gydol cyfnod rhestr ardrethu annomestig 2026 a chaiff ei ymestyn neu ei ddisodli wedi hynny, fel y bo’n briodol.

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

Cyllideb o £0.

Nid oes cyllideb ar gyfer y lluosydd manwerthu, gan mai’r bwriad yw y bydd gosod yr holl luosyddion o fewn y system ardrethi annomestig yn niwtral o ran refeniw i’r awdurdodau cyhoeddus. Amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth y lluosydd manwerthu i fuddiolwyr hyd at £25m y flwyddyn erbyn diwedd cyfnod y cynllun hwn. Felly, amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth yr effaith dros gyfnod y cynllun yn hyd at £75m.

11. Ffurf y cymorth

Lleihad yn yr atebolrwydd ardrethi annomestig ar gyfer hereditamentau sy’n ddarostyngedig i’r lluosydd manwerthu.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae’r lluosydd manwerthu yn berthnasol i hereditamentau sydd â gwerthoedd ardrethol o dan £51,000 ac unrhyw un o’r disgrifiadau canlynol ar restr ardrethu annomestig leol:

  • ciosg a mangre
  • fferyllfa a mangre
  • swyddfa bost a mangre
  • siop a mangre
  • siop, swyddfa bost a mangre

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae gwerth y budd a ddarperir gan y lluosydd manwerthu yn cael ei gyfrifo ar sail y gwahaniaeth yn yr atebolrwydd sy’n gysylltiedig â’r hereditament unigol, o’i gymharu â’r sefyllfa pe bai’r lluosydd safonol yn berthnasol. Mae’r gwerth yn cyfateb i leihad mewn atebolrwydd o tua 30%, sy’n adlewyrchu’r lefel y gosodir y lluosydd manwerthu arni o’i gymharu â’r lluosydd safonol. Mae hyn yn ystyried unrhyw ryddhad sydd hefyd yn berthnasol. Nid yw hereditamentau cymwys y rhoddir rhyddhad llawn iddynt eisoes yn derbyn unrhyw fudd ychwanegol o’r lluosydd manwerthu.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

Amcangyfrifir bod uchafswm y budd a ddarperir gan y lluosydd manwerthu yn llai na £9,000 y flwyddyn ar gyfer pob hereditament cymwys erbyn diwedd cyfnod y cynllun hwn, pan fo’r gwerth ardrethol bron yn £51,000 ac nid oes unrhyw ryddhad arall sy’n berthnasol.

15. Manylion cyswllt

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image