Adrannau wedi'u diweddaru o ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru
Mae'r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar ddiweddariadau arfaethedig i ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar Hwb.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar ddiweddariadau arfaethedig i ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar Hwb. Cyhoeddwyd canllawiau'r Fframwaith ym mis Ionawr 2020 a chyn ei gyhoeddi roedd yn destun ymgynghoriad eang a helaeth.
Cynhaliwyd diweddariad blynyddol systematig o ganllawiau'r Fframwaith ar Hwb ym mis Ionawr 2022. Ystyrir mai yw'r adeg fwyaf manteisiol o'r flwyddyn academaidd i ddiweddaru canllawiau’r cwricwlwm. Mae'n osgoi dechrau tymor y gwanwyn ac yn golygu bod ysgolion a lleoliadau yn cael gwybodaeth ddiwygiedig mewn da bryd i lywio eu gwaith i ddatblygu'r cwricwlwm ar gyfer y flwyddyn academaidd ddilynol, a wneir fel arfer yn ystod tymor y gwanwyn a dechrau tymor yr haf.
Cyflwynir y diweddariadau arfaethedig ar gyfer 2026 yn y ddogfen hon. Rydym wedi osgoi cynnwys is-adrannau cyfan o'r canllawiau presennol, gan ganolbwyntio yn hytrach ar y paragraffau hynny sy'n cael eu diwygio yn unig. Oherwydd amseriad y newidiadau a gyflwynwyd i'w cynnwys eleni, y cynllun yw ymgynghori am gyfnod o 4 wythnos o 5 Ionawr 2026. Bydd hyn yn caniatáu i ganllawiau diwygiedig gael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Chwefror 2026.
Fel rhan o'r diweddariad eleni, rydym yn bwriadu gwneud newidiadau i'r Canllawiau ar ddysgu 14 i 16 yn unig.
Cyflwyniad
Newidiadau a gynigir i’r adran Dylunio’r cynnig cwricwlwm 14 i 16
Adran sy’n cael ei diweddaru: cynyddu effeithiolrwydd dysgwyr: cefnogi myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16
Ychwanegu cyfeiriad i ysgolion ystyried y cyfleoedd a ddarperir i ddysgwyr drwy Academi Seren.
Adran sy’n cael ei diweddaru: sicrhau cynnig eang o ran cymwysterau, dysgu a phrofiadau i gefnogi llwybrau dysgwyr
Dileu cyfeiriadau at TGAU Y Gwyddorau (dyfarniad dwbl).
Ychwanegu cyfeiriad at gymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd), y Gyfres Sgiliau a Sylfaen: o 2027 bydd pobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru yn cael y dewis i ymgymryd â chymwysterau TAAU, y Gyfres Sgiliau a Phrosiect Personol, a chymwysterau Sylfaen yn ogystal â TGAU.
Adran sy’n cael ei diweddaru: Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Naratif diwygiedig i adlewyrchu Datganiad Ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (Medi 2025) yn cadarnhau bod Cymwysterau Cymru, yn ei rôl fel rheoleiddiwr annibynnol, wedi cyhoeddi ei benderfyniad i barhau i wrando ar y sector addysg a chynnal ymgynghoriad pellach yn hydref 2028 ar y gyfres o gymwysterau TGAU Gwyddoniaeth sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru. O ganlyniad, cadarnhawyd hefyd y bydd TGAU Gwyddoniaeth ar wahân mewn bioleg, cemeg a ffiseg yn parhau i fod ar gael i ysgolion a dysgwyr, hyd nes y bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.
Adran sy’n cael ei diweddaru: hunanwerthuso a gwella
Ychwanegu cyfeiriad i ysgolion ystyried y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid.
Adran sy’n cael ei diweddaru: ecosystem ddata a gwybodaeth addysg Newydd
Naratif diwygiedig sy’n nodi y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Fframwaith Dangosyddion Hawl i Ddysgu 14 i 16 newydd rhwng Ionawr a Mawrth 2025. Mae'n ffurfio un agwedd ar yr wybodaeth a'r dystiolaeth y dylid ei defnyddio ar wahanol lefelau'r system ysgol at ddibenion gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, yn unol â'n dull o ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwella
Cyfnod yr ymgynghoriad
Daw'r cyfnod adborth hwn i ben ar 2 Chwefror 2026, ac wedi hynny bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yn ystyried yr holl ymatebion. Yn dilyn hyn caiff y canllawiau drafft eu mireinio ac wedyn, yn amodol ar gytundeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2026.
Adrannau wedi'u diweddaru o ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru
Canllawiau ar ddysgu 14 i 16
O dan 'Dylunio’r cynnig cwricwlwm 14 i 16 ' y canllawiau hyn, rydym yn bwriadu gwneud mân ddiwygiadau o dan bum pennawd. Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i adlewyrchu'r canlynol.
TGAU Gwneud-i-Gymru
Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig ym mis Medi 2025 yn cadarnhau bod Cymwysterau Cymru, yn ei rôl fel rheoleiddiwr annibynnol, wedi cyhoeddi ei benderfyniad i barhau i wrando ar y sector addysg a chynnal ymgynghoriad pellach yn hydref 2028 ar y gyfres o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru. O ganlyniad, fe wnaethant hefyd gadarnhau y bydd cymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar wahân mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn parhau i fod ar gael i ysgolion a dysgwyr, hyd nes bod canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw'n hysbys.
Felly, o fis Medi 2026 ymlaen, bydd ysgolion yn gallu cynnig y cymwysterau TGAU Gwyddoniaeth ar wahân presennol, y TGAU newydd diwygiedig yn Y Gwyddorau (dyfarniad dwbl) a Gwyddoniaeth Integredig (dyfarniad sengl) i'w dysgwyr. Bydd amseriad yr ymgynghoriad hwn yn caniatáu i'r cymwysterau newydd hyn gael eu hymgorffori mewn ysgolion a'u dyfarnu am y tro cyntaf, cyn i'r ymgynghoriad QW arfaethedig yn 2028 ddigwydd.
Gall dysgwyr fod yn hyderus y bydd y cymhwyster TGAU Y Gwyddorau newydd (dyfarniad dwbl) a'r cymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar wahân presennol yn parhau i gefnogi dilyniant i Safon UG a Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg, ac ymlaen i yrfaoedd STEM os mai dyma yw eu llwybr dewisol.
Cynnig Cymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol
Pan gyhoeddwyd y Canllawiau Dysgu 14 i 16 ym mis Medi 2024, manylodd y dylai pob dysgwr o fis Medi 2027 wneud eu dewisiadau o ran cymwysterau o'r cynnig Cymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol. Nid oedd y canllawiau yn nodi'n benodol bod hyn yn cynnwys y cymwysterau Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU), y Gyfres Sgiliau a Phrosiect Personol, a chymwysterau Sylfaen. Mae'r diwygiad wedi'i wneud i adlewyrchu'n glir bod y cymwysterau hyn ar gael ynghyd â TGAU o 2027 ymlaen.
Cyfeiriadau at Academi Seren a'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid
Yn ogystal, mae'r canllawiau bellach yn cyfeirio ysgolion i ystyried y cyfleoedd a ddarperir i ddysgwyr trwy fentrau a fframweithiau fel Academi Seren a'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid.
Ecosystem ddata a gwybodaeth addysg newydd
Gan fod yr ymgynghoriad y cyfeirir ato yn y canllawiau gwreiddiol wedi dod i ben, mae'r canllawiau diwygiedig hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr ecosystem ddata a gwybodaeth addysg newydd, gyda threfniadau adrodd yn cael eu cyflwyno o 2027 ymlaen.
Newidiadau arfaethedig
Nodir y newidiadau arfaethedig isod.
1.1 Cynyddu effeithiolrwydd dysgwyr: cefnogi myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16
Rydym yn cynnig ychwanegu'r paragraff isod rhwng yr ail restr bwled a'r paragraff am yyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith.
Er mwyn cefnogi'r dysgwyr mwyaf galluog, mae Academi Seren yn llwybr uwchgwricwlaidd i danio chwilfrydedd dysgwyr a chynyddu eu cymhelliant dros eu dysgu, gan eu grymuso i wneud dewisiadau uchelgeisiol, gwybodus am eu llwybr addysgol yn y dyfodol a datblygu eu gallu i gyrraedd eu potensial a rhagori yn eu nodau addysgol yn y dyfodol ar y lefel uchaf. Mae Rheolwr Seren wedi’i neilltuo i bob ysgol i ddarparu cefnogaeth.
1.2 Sicrhau cynnig eang o ran cymwysterau, dysgu a phrofiadau i gefnogi llwybrau dysgwyr
Cynigiwn ddiweddaru'r ail baragraff o dan y pennawd hwn, fel y nodir isod. Bydd pob geiriad arall o dan y pennawd hwn yn aros fel y mae.
Diwygiwyd cymwysterau TGAU i gydnabod y Cwricwlwm i Gymru. Dylai dysgwyr sydd wedi bod yn dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru fod yn astudio ar gyfer cymwysterau diwygiedig pan fo modd. Golyga hyn y dylai dysgwyr a fydd yn dechrau Blwyddyn 10 ym mis Medi 2025 fod yn dewis o'r cynnig TGAU Gwneud-i-Gymru yn hytrach na'r hen gymwysterau y maen nhw’n eu disodli. Mae'r un egwyddor yn berthnasol i ddysgwyr Blwyddyn 10 ym mis Medi 2026, pan fydd rhagor o gymwysterau TGAU diwygiedig Gwneud-i-Gymru ar gael, gan gynnwys y Gwyddorau (dyfarniad dwbl). O fis Medi 2027 ymlaen, dylai pob dysgwr fod yn dewis ei gymwysterau o'r cynnig Cymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol (yn ogystal ag unrhyw gymwysterau y gellir eu dynodi ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed o dan bolisi dynodi diwygiedig Cymwysterau Cymru). Yn ogystal â TGAU, mae'r cynnig hwn yn cynnwys cymwysterau Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU), yn ogystal â chymwysterau Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau a Phrosiect Personol.
1.3 Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Rydym yn cynnig diweddaru'r pedwerydd, y pumed a'r chweched paragraff o dan y pennawd hwn, yn ogystal ag ychwanegu paragraff ychwanegol (seithfed paragraff) fel y nodir isod. Bydd pob geiriad arall o dan y pennawd hwn yn aros fel y mae.
Dylai pob dysgwr gael cyfle i ennill cymhwyster uchelgeisiol yn y gwyddorau i gefnogi eu cyfnodau pontio yn y dyfodol. Ym mlynyddoedd 10 ac 11, dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn dilyn cwrs heriol, uchelgeisiol ac ymestynnol sy'n arwain at gymhwyster yn y gwyddorau. I'r rhan fwyaf o ddysgwyr, TGAU Y Gwyddorau (dyfarniad dwbl) fydd hyn neu chymryd y tri TGAU gwyddoniaeth ar wahân mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg.
O 2026 ymlaen, bydd y gyfres o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn cynnwys TGAU Y Gwyddorau (dyfarniad dwbl), a ddylai gael ei gynnig gan bob ysgol. Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd TGAU gwyddoniaeth ar wahân mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn parhau i fod ar gael i ysgolion a dysgwyr. Bydd gan y cymwysterau hyn haen sylfaenol ac uwch fel y gellir cofrestru dysgwyr ar y lefel sydd fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion unigol. Dylai ysgolion gefnogi pob dysgwr sydd am ymgymryd â TGAU Y Gwyddorau i wneud hynny, pan mai dyma sydd orau i’r dysgwr.
Bydd TGAU gwyddoniaeth integredig (dyfarniad sengl) ar gael hefyd. Bydd hyn yn darparu llwybr arall i'r gyfran fach o ddysgwyr a fyddai'n elwa ar ymgymryd â chymhwyster gwyddoniaeth llai na TGAU Y Gwyddorau neu dri TGAU gwyddoniaeth ar wahân, o ystyried eu hamgylchiadau penodol. Nid yw'r cymhwyster dyfarniad sengl hwn wedi'i gynllunio i gefnogi cynnydd tuag at TGAU Y Gwyddorau (UG a Safon Uwch).
Dylai ysgolion gefnogi dysgwyr i gael mynediad at gymwysterau sy'n diwallu eu hanghenion orau ac yn sicrhau dilyniant. Mae hefyd yn bwysig eu bod yn cael dysgu a phrofiadau eang ar draws y disgyblaethau gwyddonol. Er nad oes gofyniad i ddysgwr astudio'r tri chymhwyster gwyddoniaeth ar wahân, mae'n annhebygol y bydd dysgwyr yn cael yr ehangder hwn os mai dim ond un neu ddau o'r cymwysterau gwyddoniaeth ar wahân y maent yn eu cymryd. Bydd angen i ysgolion hefyd sicrhau tegwch o ran profiadau a mynediad dysgwyr waeth beth fo'r cymhwyster y maent yn ei ddewis.
1.4 Hunanwerthuso a gwella
Rydym yn cynnig ychwanegu'r paragraff isod fel paragraff newydd rhwng paragraffau dau a thri.
Gallai ysgolion hefyd ystyried y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid, sy'n nodi proses i sefydliadau weithio gyda'i gilydd i nodi pobl ifanc 11 i 18 oed sydd mewn perygl o ddatgysylltu o ddysgu, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, a darparu'r cymorth sydd ei angen arnynt. Mae'r broses hon yn cael ei rheoli gan gydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a chydgysylltwyr digartrefedd ymysg pobl ifanc yr awdurdodau lleol.
1.5 Ecosystem ddata a gwybodaeth addysg newydd
Cynigiwn ddisodli'r ddau baragraff gydag un paragraff wedi'i ddiweddaru.
Mae’r polisi a nodir yn y canllawiau hyn, sy’n canolbwyntio ar yr hawl i ddysgu 14 i 16, yn crynhoi’r elfennau hynny o ddysgu 14 i 16 sy’n cael eu hystyried yn bwysicaf i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11. Mae'r trefniadau adrodd yn y dyfodol ar gyfer dysgu 14 i 16 wedi'u hadeiladu o amgylch yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 i adlewyrchu hyn. Ymgynghorwyd yn gyhoeddus ar y Fframwaith Dangosyddion Hawl i Ddysgu 14 i 16 newydd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025 ac mae'n ffurfio un agwedd ar yr wybodaeth a'r dystiolaeth y dylid eu defnyddio ar wahanol lefelau'r system ysgol at ddibenion gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, yn unol â'n dull o ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwella. Bydd y trefniadau adrodd newydd yn cael eu cyflwyno yn 2027, gydag adroddiadau ar y garfan 14 i 16 gyntaf i gwblhau'r cam hwn o dan y Cwricwlwm i Gymru.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Ydych chi'n cytuno bod y canllawiau'n glir ynglŷn â disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran defnyddio cymwysterau gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed, yn dilyn penderfyniad Cymwysterau Cymru i barhau i gynnig gwyddoniaeth driphlyg?
Cwestiwn 2
Ydych chi'n cytuno bod y canllawiau yn gwneud yn glir y bydd cymwysterau TAAU, y Gyfres Sgiliau a Sylfaen ar gael o fis Medi 2027?
Cwestiwn 3
Ydych chi'n cytuno bod y diweddariadau i'r canllawiau yn ei gwneud yn glir bod y trefniadau adrodd yn y dyfodol ar gyfer dysgu 14 i 16 wedi'u hadeiladu o amgylch yr Hawl i Ddysgu 14 i 16?
Cwestiwn 4
Ydych chi'n cytuno bod y diweddariadau i'r canllawiau yn ei gwneud yn glir y bydd trefniadau adrodd newydd yn cael eu cyflwyno yn 2027?
Cwestiwn 5
Beth yn eich barn chi fyddai effeithiau tebygol yr adran hon o ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 6
Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r adran hon o ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru er mwyn:
- sicrhau ei bod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?
Cwestiwn 7
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma.
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Gwefan ICO
