Bydd y ffurflen yn cynorthwyo gydag ymholiadau neu geisiadau am randdirymiad.
Cynnwys
Cyflwyniad
Bydd y ffurflen 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) - Rhanddirymiad neu Ymholiad' ar gael o 31 Rhagfyr 2025 i ddelio ag unrhyw broblemau ynghylch bodloni gofynion y cynllun neu gwestiynau sy’n benodol i’ch daliad neu fusnes eich fferm chi.
Byddwch yn gallu llenwi’r ffurflen Rhanddirymiad neu Ymholiad drwy'ch cyfrif RPW Ar-lein i ofyn am gael llacio’r gofynion neu i ofyn cwestiwn am:
- Haen Gyffredinol yr SFS
- Haen Opsiynol yr SFS
- Haen Gydweithredol yr SFS
Llacio gofynion yr SFS
Weithiau caiff y gofynion eu llacio am gyfnod dros dro sy'n golygu na fydd yn rhaid ichi gadw at un neu fwy o ofynion y cynllun. Mae rhanddirymiad yn enw mwy ffurfiol arno.
Mae rhanddirymiad yn briodol mewn amgylchiadau sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth, er enghraifft, pan fydd cyfnod hir o dywydd eithafol, problem â thenantiaeth neu lle mae risg i les anifeiliaid neu iechyd a diogelwch.
Ein hamcan fydd ateb pob cais o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr holl dystiolaeth, ar ffurf dogfennau ategol, sydd ei hangen i ni allu ystyried eich sefyllfa'n llawn. Bydd yr ateb yn cael ei roi i chi ar eich cyfrif RPW Ar-lein.
Byddwch yn gallu cyflwyno mwy nag un cais os ydych wedi dod ar draws mwy nag un broblem wrth ymdrin â gwahanol elfennau'r cynllun, gan gynnwys y Gweithredoedd Cyffredinol.
Darllenwch Atodiad A i gael rhagor o wybodaeth am y gofynion y gellid eu llacio yn yr Haen Gyffredinol ac enghreifftiau o'r dogfennau ategol sydd eu hangen.
Pwysig
Os oes digwyddiad neu amgylchiad sy'n effeithio ar ffermwyr ar draws Cymru neu ardal benodol (e.e. sychder difrifol) gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi rhanddirymiad cyffredinol. O dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn rhoi gwybod ichi bod y gofyn penodol hwnnw wedi'i lacio a manylion y gofyn hwnnw. Ni fydd angen cyflwyno cais ar wahân am gael llacio'r gofyn ar fusnes eich fferm chi.
Cwestiynau am yr SFS
Os oes gennych gwestiwn am Haen Gyffredinol yr SFS nad yw canllaw y cynllun yn ei ateb, gallwch ddefnyddio’r ffurflen i gyflwyno cwestiwn. Bydd angen i chi roi esboniad clir, cryno a chywir o'ch cwestiwn.
Bydd ateb i'ch cwestiwn yn cael ei roi ar eich cyfrif RPW Ar-lein, a byddwn yn anelu at ateb pob cwestiwn o fewn 5 diwrnod gwaith.
Gallwch gyflwyno mwy nag un cais os oes gennych ragor o gwestiynau.
Atodiad A: manylion ynghylch llacio gofynion a dogfennau ategol
Mae Canllaw 2026 - Haen Gyffredinol - SFS yn disgrifio holl ofynion Haen Gyffredinol y cynllun.
Os nad ydych yn gallu bodloni un neu ragor o ofynion y cynllun, ac nad ydych wedi cael eich eithrio rhag gorfod eu bodloni yn y canllaw, gallwch ofyn am gael llacio'r gofynion. Rhanddirymiad yw'r enw ffurfiol am hyn. Bydd gofyn ichi roi:
- Manylion y gofynion nad ydych yn gallu eu bodloni
- Rheswm dros ofyn am gael eu llacio
- Lleoliad y gofyn rydych wedi gofyn am gael ei lacio.
- Tystiolaeth ategol
Pwysig
- er mwyn gallu ystyried rhoi rhanddirymiad ichi, rhaid ichi ddangos pam nad ydych yn gallu bodloni'r rheol neu'r gofyniad perthnasol. Bydd pob achos yn cael ei ystyried ar wahân a gall olygu holi cyrff allanol e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru
- wrth aros am ganiatâd i lacio gofynion, peidiwch â gwneud unrhyw beth sy'n gysylltiedig â'r cais hwnnw. Pan fyddwn wedi ystyried eich cais, byddwn yn rhoi ein hateb, yn cadarnhau canlyniad eich cais, ar eich cyfrif RPW Ar-lein
ni ddylid defnyddio proses y rhanddirymiad gydag UA10: cynllun cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd ar hyn o bryd.
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r cynllun a bydd ar gael trwy RPW Ar-lein, gyda chanllaw 'Sut i Lenwi’ o Haf 2026 ymlaen, lle byddwch yn cael eich tywys trwy gyfres o gwestiynau am y canlyniadau rydych am eu cyflawni ac unrhyw gyfyngiadau a allai fod o ran plannu.
- ceir arweiniad ychwanegol ar gyfer tir wedi'i rentu yn Atodiad B
Manylion y gofyniad nad ydych yn gallu ei fodloni
Os yw'r rhan fwyaf o'ch fferm yn gynefin, ac nad ydych yn gallu bodloni gofynion Gweithred Gyffredinol (UA) 5: Cynnal Cynefin, gallwch ofyn am ymweliad cynghori (un cyflym os yw mwy na 90% o’ch tir yn gynefin) i ystyried problemau, atebion a rhanddirymiadau posibl i'ch helpu i fodloni’r Weithred Gyffredinol.
Mae’r canllaw yn disgrifio sawl maes arall lle gallwch ofyn am gael llacio'r gofynion, gan gynnwys:
- cynllun cyfan: unrhyw ran o'r Cod i Bawb neu Weithred Gyffredinol lle mae cydymffurfio yn amhosibl
- y Cod i bawb: pridd, bioamrywiaeth, coed, nodweddion y dirwedd
- UA9: cynnal coetir
- UA10: cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd
- UA11: yr amgylchedd hanesyddol
Mae enghreifftiau mwy penodol yn cynnwys lle na ellir cynnal uchder y borfa ar gyfer cynefin neu sefydlu cynefinoedd dros dro oherwydd cyfnod hir o dywydd cas, neu methu â chynnal uchder y borfa ar laswelltir corsiog am fod heidiau mawr o wyddau gwyllt yn pori'r ardal.
Rheswm dros ofyn am gael llacio'r gofyn
Os ydych chi'n cyflwyno cais i gael llacio gofyn, ystyriwch pam nad ydych yn gallu bodloni un o ofynion y cynllun, er enghraifft:
- tywydd eithafol neu ddigwyddiadau naturiol
- cyfyngiadau'r denantiaeth neu landlord yn gwrthod caniatâd
- pryderon am iechyd a diogelwch neu les anifeiliaid
- sensitifrwydd y tir (e.e. safle dynodedig, mawnog)
Edrychwch i weld a oes gennych eithriad awtomatig eisoes (e.e. rheol 10 mis ar gyfer tenantiaeth newydd) cyn cyflwyno'ch cais
Lleoliad y rhanddirymiad
Dylech restru'r caeau a'u lleoliad i ddangos yn glir ble byddai'r rhanddirymiad ar eich daliad.
Tystiolaeth ategol (lanlwythwch ffeiliau os oes angen)
Cewch gyflwyno tystiolaeth ategol a/neu efallai y gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Dyma'r mathau o dystiolaeth y gallwch eu cyflwyno:
- cytundeb tenantiaeth neu lythyr landlord (os yw'n gysylltiedig â thenantiaeth)
- lluniau, mapiau, neu adroddiadau ecolegol (os yw'n gysylltiedig â chynefin neu dir sensitif)
- cyngor milfeddygol neu broffesiynol (os yw'n gysylltiedig â lles anifeiliaid)
- gohebiaeth gan CNC (os yw'n gysylltiedig â safle dynodedig)
Ni fydd y cais am rhanddirymiad yn cael ei ystyried nes ein bod wedi derbyn yr holl ddogfennau ategol perthnasol.
Mae gennych 14 diwrnod o ddyddiad y cais i gyflwyno'ch dogfennau ategol, yn ôl y gofyn. Os na fydd y dogfennau'n ein cyrraedd o fewn yr amser hwn, bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Atodiad B: canllawiau ychwanegol ar gyfer tir â thenant
Mae'r cynllun wedi'i lunio fel ei bod hi’n hawdd i denantiaid gymryd rhan ynddo, heb yr angen am randdirymiadau penodol. Fodd bynnag, rydym yn annog pob ffermwr sy’n denant a landlord i weithio gyda'i gilydd i sicrhau manteision yr Holl Weithredoedd Cyffredinol.
Mae canllawiau'r Haen Gyffredinol yn esbonio pa dir y gall tenant ei hawlio a’i reoli heb dorri cytundebau tenantiaeth. Er enghraifft:
Pwy a beth sy’n gymwys
Mae rhanddirymiad cychwynnol o'r rheol 10 mis ar gael lle rydych wedi cymryd tir dan delerau tenantiaeth newydd o dair blynedd neu fwy, a ddechreuodd ar ôl 28 Chwefror 2026 ond cyn 15 Mai 2026.
UA6: creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella
Ar gyfer ffermydd nad oes ganddynt ddigon o gynefinoedd lled-naturiol, coetir llydanddail, neu berthi/gwrychoedd cymwys i gwrdd â'r gofyn bod 10% o’r fferm yn gynefin, rhaid creu cynefin dros dro bob blwyddyn.
UA9: cynnal coetir
Yn esbonio sut mae cydymffurfio ag Amodau ynghylch Coed a Choetir mewn Cytundebau Tenantiaeth. Mae’n esbonio hefyd os bydd angen ichi ofyn am gael eich rhyddhau o ofynion penodol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â choed, os bydd y landlord am wneud rhywbeth sydd heb ei ganiatáu.
UA10: cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Gwrychoedd
Mae’r cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd yn nodi lle gall plannu wneud eich fferm yn fwy gwydn, rhoi cysgod i dda byw, gwella bioamrywiaeth a helpu i daclo’r newid yn yr hinsawdd. Bydd y broses gynllunio yn ystyried unrhyw sensitifrwydd neu gyfyngiadau ar dir.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cynllun, bydd crynodeb am y coed newydd a hyd y perthi rydych wedi’u mapio yn cael ei baratoi. Os gwelir bod coed neu berthi wedi’u plannu ar dir â thenant, byddem yn eich annog i drafod gyda'ch landlord i wireddu manteision plannu coed tra'n parchu'r cytundeb tenantiaeth a’r amcanion rheoli tir hirdymor.
