Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad

7 Tachwedd 2025

Diben

Rhaid i unigolion a grwpiau poblogaeth agored i niwed yng Nghymru gael mynediad teg at ofal deintyddol o ansawdd uchel, tosturiol.

Diben y datganiad sefyllfa hwn yw dylanwadu ar bolisi a chynllunio deintyddol, gan gynnwys dyrannu adnoddau, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol yng Nghymru.

Dylai'r datganiad sefyllfa hwn hefyd atgoffa cyrff cyhoeddus yng Nghymru bod camau rhagweithiol i greu gwasanaeth cynhwysol, gyda dull cydgysylltiedig sy'n canolbwyntio ar y person yn un o'r blaenoriaethau allweddol ac yn gyfrifoldeb cyfreithiol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cwmpas

Mae'r datganiad sefyllfa hwn mewn perthynas ag unigolion agored i niwed yng Nghymru, p'un a ydynt yn cael mynediad at wasanaethau deintyddol ar hyn o bryd ai peidio.

Prif ffocws y datganiad hwn yw dylanwadu ar ddatblygiad polisi a rhaglenni cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd ac ymyrraeth yn genedlaethol ar ddyrannu adnoddau, i sicrhau bod gofal priodol, amserol ar gael i unigolion agored i niwed. 

Mae gan sefydliadau eraill GIG Cymru, yn enwedig Byrddau Iechyd, rolau allweddol wrth ddyrannu adnoddau i sicrhau bod gwasanaethau cyson, effeithiol, o ansawdd uchel ar gael.

Mae datganiad sefyllfa ar wahân gan Bwyllgor Deintyddol Cymru yn cael ei ddatblygu ar anghydraddoldebau iechyd y geg ac felly dylid ystyried y datganiad hwn ochr yn ochr â'r ddogfen honno.

Cefndir

Mae cleifion agored i niwed yn aml yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth gael mynediad at ofal deintyddol. Heb gymorth wedi'i deilwra, mae'r unigolion hyn mewn perygl o ddirywiad iechyd y geg, sydd yn ei dro yn effeithio ar eu maeth, rhyngweithio cymdeithasol, urddas a'u hiechyd a llesiant cyffredinol.

Mae ‘Cymru Iachach’, sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn pwysleisio gofal sy'n canolbwyntio ar y person, yn enwedig i'r rhai sydd â chyflyrau hirdymor neu gronig. Mae'n ymrwymo i wasanaethau cydgysylltiedig wedi'u teilwra sy'n ‘trin y person, nid y cyflwr’ drwy weithio amlasiantaethol, clinigau un stop, a chyngor rhagweithiol. Mae'r cynllun yn cydnabod yn benodol y bobl sy'n byw mewn amddifadedd a salwch cronig fel grwpiau blaenoriaeth ar gyfer ymyrraeth iechyd cyhoeddus gynnar, i atal iechyd rhag gwaethygu, lleihau'r galw ar wasanaethau brys, a helpu unigolion i fyw'n iach am gyfnod hirach.

Tynnodd adroddiadau gan Bwyllgor Iechyd y Senedd (Ionawr 2025) sylw at y ffaith bod grwpiau agored i niwed yn dal heb eu gwasanaethu'n ddigonol a galwodd ar y Llywodraeth i gyflawni ar yr addewidion a wnaed yn ‘Cymru Iachach’.

Diffiniad o bobl agored i niwed

Lluniodd Llywodraeth Cymru Gylchlythyr Iechyd Cymru ym mis Awst 2022 (a adolygwyd ym mis Awst 2024) ynghylch y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol. Yn y ddogfen honno, diffiniwyd pobl agored i niwed fel a ganlyn:

Gellir diffinio pobl sy'n agored i niwed fel y rhai y dangoswyd eu bod yn wynebu anghydraddoldeb ym maes gofal iechyd. Mae gan unigolion anghenion a galluoedd gwahanol ond bydd gan lawer o bobl anghenion gofal arbennig na all gwasanaethau deintyddol cyffredinol eu diwallu. Mae ffactorau megis amgylchiadau economaidd-gymdeithasol a daearyddiaeth hefyd yn effeithio ar unigolion. Gall iechyd y geg gwell wella iechyd cyffredinol pobl sy'n agored i niwed.

Mae pobl agored i niwed yn aml yn wynebu risg uwch o glefyd deintyddol a chlefyd y geg ac maent yn debygol o gynnwys y rhai nad ydynt yn gallu: 

  • cydweithredu â gofal deintyddol arferol
  • deall yr agen am ofal deintyddol a hylendid y geg da
  • cynnal hylendid y geg da heb gymorth
  • chael mynediad hawdd at wasanaethau deintyddol (cleifion y mae angen teclyn codi arnynt er mwyn trosglwyddo i'r gadair ddeintyddol)

Gallant hefyd fod:

  • yn bobl ag anghenion iechyd cymhleth a gronig a all gynnwys anghenion meddygol, corfforol, neu iechyd meddwl
  • dan anfantais gymdeithasol, gan gynnwys ceiswyr lloches, pobl ddigartref, a phobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau
  • Plant sy’n Derbyn Gofal, neu blant mewn perygl â chlefyd deintyddol yr effeithir yn ddifrifol arnynt a/neu nad ydynt yn cael eu cymryd i dderbyn gofal deintyddol
  • phobl hŷn fregus ac agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal nad ydynt yn gallu cael mynediad at ofal gan y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol

Mae'r diffiniadau hyn wedi'u hategu gan y canlynol: 

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
    • Grwpiau agored i niwed
  • Deddf Gofal 2014
    • Oedolion agored i niwed
  • Deddf Plant a Theuluoedd 2014
    • Plant agored i niwed

Yn aml, mae gan bobl agored i niwed anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth ac mae angen mwy o amser ar wasanaethau i drefnu a darparu gofal, gan gynnwys gofal deintyddol, er enghraifft cleifion gofal arbennig, oedolion sydd â ffobia, plant sy'n byw mewn llety dros dro ac ati. Yn ogystal, nid oes gan bobl agored i niwed gynrychiolaeth hawdd o'u hanghenion neu nid ydynt yn gallu eirioli drostynt eu hunain yn effeithiol. Felly nid yw cymariaethau rhwng nifer y cleifion a welir yn y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol â gwasanaethau deintyddol cyffredinol lleol yn ddefnyddiol nac yn helpu.

Mae Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol yn gyfrifol am gyflwyno rhaglenni cenedlaethol iechyd y geg Cynllun Gwên (gwella iechyd y geg plant) a Gwên am Byth (gwella iechyd y geg pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal).

Ceir amrywiad mewn Gwasanaethau Cynhwysiant Iechyd ledled Cymru ac yn aml nid yw mynediad at asesu a gofal deintyddol yn rhan o'r Gwasanaethau Cynhwysiant Iechyd yng Nghymru. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn darparu Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd, sy'n cynnig amrywiaeth o driniaethau meddygol, gan gynnwys gwasanaethau deintyddol, i unigolion sy'n ei chael yn anodd cael mynediad at ofal iechyd ac nad ydynt wedi cofrestru gyda meddyg teulu. Mae hyn yn cynnwys pobl ddigartref, ceiswyr lloches, ac unigolion y mae gwaith rhyw yn effeithio arnynt.

Mae gwaith diweddar gan y Gwasanaeth Iechyd Cynhwysiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn amlygu'r angen deintyddol uchel a rhwystrau sylweddol i dderbyn gofal deintyddol a wynebir gan bobl sydd mewn cysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol. Mae bod yn y carchar yn gyfle i ymgysylltu â gwasanaethau deintyddol, yn aml am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer. Efallai y bydd carcharorion yn cael eu rhyddhau cyn i'w cwrs o driniaeth (e.e. darparu dannedd gosod) wedi'i gwblhau, ac ar hyn o bryd mae'n hynod heriol i'r driniaeth honno barhau yn y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, gan greu rhwystr i barhad gofal a gwastraff adnoddau, a chynyddu anghydraddoldebau iechyd y geg.

Datganiadau sefyllfa

Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn cefnogi bwriad deddfwriaethol a strategol Llywodraeth Cymru o nodi a blaenoriaethu gwasanaethau iechyd ar gyfer grwpiau agored i niwed, darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person a lleihau anghydraddoldebau iechyd. 

Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn pryderu am lefelau presennol staffio, adnoddau, cyllid ac amseroedd aros o fewn Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol, sy'n allweddol i ddarparu gwasanaeth effeithiol i bobl a chymunedau sy'n agored i niwed.

Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn cydnabod bod mynediad at ofal deintyddol arferol yn hawl sylfaenol ac mae'n cefnogi:

  • nodi ac allgymorth rhagweithiol i unigolion agored i niwed
  • llwybrau deintyddiaeth gofal arbennig sy'n darparu gofal tosturiol o ansawdd uchel mewn lleoliadau cymunedol ac eilaidd
  • modelau darparu hyblyg, gan gynnwys gofal yn y cartref a chydweithio â gofalwyr, meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol, a sefydliadau gwirfoddol
  • hyfforddiant a chymorth i dimau deintyddol ddarparu gofal cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y person.
  • integreiddio iechyd y geg i gynllunio gofal ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth

Argymhellion

Gwneir yr argymhellion canlynol i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd a sefydliadau perthnasol eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru:

  • Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb cyfreithiol i fynd ar drywydd y 7 nod llesiant, a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gan gynnwys “Cymru iachach” a “Cymru sy’n fwy cyfartal”, a rhaid iddi gymryd camau i leihau anghydraddoldeb a chefnogi'r unigolion a chymunedau agored i niwed drwy ddatblygu cynaliadwy. Rhaid cydnabod ac ystyried iechyd y geg fel un o elfennau craidd iechyd a llesiant.
  • Rhaid i gyrff cyhoeddus fel Byrddau Iechyd Lleol,Ymddiriedolaethau'r GIG,ac eraill osod a chyhoeddi amcanion llesiant, gan gynnwys gwella gofal iechyd i grwpiau agored i niwed, a chymryd yr holl gamau rhesymol i'w cyflawni. Unwaith eto, rhaid i hyn gynnwys iechyd y geg a gofal deintyddol.
  • Rhaid i gamau gweithredu ddilyn y 5 egwyddor datblygu cynaliadwy, sef meddwl am yr hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio, a chynnwys y cyhoedd, sy'n cefnogi canlyniadau gwell yn uniongyrchol i bobl agored i niwed.

Cofnodi ac ymateb i anghenion poblogaethau agored i niwed gan ddefnyddio casglu data cyson.

  • Rhaid i ddata a gesglir ar grwpiau agored i niwed gynnwys gwybodaeth am eu statws iechyd y geg a'u hangen am ofal deintyddol.
  • Dylid dadansoddi data iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol i ddeall y galw am ofal deintyddol gan gynnwys gwasanaethau deintyddiaeth gofal arbennig ac a yw'r angen hwnnw'n cael ei ddiwallu. Dylid cysylltu data gwasanaethau deintyddol â chronfeydd data iechyd a gofal cymdeithasol ehangach i ddeall eu hangen cyffredinol a chyfleoedd ar gyfer gofal cydgysylltiedig. Dylai data meintiol gael eu hategu gan wybodaeth am brofiad bywyd grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt gan anghydraddoldebau.
  • Dylai amseroedd aros ar gyfer asesiad iechyd y geg a gofal deintyddol ar gyfer grwpiau agored i niwed gael eu monitro'n agos, a dylai byrddau iechyd gymryd camau i fynd i'r afael â nhw, wedi'u galluogi gan lefelau priodol o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Camau gweithredu rhagweithiol a pharhaus sydd eu hangen i leihau anghydraddoldebau iechyd y geg

  • Dileu rhwystrau ar gyfer timau iechyd a gofal cymdeithasol o ran atgyfeirio cleifion agored i niwed neu gleifion/gofalwyr i hunanatgyfeirio i'r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a gwella llwybrau atgyfeirio i ddeintyddiaeth gofal arbennig ac oddi yno.
  • Ymgorffori iechyd y geg mewn cynlluniau gofal amlddisgyblaethol ar gyfer cleifion agored i niwed ac archwilio'r cyfleoedd i ddarparu ymyriadau i atal clefydau'r geg fel rhan o gynlluniau gofal amlddisgyblaethol.
  • Rhaid ystyried ystyriaethau diogelu ar gyfer grwpiau agored i niwed wrth gynllunio, darparu a rheoli gwasanaethau gan gynnwys rheolaeth weithredol apwyntiadau a gollwyd (Heb eu Cludo) ac ymweliadau dim mynediad.
  • Cynnig dulliau cyfathrebu hygyrch a phrosesau apwyntiad wedi'u haddasu.
  • Sicrhau nad yw trawsnewid digidol y gwasanaeth, i gynyddu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd, yn arwain at eithrio digidol pobl agored i niwed a gwaethygu anghydraddoldebau iechyd y geg.
  • Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda byrddau iechyd i leihau amseroedd aros ar gyfer deintyddiaeth gofal arbennig.
  • Buddsoddi yn y gweithlu i sicrhau gweithlu sydd wedi'i hyfforddi'n ddigonol, sy'n gymwys ac yn cael ei gefnogi i gyflawni atal a gwasanaethau deintyddol arbenigol wedi'u cynnal i bobl agored i niwed.

Dyddiad adolygu

Bydd Pwyllgor Deintyddol Cymru yn adolygu'r datganiad hwn yn flynyddol a fydd yn cynnwys trafodaeth ar y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion y pwyllgor.

Gwybodaeth gyswllt

Ysgrifennydd Pwyllgor Deintyddol Cymru: committeesecretariat1@gov.wales