Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd ledled Cymru yn elwa ar fuddsoddiad amcan ychwanegol gwerth £8 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, gyda'r pris sy'n cael ei wario fesul pryd yn codi o £3.20 i £3.40.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda 57 miliwn o brydau wedi eu gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru ers 2022.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle wedi cadarnhau 20c ychwanegol y pryd, gan gynyddu'r gyfradd fesul uned a osodir gan Lywodraeth Cymru o £3.20 i £3.40. Mae hyn yn golygu bod Cymru yn darparu'r gyfradd uchaf i ysgolion cynradd a thimau arlwyo cynghorau yn y DU i ddarparu prydau maethlon am ddim i ddysgwyr.

Cymru hefyd yw'r unig wlad yn y DU i ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd.

Mae'r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd yn un o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd gyda chost yr ysgol ac yn lleihau tlodi plant. Caiff teuluoedd eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys i gael unrhyw gymorth pellach gyda chostau ysgol drwy 'Hawliwch help gyda chostau ysgol’. Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda chostau gwisg ysgol a hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Mae'r ysgolion hefyd yn elwa ar gyllid ychwanegol ar gyfer pawb sy'n gymwys drwy'r Grant Datblygu Disgyblion.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Mae'r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd, ochr yn ochr â'n cynnig wedi'i dargedu o brydau am ddim mewn ysgolion uwchradd, yn golygu y gall dwy ran o dair o ddysgwyr yng Nghymru gael pryd ysgol am ddim amser cinio bob diwrnod.

Rydym yn deall bod costau'n codi, ac rydym am sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi.

Mae rhoi terfyn ar dlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth absoliwt i Lywodraeth Cymru ac mae ein hymrwymiad i'r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd yn dangos ein bod ni o ddifrif am roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.