Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Diwrnod Hawliau Dynol yn gyfle i nodi mabwysiadu'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym 1948, dogfen y gwnaeth y Deyrnas Unedig helpu i'w llunio. Mae'n nodi'r egwyddorion cyffredin o urddas, cydraddoldeb, rhyddid a diogelwch sy'n parhau i arwain pobl a llywodraethau ledled y byd ac yng Nghymru heddiw.

Mae'r thema eleni, “Hawliau Dynol, Ein Hanfodion Bob Dydd” ("Human Rights, Our Everyday Essentials"), yn ein hatgoffa nad yw hawliau yn gysyniadau haniaethol sydd ymhell o'r gafael. Dyma'r pethau yr ydym yn dibynnu arnynt bob dydd: siarad, dysgu, gweithio gydag urddas, a byw heb ofni gwahaniaethu. Yr wythnos hon rydym yn tynnu sylw at sut mae'r hawliau hynny'n codi mewn bywyd bob dydd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys prydau ysgol am ddim, mynediad at gynnyrch mislif, tai diogel a fforddiadwy, y defnydd o'r Gymraeg mewn gwasanaethau, trafnidiaeth hygyrch, cynhwysiant digidol a mannau cymunedol croesawgar.

Mae hawliau dynol yn rhan o wneuthuriad Llywodraeth Cymru. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid i Weinidogion Cymru weithredu'n gydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. 

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Hawliau Dynol 2025 i 2029 yn gosod uchelgais hawliau dynol clir, gan wneud y datganiad canlynol o ymrwymiad i'n dull gweithredu fel llywodraeth:

"Mae hawliau dynol yn hawliau sy'n eiddo i bawb. Byddwn yn parchu, yn diogelu ac yn cyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb a hawliau dynol fel y gall pawb yng Nghymru fyw eu bywydau gydag urddas, rhyddid, diogelwch a heb wahaniaethu. Rydym yn ymrwymo i ddull o weithredu hawliau dynol sy'n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan wella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."

Mae'r ymrwymiad hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein gwaith cydraddoldeb a hawliau dynol sy'n rhychwantu nifer o feysydd cyhoeddus. Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ein Cynllun LHDTC+, a'n gwaith gyda phobl anabl, gan gynnwys datblygu Cynllun Hawliau Pobl Anabl, i gyd yn dangos nad delfrydau haniaethol yw hawliau dynol ond ymrwymiadau ymarferol sy'n llunio'r polisïau a'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt.

Yn ogystal, mae hawliau plant yn gyfrifoldeb llywodraeth gyfan ac yn llywio ein blaenoriaethau ar draws addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Comisiynydd Plant, awdurdodau lleol a'r trydydd sector ac rydym yn gwrando'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc fel bod eu barn yn llywio penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Rydym yn byw mewn cyfnod cythryblus ac rydym yn gwybod bod llawer mwy o waith i'w wneud. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gweithio i sicrhau bod hawliau dynol nid yn unig yn eiriau ar bapur, ond yn cael eu gweld, eu teimlo a'u profi gan bobl yn eu bywydau bob dydd. Rwy'n falch o fod yn rhan o lywodraeth sy'n rhoi  cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i bopeth a wnawn.