Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Gwybodaeth ariannol

I gael mynediad at wybodaeth ariannol, dylech ddewis Manylion y CRN (Cyfeirnod y Cwsmer) o'r bar gwyrdd ar eich Tudalen Hafan a Gwybodaeth Ariannol yn y gwymplen.

Manylion banc – gallwch weld y manylion banc sydd gennyn ni ar eich cyfer, gan gynnwys y math o arian cyfred, rhif y cyfrif, y cod didoli, enw'r cyfrif, enw'r banc a chod post  y banc. Os bydd eich manylion banc yn newid, dylech roi gwybod inni drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Taliadau – gallwch weld taliadau sydd wedi cael eu gwneud ichi. Bydd gennych yr opsiwn i ddewis taliadau'r cynllun yr hoffech eu gweld. Defnyddiwch y gwymplen i ddewis y cynllun. Wrth i ragor o daliadau gael eu gwneud ichi, bydd rhagor o opsiynau ar gael. Ar waelod y sgrin gwelwch y Cynllun, y Swm wedi'i dalu a'r  Dyddiad talu.

Sylwer – bydd yr wybodaeth am daliadau yn cael ei hanfon at RPW Ar-lein dros nos, ac felly nid yw'n cael ei diweddaru ar unwaith. Bydd taliadau'n ymddangos ar RPW Ar-lein ychydig ddyddiau cyn i'r taliad gael ei wneud. Os ydych yn cyflogi Asiant neu Undeb Ffermio i reoli eich cyfrif ar-lein, ni fydd ganddo ganiatâd i weld tudalen eich Manylion Banc, waeth beth fo'r rolau rydych wedi'u rhoi iddo.