Neidio i'r prif gynnwy

Safonau ar gyfer paratoi, dylunio ac adeiladu o draffyrdd a chefnffyrdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2008
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Rydym yn rheoli safonau’r priffyrdd a’r canllawiau perthnasol sydd i’w defnyddio yng Nghymru.

Rydym yn nodi’r anghenion gweinyddol a thechnegol ar gyfer cynllunio, paratoi, dylunio ac adeiladu gwaith ar y priffyrdd. Rydym yn gwneud hyn drwy gyhoeddi safonau a manylebau i’w defnyddio ar y draffordd ac ar rwydwaith y cefnffyrdd yng Nghymru.

Mae safonau’r priffyrdd sy’n berthnasol i’r draffordd a rhwydwaith y cefnffyrdd yng Nghymru wedi’u cynnwys yn nogfennau llawlyfr dylunio ffyrdd a phontydd (DMRB) a llawlyfr dogfennau contract ar gyfer gwaith priffyrdd (MCHW).

Mae’r ddwy ddogfen y cyfeirir atynt uchod yn safonau cenedlaethol ac maent yn gymwys ledled y DU. Fe’u lluniwyd gan Highways England mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon.  

Rydym yn cyhoeddi dogfennau canllaw perthnasol sy’n cefnogi safonau priffyrdd y DU a ddiffinnir yn DMRB ac yn MCHW. Mae’r dogfennau canllaw perthnasol hyn wedi’u rhannu fel a ganlyn:

  • canllawiau ar weithdrefnau a chynghori
  • canllawiau gwaith stryd

Canllawiau ar weithdrefnau a chynghori

Anghenion technegol ar gyfer cynllunio, paratoi, dylunio ac adeiladu gwaith ar y priffyrdd nad yw wedi’i gynnwys naill ai yn safonau’r priffyrdd (DMRB neu MCHW) ar gyfer Cymru.

Canllawiau ar ein gweithdrefnau sy’n berthnasol i gynllunio, paratoi, dylunio ac adeiladu gwaith ffyrdd ar y draffordd a’r rhwydwaith o gefnffyrdd yng Nghymru.

Canllawiau gwaith stryd