Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n amlinellu ein dull uchelgeisiol o fynd ati i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau awdioleg yn cael eu darparu yng Nghymru, fel bod mwy o ofal ar gael yn y gymuned ac yn nes at gartrefi pobl sydd â phroblemau clyw a cholled clyw.

Problemau clyw yw prif achos y blynyddoedd a dreulir yn byw gydag anabledd i bobl dros 70 oed – mae 17% o bobl yng Nghymru yn dweud bod ganddynt anawsterau clyw. Mae ymchwil gan yr RNID yn awgrymu bod mwy na hanner y boblogaeth 55 oed a hŷn yn profi byddardod neu golli clyw, gan godi i 80% o bobl dros 70 oed. Mae tystiolaeth gynyddol hefyd sy'n awgrymu cysylltiad rhwng colli clyw a dementia – nodwyd mai colli clyw yw’r ffactor risg mwyaf y gellir ei addasu o ran dementia.

Mae’n bwysig fod gofal awdioleg amserol o ansawdd da yn cael ei ddarparu mor agos â phosibl at gartrefi pobl – ac mae hynny’n fwyfwy pwysig wrth i’r galw gynyddu.

Bydd ein Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Awdioleg yn y Dyfodol yn trawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau awdioleg. Mae wedi'i gynllunio i wella mynediad amserol at wasanaethau clyw mewn gofal sylfaenol a chymunedol, gan gynnwys darparu cymhorthion clyw. Bydd hyn yn rhyddhau capasiti o fewn adrannau awdioleg ac ENT mewn ysbytai i'w galluogi i weld yr achosion mwyaf difrifol. 

Mae'r dull gweithredu yn manteisio ar arbenigedd awdiolegwyr i ddarparu mwy o ofal mewn cymunedau lleol – dros y pum mlynedd diwethaf, mae awdiolegwyr wedi bod yn cael hyfforddiant i ennill y cymwysterau uwch sydd eu hangen arnynt i roi diagnosis, rheoli a thrin mwy o bobl mewn gofal sylfaenol. 

Mae'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau awdioleg yn cyd-fynd â'n Model Gofal Sylfaenol ac mae'n dilyn diwygiadau mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol, optometreg, deintyddiaeth a fferylliaeth.

Mae'r Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Awdioleg yn y Dyfodol yn disgrifio’r ffyrdd newydd o weithio i ddiwygio a datblygu modelau gwasanaeth awdioleg newydd ac arloesol a fydd yn helpu i roi gwell gofal i gleifion, gyda ffocws penodol ar y meysydd allweddol canlynol: 

  • Datblygiad proffesiynol parhaus i greu gweithlu medrus i roi'r dull ar waith yn y dyfodol.
  • Gweithredu modelau gwasanaeth newydd, integredig, gan gynnwys mynediad uniongyrchol at ofal clyw, darparu batris a gwaith cynnal a chadw parhaus ar gyfer cyfarpar cymorth clyw. Mae hyn yn cynnwys hunanreoli ac ailasesu darbodus.
  • Gweithredu llwybrau awdioleg newydd cenedlaethol, gan gynnwys y llwybr dementia a'r llwybr rheoli cwyr.
  • Datblygu taflenni gwybodaeth a chynlluniau cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl sy'n F/fyddar neu'n byw gydag amhariad ar y clyw neu golled clyw. Mae hyn yn caniatáu mynediad amserol at wasanaethau sy'n helpu unigolion i gyflawni eu potensial llawn yn addysgol, o ran cyflogaeth ac yn gymdeithasol.

Bydd rhoi'r dull newydd hwn ar waith yn gwella gofal i bobl ledled Cymru ac yn atgyfnerthu'r ffaith fod Cymru ar flaen y gad ym maes darpariaeth awdioleg yn y Deyrnas Unedig.