Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Ym mis Tachwedd (26-28), roedd yn destun balchder i Gymru gael cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK, gan ddod â chystadleuwyr ynghyd o bob rhan o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a dathlu'r sgiliau rhagorol sy'n cael eu datblygu a'u gweithredu.
Mae cystadlaethau sgiliau yn ein galluogi i feincnodi ein hunain ar draws sectorau allweddol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, a chodi'r bar ar gyfer hyfforddiant sgiliau yng Nghymru, sydd yn ei dro yn cryfhau economi Cymru.
Eleni, cynhaliwyd cystadleuaeth y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol mewn 5 lleoliad yn ne Cymru:
• Prifysgol De Cymru, Campws Canol y Ddinas
• Coleg Caerdydd a'r Fro, Heol Dumballs
• Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Campws IQ, Abertawe
• Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Campws Pencoed
• Coleg Gwent, Campws Casnewydd
Ymwelais â Choleg Caerdydd a'r Fro yn ystod yr wythnos, ac roedd yn wych gweld safon y gystadleuaeth. Nid yn unig rhoi croeso cynnes Cymreig i'r cystadleuwyr, eu hyfforddwyr a'u teuluoedd wnaeth y lleoliadau, ond fe wnaethant hefyd arddangos y cyfleusterau ardderchog sydd ar gael i gefnogi'r cystadlaethau. Cymerodd dros 400 o gystadleuwyr o bob cwr o'r DU ran mewn cyfres o 40 o wahanol gystadlaethau sgiliau, gan gynnwys weldio, tirlunio, a chynnal a chadw awyrennau.
O'r cystadleuwyr hynny, roedd 122 o Gymru, ac fe allan nhw eu hunain a'u gwlad deimlo'n falch o'u perfformiad. Rhyngddynt, enillodd cystadleuwyr Cymru gyfanswm o 78 medal (18 Aur, 20 Arian, 25 Efydd, 15 Canmoliaeth Uchel). O ganlyniad, ein colegau ni restrwyd gyntaf yn y cystadlaethau Prif-Ffrwd a Sylfaen.
Mae'r llwyddiannau gwych hyn, ar eu tir eu hunain, yn amlygu'r gwaith caled, yr ymroddiad a'r dalent sydd gan Gymru i'w cynnig, gan arfogi pobl ifanc â'r sgiliau a'r arbenigedd i ffynnu ar lwyfan y byd. Maent hefyd yn tynnu sylw at werth a phwysigrwydd llwybrau galwedigaethol.
Hoffwn ddiolch i WorldSkills UK, rhaglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, darparwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch, Darparwyr Hyfforddiant Annibynnol, Colegau Cymru, Prifysgolion Cymru, Busnes yn y Gymuned, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Medr a'r holl bobl ifanc a'r rheolwyr hyfforddiant a gyfrannodd tuag at ddigwyddiad mor wych.
