Bydd dros £41m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn meddygaeth deulu eleni fel rhan o fargen sydd wedi’i tharo rhwng Llywodraeth Cymru a meddygon teulu.
Mae’r fargen yn cynnwys cynnydd o 4% yn y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol ar gyfer 2025 i 2026, i gyd-fynd ag argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion annibynnol. Bydd sicrwydd hefyd o gynnydd o 5.8% mewn cyllid rheolaidd o 2026 i 2027, sy’n arwydd pendant o ymrwymiad y llywodraeth i barhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol a gwasanaethau yn y gymuned.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein bod ni wedi ymrwymo’n llwyr i feddygaeth deulu yng Nghymru. Mae’r codiad cyflog o 4% yn rhoi cydnabyddiaeth deg i feddygon teulu a staff practisau sy’n gweithio'n ddiflino i ddarparu gofal i gymunedau ym mhob cwr o’r wlad.
Drwy ddarparu sicrwydd o gyllid amlflwyddyn, rydym yn galluogi practisau i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn hyderus gan fuddsoddi yn y trawsnewidiad sydd ei angen ar ein gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’r cytundeb hwn yn cefnogi ein rhaglen drawsnewid cymunedol-o’r-cychwyn, a fydd yn ail-lunio gwasanaethau ar sail yr anghenion yn lleol ac yn helpu i ddarparu mwy o ofal yn agosach at gartrefi pobl.
Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r trafodaethau am gydweithio i gyrraedd y pwynt hwn.
Mae’r cytundeb yn dod yn dilyn trafodaethau adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, a GPC (Pwyllgor Meddygon Teulu) Cymru.
Mae’r pecyn ar gyfer 2025 i 2026 yn cynnwys £37.9m mewn buddsoddiad newydd ac ailfuddsoddi £4m o gyllid ar gyfer capasiti ychwanegol. Fel rhan o’r pecyn, mae cynnydd o 1.77% ar gyfer treuliau i helpu i reoli costau sy’n cynyddu, yn ogystal â £20m o gyllid rheolaidd i helpu i sefydlogi’r sefyllfa ar unwaith ac i baratoi ar gyfer y cam nesaf o ddiwygio gwasanaethau.
Mae hefyd yn cynyddu’r premiwm partneriaeth er mwyn helpu i gadw clinigwyr profiadol ac i wneud partneriaethau meddygon teulu yn fwy deniadol a chynaliadwy, gan sicrhau parhad mewn gofal i gleifion.
Bydd adolygiad o’r fformiwla ar gyfer dyrannu’r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) hefyd yn cael ei gynnal – yr asesiad cynhwysfawr cyntaf mewn dros 20 mlynedd.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd:
Mae adolygu’r fformiwla ar gyfer dyrannu'r contract GMS yn gyfle mawr i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu’n deg ac yn adlewyrchu anghenion presennol practisau a chymunedau ledled Cymru.
Rwy’n falch hefyd y bydd gweithgorau yn cael eu sefydlu i ysgogi gwelliannau, gan gynnwys o ran y safonau mynediad a’r trefniadau ar gyfer atal diabetes. Bydd meddygon teulu hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu modelau gwasanaeth arloesol sy’n gwella mynediad a chanlyniadau ac sy’n darparu gofal yn lleol.
