Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Gofynnir i'r cyhoedd helpu i lywio dyfodol cymorth i bobl â dementia a'u teuluoedd, wrth i strategaeth 10 mlynedd newydd gael ei chyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Strategaeth Dementia newydd yn adeiladu ar lwyddiannau Cynllun Gweithredu Dementia cyntaf Cymru sydd wedi helpu i wella gwasanaethau a chael gwared ar y stigma o fyw gyda dementia.

Mae mwy na 400 o bobl eisoes wedi helpu i ddatblygu'r blaenoriaethau yn y strategaeth newydd. Nawr mae ymgynghoriad yn cael ei lansio i fireinio'r strategaeth ymhellach.

Mae'n canolbwyntio ar 7 maes allweddol:

  • lleihau risg ac atal dementia.
  • cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia.
  • gwella diagnosis, triniaeth a gofal.
  • cefnogi gofalwyr di-dâl.
  • datblygu’r gweithlu.
  • hyrwyddo ymchwil ac arloesi.
  • cryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.

Mae'r strategaeth yn cydnabod y gellid atal neu oedi bron i hanner yr achosion o ddementia drwy newidiadau ffordd o fyw fel parhau i wneud gweithgarwch corfforol, cynnal cysylltiadau cymdeithasol a rheoli cyflyrau fel pwysedd gwaed uchel a diabetes.

Mae hefyd yn mynd i'r afael ag anghenion penodol siaradwyr Cymraeg, defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain a phobl o gymunedau amrywiol, gan sicrhau bod gofal yn sensitif yn ddiwylliannol ac yn briodol yn ieithyddol.

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Rydyn ni am i Gymru fod yn wlad lle mae pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu parchu, eu cynorthwyo a'u grymuso i fyw'n annibynnol gydag urddas yn eu cymunedau.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig wrth ddatblygu strategaeth sydd wir yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i bobl y mae dementia'n effeithio arnynt.

Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i rannu eu barn a'n helpu i greu Cymru sy'n rhydd o stigma, lle mae pawb yn deall dementia ac yn cyfrannu at gymdeithas dosturiol a chynhwysol.

Mae egwyddorion allweddol yn sail i'r strategaeth gan gynnwys:

  • gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • dull sy'n seiliedig ar hawliau
  • gwasanaethau integredig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol

Mae'n cael ei llunio ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd o ddementia, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gofalwyr a sefydliadau ledled Cymru.

Dywedodd Gemma Roberts, rheolwr dylanwadu cenedlaethol Cymdeithas Alzheimer's yng Nghymru:

Dementia yw prif achos marwolaethau yn y DU, ond gallai'r ymgynghoriad hwn fod yn drobwynt i Gymru. 

Mae Cymdeithas Alzheimer's yn falch o fod wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru ar flaenoriaethau'r ymgynghoriad hwn sydd, os cânt eu gweithredu, â'r potensial i drawsnewid bywydau pawb y mae dementia'n effeithio arnynt yng Nghymru. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam enfawr ymlaen ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r manylion, a sicrhau bod y strategaeth yn cyflawni newid gwirioneddol dros y 10 mlynedd nesaf.